Cylchlythyr Gwlad 30 Gorffennaf 2021

30 Gorffennaf 2021

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION

meadow

Cynllun y taliad Sylfaenol Trosglwyddo hawliau

Gall ffermwyr drosglwyddo’u Hawliau BPS trwy eu gwerthu, eu lesio neu drwy ewyllys. Fe fydd  cyfnod trosglwyddo 2022 yn agor ar 2 Awst 2021.

Bydd ffurflenni Trosglwyddo Hawliau ar gael ichi eu llenwi ar-lein ar eich cyfrif RPW Ar-lein. . Rhaid ichi roi gwybod inni cyn canol nos 15 Mai 2022 am unrhyw hawliau sydd wedi’u trosglwyddo er mwyn ichi allu hawlio ar yr hawliau a gewch yn 2022.

BPS

Cynhyddu gwerth Hawliau BPS

Ar ôl i’r gofyniad Gwyrddu gael ei ddileu o BPS o 2021 ymlaen, mae'r gyllideb ar gyfer Gwyrddu wedi cael ei symud i’r gyllideb hawliau BPS. Rydym wedi cynyddu gwerth yr hawliau mewn ymateb i’r newid hwn yn y gyllideb. 

Mae'r newid yn ngwerth yr hawliau i'w weld bellach ar eich cyfrif RPW Ar-lein.

wg

Y Bil Amaethyddiaeth

Yn dilyn ein Papur Gwyn y llynedd, byddwn yn cyflwyno Bil Amaethyddiaeth ym mlwyddyn gyntaf y Senedd hon i greu system newydd o gymorth fferm a fydd yn manteisio i’r eithaf ar bŵer diogelu natur drwy ffermio. Bydd hyn yn gwobrwyo ffermwyr sy'n cymryd camau i ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur, gan eu cefnogi i gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy.

Byddwn yn disodli'r pwerau am gyfnod penodol yn Neddf Amaethyddiaeth y DU 2020, a gymerwyd gennym i ddarparu parhad a sefydlogrwydd yr oedd mawr eu hangen ar ein ffermwyr wrth inni adael yr UE. Y Bil yw’r cam cyntaf yn ein rhaglen diwygio amaethyddol, a byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda rhanddeiliaid a ffermwyr ar ein cynigion hirdymor.

equine

Allforio ceffylau?

Os ydych chi'n allforio ceffylau, mae angen i chi gofrestru'ch daliad gyda rhif daliad (CPH). Gallwch gofrestru ar gyfer CPH trwy fewngofnodi i Reoli Fy CPH ar RPW ar-lein. Os nad ydych eisoes yn gwsmer RPW ar-lein gallwch gofrestru trwy ddilyn y canllawiau hyn RPW Ar-Lein: sut i gofrestru neu ffoniwch y ganolfan gyswllt cwsmeriaid ar 0300 062 5004. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch EquineIDceffylau@gov.wales

badger

TB Gwartheg: trapio a phrofi moch daear ar ffermydd lle y mae buchesi ag achosion cronig o TB 2020

Mae’r adroddiad ar y gwaith o gyflwyno cewyll moch daear a gweithrediadau profi ar ffermydd yng Nghymru lle cafwyd achosion cronig o TB yn 2020 wedi cael ei cyhoeddu.

pig

Cynlluniau wrth gefn clwy Affricanaidd y Moch yn cael eu profi mewn ymarfer ledled y DU

Mae ymarfer ledled y DU sy’n efylychu achosion o glwy Africanaidd y Moch wedi cael ei gynnal yr wythnos ddiwethaf I brofi cynlluniau wrth gefn y llywodraeth I gynnwys a dileu’r clefyd pe bai’n cyrraedd y DU.

dwr

Dwr Cymru – Welsh Water yn ail-lansio eu cynllun gwaredu plaladdwyr am ddim

Yn dilyn ei lwyddiant yn 2019 a 2020 mae Dwr Cymru Welsh Water wedi ail-lansio eu Cynllun Gwaredu Plaladdwyr yn 2021. Mae'r cynllun hwn yn rhan o brosiect PestSmart ac yn cynnig cyfle i ffermwyr, tyfwyr, ciperiaid, coedwigwyr a rheolwyr tir eraill gael gwared ar unrhyw blaladdwyr, neu chwynladdwyr hen, didrwydded neu dieisiau am ddim. Mae cofrestru'n cau 23 Awst 2021.

forest

Coedwig Genedlaethol Cymru: pecyn cymorth i randdeiliaid 

Rydym yn annog ein holl randdeiliaid i ymuno â'r sgwrs wrth i ni lansio'r Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG) fel rhan o Raglen Coedwig Genedlaethol Cymru – rhwydwaith gysylltiedig o goedwigoedd a fydd yn ymestyn hyd Cymru.

steak

Cynllun newydd I roi mwy o fwyd a diod o Gymru ar silffoedd siopau

Mae Cynllun Manwerthu Bwyd a Diod Cymru wedi cael ei ddatblygu gyda chymorth grŵp o arbenigwyr o’r diwydiant i weld mwy o dwf yn nhrosiant y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru o’i gymharu â’r sector yn y DU gyfan.

fc

FCTV – y rhaglen ffermio newydd, 30 munud o hyd, na fyddwch am ei cholli!

Galwch draw i YouTube, chwiliwch am ‘FCTV’ a dewch i weld sut mae rhai o ffermwyr mwyaf blaengar Cymru, gan gynnwys ffermwyr o safleoedd arddangos Cyswllt Ffermio, yn paratoi ar gyfer y dyfodol – dyfodol lle mae ffermio mewn dull effeithlon, cynaliadwy a phroffidiol yn sbarduno newid. 

cow

Ffermwr llaeth yn pwyso a mesur manteision cost godro robotig mewn buches ar raddfa fawr

Mae menter Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwr ifanc yng Nghymru wrth iddo geisio penderfynu ynglŷn ag uwchraddio cyfleusterau godro’r fferm laeth deuluol.

farmer

Teithiau astudio ledled y DU yn ailddechrau i ffermwyr Cymru ers dechrau’r pandemig

Gyda chyfyngiadau COVID-19 yn dod i rym ar ddechrau 2020, fel amryw o weithgareddau eraill ledled y wlad daeth Teithiau Astudio Cyswllt Ffermio i stop. Gorffennaf yma, mae'r broses ymgeisio yn ailddechrau.

Asulox

Asulox - Awdurdodi Brys i'w ddefnyddio yn 2021

Er mwyn caniatáu i Asulox gael ei ddefnyddio o’r awyr ac ar y ddaear i reoli rhedyn yn 2021, cymeradwywyd Awdurdodiad Brys ar gyfer cynhyrchion sy'n cynnwys y sylwedd gweithredol, Asulam. Mae gan yr Awdurdodi Brys gyfyngiadau ac amodau sy'n gysylltiedig ag ef. Cyfyngir defnydd ar y ddaear i ardaloedd cadwraeth yn unig, a rhaid i'r defnydd yn yr ardaloedd hyn fod o dan gyfarwyddyd y corff cadwraeth perthnasol. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am unrhyw agwedd ar ddefnyddio neu reoleiddio plaladdwyr, gallwch ymweld â gwefan yr Is-adran Rheoleiddio Cemegau.

coal

Rheoleiddio Diogelwch Tomenni Glo yng Nghymru

Mae Comisiwn y Gyfraith ar gyfer Cymru a Lloegr wedi lansio ymgynghoriad ar y drefn arfaethedig newydd ar gyfer sicrhau diogelwch tomenni glo yng Nghymru. Mae’r ymgynghoriad yn rhan o adolygiad o deddfwriaeth ynghylch diogelwch tomenni glo segur a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth newydd er mwyn darparu trefn reoleiddio addas i’w diben ar gyfer dros 2,000 o domenni glo segur yng Nghymru. Mae’r rhan fwyaf o’r tomenni hyn ar dir preifat, gan gynnwys ffermdir. Mae’r ymgynghoriad yn gwahodd sylwadau ynghylch cynigion a fydd yn helpu i ddatblygu’r drefn statudol newydd hon.

Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 10 Medi 2021.

wrnsu

Uned Gymorth Rhwydwaith Gwledig Cymru (UGRGC)

Mae'r UGRGC yn cynorthwyo cyfnewid syniadau rhwng sefydliadau gwledig. Mae ar gael i unrhyw un:

  • gyda diddordeb mewn datblygu gwledig
  • ymwneud â Chymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 a'r cynlluniau y mae'n eu hariannu.
FLS

Tîm Cysylltwyr Fferm

Cymorth un-i-un cyfrinachol. Os ydych angen trafod unrhyw beth cysylltwch gyda un o’r swyddogion.

Llinellau Cymorth

FarmWell Cymru

Mae Farm Well Cymru yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf a manylion am wasanaethau cymorth i ffermwyr Cymru, a all eu helpu nhw a'u busnesau fferm i aros yn gryf ac yn gydnerth drwy gyfnodau o newid ac anwadalrwydd.

Wefan: https://farmwell.cymru/

Cronfa Addington

Ffoniwch: 1926 620135

Wefan: https://www.addingtonfund.org.uk/

Sefydliad DPJ 

Ffoniwch:0800 587 4262 neu tecst: 07860 048799

Ebost: contact@thedpjfoundation.com

Wefan: https://www.thedpjfoundation.co.uk/ 

Y Rhwydwaith Cymunedau Fferm

Ffoniwch: 03000 111 999 

Wefan: https://fcn.org.uk/?lang=cy 

Sefydliad Fuddianol Amaethyddol Frenhinol (RABI)

Ffoniwch: 0808 281 9490

E-bost: help@rabi.org.uk

Wefan: https://rabi.org.uk/

Tir Dewi

Ffoniwch: 0800 121 47 22

Wefan: https://www.tirdewi.co.uk/cy/home-welsh/

 
 

GWYBODAETH AM GWLAD

E-Cylchgrawn gan Lywodraeth Cymru yw Gwlad ar gyfer busnesau fferm a choedwigaeth a'r rheini sy'n ymwneud ag amaeth yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/ffermio-a-chefn-gwlad

Dilynwch ar Twitter:

@LlCCefnGwlad

@LIC_Pysgodfeydd