Beth ydych chi'nei feddwl o dwristiaeth gynaliadwy?
Mae Archwilio Cymru am glywed gan fusnesau twristiaeth ym Mharciau Cenedlaethol Cymru a'r cyffiniau ynglŷn â’r her o reoli twristiaeth gynaliadwy.
Mae ein Parciau Cenedlaethol yn enghreifftiau sy'n bwysig yn rhyngwladol o sut y gellir diogelu tirweddau gweithio. Mae'r cysyniad o dirwedd warchodedig – ardal warchodedig lle mae pobl yn byw ac yn gweithio ynddi – o bwysigrwydd cynyddol mewn termau cadwraeth byd-eang.
Nid yw hyrwyddo cynaliadwyedd yn golygu atal twristiaeth. Yn hytrach, mae'n golygu darparu twristiaeth mewn ffyrdd sy'n diogelu ac yn gwella ein hamgylchedd naturiol gymaint â phosibl. Mae gwneud hyn yn llwyddiannus yn golygu taro’r cydbwysedd cywir rhwng sicrhau mwynhâd ymwelwyr a chynnal ein cymunedau a'n hamgylchedd.
Cliciwch yma i agor yr arolwg.
Mae'r arolwg yn rhan o adolygiad sy'n cael ei gynnal i gefnogi Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru i fynd i'r afael â'r her o ddarparu twristiaeth gynaliadwy.
Mae Archwilio Cymru am glywed gan fusnesau sy'n elwa o'r Parciau Cenedlaethol am sut mae’r tri Awdurdod:
- yn gweithio i gefnogi twristiaeth gynaliadwy;
- yn eich cynnwys yn eu gwaith ar dwristiaeth gynaliadwy; ac
- eich cefnogi i fod yn fwy cynaliadwy.
Drwy dreulio ychydig funudau'n rhannu eich barn gallwch helpu i siapio dyfodol twristiaeth gynaliadwy yng Nghymru.
Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19
Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw. Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf.
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19).
Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|