Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

15 Rhagfyr 2021


castle

© James Bowden


Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN: Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn gosod nod uchelgeisol i gynnig apwyntiad pigiad atgyfnerthu i bob oedolyn cymwys cyn diwedd y flwyddyn; Ymchwil a Chipolwg - Arolwg tracio teimladau defnyddwyr COVID-19 y DU /  Ymgynghoriad Ystadegau Teithio a Thwristiaeth SYG; Cronfa’r Sector Ymwelwyr Rhyngwladol â Chymru; Neges atgoffa terfynol: Beth ydych chi'nei feddwl o dwristiaeth gynaliadwy?; Nodyn Atgoffa: Lleoedd ar gael ar gyfer Britain & Ireland Marketplace (BIM) 2022; Cofrestrwch nawr: Gweminar Diwydiant Teithio Rhyngwladol Cymru – 4pm, dydd Llun 20 Rhagfyr; £1 filiwn i gefnogi 500 o bobl ddi-waith i ddechrau busnes; Ramblers Cymru yn cipio calonnau cymunedau lleol drwy gerdded; Cyfri a Chofnodi eich Dalfa!; Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19.


Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn gosod nod uchelgeisol i gynnig apwyntiad pigiad atgyfnerthu i bob oedolyn cymwys cyn diwedd y flwyddyn

Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi amilnellu nod Cymru i gynnig apwyntiad I bob oedolyn cymwys gael trydydd dos o’r brechlyn erbyn diwedd Rhagfyr.

Mae cynlluniau brys ar droed i gyflymu’r rhaglen brechlyn atgyfnerthu ymhellach, wrth I dysttiolaeth newydd ddangos nad yw dau bigiad yn ddigon i amddiffyn rhag yr amrywiolyn omicron newydd. Ond mae’r pigiad atgyfnerthu’n hollbwysig i wella’r amddiffyniad rhag yr amwyiolyn newydd sy’n lledaenu’n gyflym.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.

Mae hysbysiadau Llywodraeth Cymru ar gael ar Hysbysiadau | LLYW.CYMRU, sy’n cynnwys:–


Arolwg tracio teimladau defnyddwyr COVID-19 y DU

Mae adroddiad diweddaraf tracio teimladau defnyddwyr y DU wedi'i gyhoeddi ar wefan VisitBritain ac mae’n cynnwys canfyddiadau allweddol o waith maes a wnaed ddechrau mis Rhagfyr. 

Ymgynghoriad Ystadegau Teithio a Thwristiaeth SYG

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn arwain adolygiad o ystadegau teithio a thwristiaeth sy'n cwmpasu teithio mewnol, allanol a domestig yn y DU.  Mae'r adolygiad yn cynnwys gwybodaeth a gasglwyd gan yr Arolwg Teithwyr Rhyngwladol, Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr, arolwg ymweliadau Diwrnod Prydain Fawr yn ogystal â'r cyfle i gasglu gwybodaeth o ffynonellau data amgen newydd.

Mae'r gwaith hwn yn ceisio cael dealltwriaeth gynhwysfawr o anghenion defnyddwyr, ac i edrych ar y ffordd orau o'u diwallu mewn amgylchedd sy'n newid.  Mae'r SYG wedi lansio ymgynghoriad ac mae ganddo ddiddordeb derbyn barn pob sector o'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru sy'n defnyddio ystadegau teithio a thwristiaeth. Cyflwynwch eich ymateb ymaY dyddiad cau yw 21 Rhagfyr.


Cronfa’r Sector Ymwelwyr Rhyngwladol â Chymru

Mae Cronfa’r Sector Ymwelwyr Rhyngwladol â Chymru yn gronfa refeniw wedi'i thargedu sydd wedi’i llunio’n benodol i sicrhau bod Cymru'n cadw’r cyswllt hanfodol drwy’r gadwyn gyflenwi, ac yn adeiladu ar y cyswllt hwnnw, â marchnadoedd rhyngwladol gwerthfawr a ddarperir gan is-sector o Gwmnïau Rheoli Cyrchfannau/trefnwyr teithiau rhyngwladol â Chymru, tywyswyr proffesiynol i dwristiaid ac ysgolion dysgu Saesneg achrededig sydd wedi'u lleoli ac yn gweithredu yng Nghymru.

