Gall ffermwyr drosglwyddo’u Hawliau BPS trwy eu gwerthu, eu lesio neu drwy ewyllys. Fe fydd cyfnod trosglwyddo 2022 yn agor ar 2 Awst 2021. Bydd ffurflenni Trosglwyddo Hawliau ar gael ichi eu llenwi ar-lein ar eich cyfrif RPW Ar-lein. . Rhaid ichi roi gwybod inni cyn canol nos 15 Mai 2022 am unrhyw hawliau sydd wedi’u trosglwyddo er mwyn ichi allu hawlio ar yr hawliau a gewch yn 2022.
Ar ôl i’r gofyniad Gwyrddu gael ei ddileu o BPS o 2021 ymlaen, mae'r gyllideb ar gyfer Gwyrddu wedi cael ei symud i’r gyllideb hawliau BPS. Rydym wedi cynyddu gwerth yr hawliau mewn ymateb i’r newid hwn yn y gyllideb. Mae'r newid yn ngwerth yr hawliau i'w weld bellach ar eich cyfrif RPW Ar-lein.
|