Y Wybodaeth Ddiweddaraf i Bractisau Deintyddol / Update for Dental Practices

Having trouble viewing this email? View it as a Web page.

Healthcare Inspectorate Wales
TwitterFacebook iconYoutube

Y Wybodaeth Ddiweddaraf i Bractisau Deintyddol

Gwybodaeth Ddiweddaraf y Prif Swyddog Deintyddol i Gymru

Ymhellach at yr e-bost a anfonwyd atoch ar 22 Hydref, atodir llythyr gan y Prif Swyddog Deintyddol (Saesneg yn unig) ar gyfer pob practis deintyddol.

Byddwch yn ymwybodol bod canllawiau diwygiedig ar Atal a Rheoli Heintiau (IPC) ar gyfer y DU gyfan (Saesneg yn unig) bellach wedi'u cyhoeddi. Fodd bynnag, mae'r Prif Swyddog Deintyddol wedi cadarnhau y bydd y Weithdrefn Gweithredu Safonol (Saesneg yn unig) yn parhau i fod yn gymwys i bob gwasanaeth deintyddol yn ystod ac ar ôl y cyfnod atal byr, ac y caiff ei hadolygu pan fydd cyfradd trosglwyddiadau COVID-19 yn y gymuned yn is.

Byddwn yn ysgrifennu at bob practis deintyddol eto pan gawn y wybodaeth ddiweddaraf.

Tynnu aer ac awyru

Mae angen dilyn y Weithdrefn Safonol bresennol o hyd mewn perthynas â gofynion tynnu aer ac awyru. Rydym yn disgwyl i bob practis deintyddol allu dangos sut mae wedi cydymffurfio â'r gweithdrefnau perthnasol (ac yn parhau i gydymffurfio) wrth osod unedau tynnu aer neu unedau puro aer. I gefnogi hyn, lluniwyd rhestr wirio datganiadau ddefnyddiol i bractisau deintyddol ystyried ei defnyddio wrth gynnal eu cofnodion.

Hyfforddiant Cynnal Bywyd Sylfaenol

Mae llythyr y Prif Swyddog Deintyddol yn amlinellu'r hyn y dylai practisau deintyddol ei wneud os bydd yn anodd iddynt gael hyfforddiant Cynnal Bywyd Sylfaenol. Dylai practisau deintyddol wneud yn siŵr eu bod yn dilyn y canllawiau hyn er mwyn sicrhau y caiff hyfforddiant ei gynnal a'i gofnodi yn unol â chanllawiau'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol a Resus UK.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, cysylltwch ag agic@llyw.cymru neu 0300 062 8163


Update for Dental Practices

Chief Dental Officer (Wales) Update

Further to our email to you on the 22nd October, please find attached a letter from the Chief Dental Officer (Wales) to all dental practices.

You will note that revised UK-wide IPC guidance has now been published. However, the CDO has confirmed that the current Standard Operating Procedure (SOP) will continue to be applicable to all dental services during and after the firebreak period and will be reviewed once Wales returns to a lower rate of community transmission.

We will write to all practices again once there is an update.

Air extraction and ventilation

Air extraction and ventilation requirements remain subject to the current SOP. We expect all practices to be able to demonstrate how they’ve complied (and continue to comply) with relevant procedures when installing air extraction or air purifying units. To support this, a helpful declaration checklist has been developed for practices to consider using when maintaining their records.   

Basic Life Support (BLS training)

The CDO letter outlines a useful approach for practices to follow in the event of difficulties in obtaining in-person Basic Life Support (BLS) training. Practices should ensure that this guidance is followed in order to ensure that training is maintained and recorded in line with GDC and Resus UK guidelines.

If you have any other questions, please contact hiw@gov.wales or 0300 062 8163