Mae hon yn gronfa gystadleuol gyda chyllideb gyffredinol gyfyngedig o £400,000. Y trothwy isaf ar gyfer ceisiadau yw £3,000 (yn cynnwys unig fasnachwyr) i hyd at £50,000 i gwmnïau sydd â throsiant uchel.

Bydd arian o’r gronfa cael eu dyrannu i gwmnïau cymwys ar sail y gweithgarwch fydd fwyaf tebygol o hybu cydnerthedd ac adferiad economaidd yn y maes twristiaeth yng Nghymru mewn ffordd gynaliadwy a chyfrifol.

Darllenwch fwy am y gofynion cymhwystra penodol er mwyn cofrestru i ymgeisio yn ein bwletin diwethaf: Bwletin Newyddion: Cronfa’r Sector Ymwelwyr Rhyngwladol â Chymru (govdelivery.com)

Mae datganiad gan Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi i’w weld yma: Datganiad Ysgrifenedig: Cronfa’r Sector Ymwelwyr Rhyngwladol â Chymru (14 Rhagfyr 2021) | LLYW.CYMRU 


Neges atgoffa terfynol: Beth ydych chi'nei feddwl o dwristiaeth gynaliadwy?

Mae Archwilio Cymru am glywed gan fusnesau twristiaeth ym Mharciau Cenedlaethol Cymru a'r cyffiniau ynglŷn â’r her o reoli twristiaeth gynaliadwy.

Mae ein Parciau Cenedlaethol yn enghreifftiau sy'n bwysig yn rhyngwladol o sut y gellir diogelu tirweddau gweithio. Mae'r cysyniad o dirwedd warchodedig – ardal warchodedig lle mae pobl yn byw ac yn gweithio ynddi – o bwysigrwydd cynyddol mewn termau cadwraeth byd-eang.

Cewch wybod mwy mewn bwletin blaenorol a cliciwch yma I agor yr arolwg.

Drwy dreulio ychydig funudau'n rhannu eich barn gallwch helpu i siapio dyfodol twristiaeth gynaliadwy yng Nghymru.


Nodyn Atgoffa: Lleoedd ar gael ar gyfer Britain & Ireland Marketplace (BIM) 2022

Mae BIM yn weithdy busnes-i-fusnes blynyddol a drefnir gan Gymdeithas Cwmnïau Teithio Ewrop (ETOA) ac UKinbound.

Bydd y digwyddiad deuddydd hwn yn cael ei gynnal:

Mae Croeso Cymru wedi trefnu cyfradd arbennig o £100+TAW i nifer fach o gyflenwyr yng Nghymru fynd i'r ddau ddiwrnod.

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru fydd 21 Rhagfyr 2021.

Ewch i wefan y diwydiant twristiaeth i gael rhagor o wybodaeth.


Cofrestrwch nawr: Gweminar Diwydiant Teithio Rhyngwladol Cymru – 4pm, dydd Llun 20 Rhagfyr

Cyn cynnal y Britain and Ireland Marketplace, mae Cymdeithas Cwmnïau Teithio Ewrop (ETOA) ac UKInbound yn cynnal gweminar ar y rhagolygon twristiaeth o ran ymwelwyr rhyngwladol â Chymru.

Bydd yn cynnwys y rhagolygon ar gyfer adfer yn 2022, a’r hyn sydd ei angen i fanteisio ar alw yn y dyfodol. Bydd hefyd yn cynnwys sut y gallai cyflenwyr ddefnyddio’r diwydiant teithio i ddosbarthu eu cynnyrch.

