Cronfa’r Sector Ymwelwyr Rhyngwladol â Chymru
Heddiw bydd cronfa refeniw wedi'i dargedu yn cael ei lansio sydd wedi’i chynllunio'n benodol i sicrhau bod Cymru'n cadw’r cyswllt hanfodol drwy’r gadwyn gyflenwi, ac yn adeiladu ar y cyswllt hwnnw, â marchnadoedd rhyngwladol gwerthfawr a ddarperir gan is-sector y Cwmnïau Rheoli Cyrchfannau/trefnwyr teithiau rhyngwladol â Chymru, tywyswyr proffesiynol i dwristiaid ac ysgolion dysgu Saesneg achrededig sydd wedi'u lleoli ac yn gweithredu yng Nghymru. Mae'r cyflenwyr brodorol hyn yng Nghymru yn darparu gwasanaeth busnes-i-fusnes sy'n sensitif yn ddiwylliannol i drefnwyr ac asiantiaid rhyngwladol sy'n dibynnu ar ddarparwr lleol ar lawr gwlad am wybodaeth a'r cysylltiadau i ddarparu busnes ar draws pob rhan o economi ymwelwyr Cymru, gan gynnwys pob math o lety, atyniad a phrofiad, lletygarwch, manwerthu a thrafnidiaeth.
Bwriad y Gronfa yw cefnogi'r sector i adfer, parhau i fod yn gydnerth a sicrhau'r effaith fwyaf posibl ar yr economi ymwelwyr drwy alluogi derbynwyr i adeiladu ar y teithiau y maent yn eu cynnig ar hyn o bryd drwy ddatblygu a hyrwyddo rhaglenni a phecynnau wedi'u diweddaru. Disgwylir y bydd cynaliadwyedd wrth wraidd y gwaith a fydd yn canolbwyntio ar:
- cynyddu Gwariant
-
Dosbarthiad rhanbarthol ac
- ymestyn y Tymor
Bydd hyn yn y pen draw yn darparu cyfres newydd wedi’i diweddaru o deithiau i Gymru, cyrsiau iaith a rhaglenni y gellir eu harchebu, ochr yn ochr â hyrwyddo cyrchfannau gyda'r nod o ddechrau adfer proffil Cymru a hybu busnes o farchnadoedd rhyngwladol o’r Gwanwyn 2022 ymlaen.
Mae hon yn gronfa gystadleuol gyda chyllideb gyffredinol gyfyngedig o £400,000. Y trothwy isaf ar gyfer ceisiadau yw £3,000 (yn cynnwys unig fasnachwyr) i hyd at £50,000 i gwmnïau sydd â throsiant uchel.
Bydd dyfarniadau'n cael eu dyrannu i gwmnïau cymwys ar sail y gweithgarwch fydd fwyaf tebygol o hybu cydnerthedd ac adferiad economaidd yn y maes twristiaeth yng Nghymru mewn ffordd gynaliadwy a chyfrifol.
Dim ond un cais gan bob busnes fydd yn cael ei dderbyn.
Pwy all ymgeisio?
Mae'r Gronfa'n derbyn ceisiadau gan Gwmnïau Rheoli Cyrchfannau, trefnwyr teithiau i ymwelwyr rhyngwladol, tywyswyr proffesiynol i dwristiaid ac ysgolion dysgu Saesneg achrededig cymwys sydd wedi'u lleoli yng Nghymru sy'n cynnig teithiau, rhaglenni a chyrsiau gan gynnwys arosiadau dros nos.
At ddibenion y Gronfa hon:
-
Cwmni Rheoli Cyrchfannau yw busnes sy’n siop un stop ar gyfer cynhyrchion teithio (ac eithrio teithiau hedfan) i amryfal farchnadoedd rhyngwladol neu rai penodol. Nid yw’n gwerthu’n uniongyrchol i’r defnyddiwr ond yn hytrach mae’n gweithio ar sail busnes i fusnes yn unig h.y. i drefnwyr teithiau, asiant teithio neu gynghorydd teithio.
- Mae trefnydd teithiau i ymwelwyr rhyngwladol yn arbenigo mewn datblygu rhaglenni a theithiau i’w gwerthu’n uniongyrchol i gleientiaid rhyngwladol neu i rwydweithiau asiantiaid teithio rhyngwladol. Gall trefnwyr teithiau fod yn rhai cyffredinol sy’n cynnig pecynnau teithio a gyhoeddir mewn taflenni gwyliau/catalogau ac a werthir drwy asiantiaid teithio neu gallant fod yn drefnwyr teithiau FIT sy’n gwerthu teithiau yn uniongyrchol i’r cleient rhyngwladol yn y pen draw.
- Mae tywysydd proffesiynol i dwristiaid (bathodyn gwyrdd neu glas) yn rhan o’r Gymdeithas Tywyswyr Twristiaid Swyddogol Cymru ar ôl pasio arholiadau tywys ymarferol ac academaidd yn dilyn hyfforddiant helaeth.
- Mae ysgol dysgu Saesneg yn sefydliad preifat achrededig sy'n darparu gwyliau astudio iaith i gleientiaid rhyngwladol sydd hefyd yn cynnwys atyniadau twristiaeth a phrofiadau diwylliannol yng Nghymru.
Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus gyflawni eu rhaglen o weithgareddau cymeradwy rhwng diwedd Ionawr a diwedd Mawrth 2022.
Sut i gofrestru ar gyfer gwneud cais:
I gofrestru ar gyfer pecyn cais bydd angen i chi e-bostio CronfarSectorYmwelwyrRhyngwladol@llyw.cymru a chadarnhau eich bod yn ymgeisydd cymwys drwy fodloni'r holl feini prawf canlynol. Y dyddiad cau i gofrestru ar gyfer pecyn cais: Dydd Mercher 22 Rhagfyr am hanner dydd.
- Rhaid bod yn Gwmni Rheoli Cyrchfannau yng Nghymru, trefnwr teithiau i ymwelwyr ryngwladol, tywyswr proffesiynol i dwristiaid neu yn ysgol dysgu Saesneg achrededig.
- Rhaid bod â man busnes parhaol yng Nghymru (h.y. cyfeiriad swyddfa gofrestredig yng Nghymru gyda Tŷ'r Cwmnïau neu safle busnes ffisegol yng Nghymru)
- Rhaid gallu dangos profiad blaenorol diweddar (2018-2019) o raglenni gweithredu a gweithio yn eu marchnadoedd rhyngwladol a nodwyd (tystiolaeth o'r teithiau / gwerthiannau blaenorol i Gymru a chynlluniau marchnata blaenorol).
- Rhaid i ymgeiswyr fod yn sefydliadau sydd wedi'u rhestru gyda Tŷ'r Cwmnïau i ganiatáu cynnal gwiriadau busnes ffurfiol, neu'n unig fasnachwr.
- Rhaid i ymgeiswyr allu dangos bod cyfyngiadau rhyngwladol pandemig COVID-19 wedi effeithio’n sylweddol arnynt ac nad yw busnes domestig/arall wedi lleihau’r effaith honno.
Os nad ydych yn gymwys ar gyfer y gronfa hon, mae Gwasanaeth Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru hefyd ar gael i drafod amrywiaeth o opsiynau cymorth, gan gynnwys gwybodaeth ymarferol, cyngor busnes neu eich cyfeirio at asiantaethau perthnasol.
Gellir cael gwybodaeth drwy'r wefan: Yn cefnogi busnesau Cymru | Busnes Cymru (llyw.cymru) neu ffoniwch y llinell gymorth ar 03000 6 03000.
Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19
Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw. Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf.
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19).
Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|