Cofrestrwch nawr ar gyfer gweminar Diwydiant Teithio Rhyngwladol Cymru, lle cewch gyfle i wrando ar y cyfranogwyr a ganlyn:

  • Tom Jenkins, CEO, ETOA
  • Joss Croft, CEO, UKInbound
  • Clare Dwight, Uwch-reolwr Marchnata Twristiaeth, Croeso Cymru
  • Adam Lotinga, Cyn Reolwr Gyfarwyddwr, MIKI
  • Karen Urban, Cyfarwyddwr, Tour Partner Group

£1 filiwn i gefnogi 500 o bobl ddi-waith i ddechrau busnes

Mae Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, wedi cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn lansio cronfa gwerth £1 miliwn i gefnogi hyd at 500 o bobl ddi-waith a phobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant i ddechrau eu busnes eu hunain.

Bydd y grant hwn a fydd yn cael ei roi yn ôl disgresiwn yn rhoi hyd at £2,000 o gymorth ariannol i 400 o unigolion sydd wedi wynebu rhwystrau wrth ddechrau busnes, ac i hyd at 100 o entrepreneuriaid ifanc.

Cewch wybod mwy ar Llyw.Cymru.


Ramblers Cymru yn cipio calonnau cymunedau lleol drwy gerdded 

Mae’r prosiect £1.2m Llwybrau i Lesiant Ramblers Cymru, sy’n cael ei arwain gan gymunedau  yn ceisio trawsnewid cerdded a natur ar draws 18 ardal, drwy helpu pobl i ddatblygu eu rhwydwaith llwybrau a gwella eu mannau gwyrdd lleol.

Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, a Llywodraeth Cymru. 

Gyda chefnogaeth chwe swyddog rhanbarthol, bydd Ramblers Cymru yn darparu'r offer a hyfforddiant angenrheidiol i wirfoddolwyr, fel eu bod yn gallu canfod a dylunio llwybrau newydd a gwella rhai sydd yno eisoes. Bydd hyn yn helpu i ddarparu mannau pwysig i wella llesiant ffisegol a meddyliol cymunedau. Drwy ymuno â'r prosiect, bydd pobl leol yn gallu dysgu sgiliau newydd i helpu i wneud eu cymuned yn fwy gwyrdd ac yn fwy hygyrch i bawb.  

Bydd Ramblers Cymru yn cydweithio ag Ymddiriedolaethau Natur Cymru a Coed Cadw, sef y Woodland Trust yng Nghymru, a bydd rhan allweddol o'r prosiect yn canolbwyntio ar wella natur.

I gael gwybod mwy neu i gymryd rhan mewn cymuned cyfagos sydd wedi’i dewis, ewch i:  www.ramblers.org.uk/pathstowellbeing


Cyfri a Chofnodi eich Dalfa!  

Gan weithio gydag ystod eang o sefydliadau pysgota, morol a physgodfeydd, mae'r Ymddiriedolaeth Bysgota yn ymuno â Llywodraeth Cymru, Defra, Cefas a Substance i alw ar bysgotwyr môr i ymuno â'r prosiect Dyddiadur Pysgota Môr.

Mae'r prosiect yn gwahodd pysgotwyr môr i ddarparu gwybodaeth am ba mor aml y maent yn pysgota, yr hyn y maent yn ei ddal a'r hyn y maent yn ei wario. Mae hyn yn hysbysu llywodraethau'r DU a ffederasiynau pysgota am werth pysgota môr ar gyfer ein heconomi a sut y gellir rheoli pysgodfeydd morol yn fwy effeithlon a chynaliadwy. Mae pysgota hamdden yn ddiwydiant gwerthfawr iawn yng Nghymru, o safbwynt twristiaeth, hamdden a llesiant.

O ran gweithgaredd fel pysgota môr, y pysgotwyr eu hunain sydd angen darparu'r wybodaeth uniongyrchol hanfodol honno. Bydd mwy o bysgotwyr sy'n defnyddio'r Dyddiadur Pysgota Môr yn helpu i ddarparu gwell data ar werth ac effaith y sector, ac yn helpu i wella a chefnogi'r gwaith o reoli pysgodfeydd morol yn gynaliadwy.

Gall pysgotwyr gofrestru yma: www.seaangling.org.  I gael rhagor o wybodaeth ac i gymryd rhan, ewch i Substance Make Your Catch Count – Count Your Catch!


Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram