Croeso i gylchlythyr cyntaf 'Dathlu Datblygu Gwledig'. Wrth inni nesáu at flynyddoedd olaf Rhaglen Datblygu Gwledig olaf yr UE, roedden ni yn Rhwydwaith Gwledig Cymru yn credu mai dyma’r amser delfrydol i edrych yn ôl ar rai o’r pethau a gyflawnwyd gan y rhaglen dros y blynyddoedd a dathlu'r gwahaniaeth y mae'r cyllid wedi'i wneud i gymunedau gwledig gwych Cymru.
LEADER yw'r cynllun cyntaf sydd dan sylw ond byddwn yn canolbwyntio ar gynllun gwahanol bob mis. Byddem, fellu, yn croesawu astudiaethau achos a straeon ar gyfer cyhoeddiadau yn y dyfodol. Anfonwch unrhyw gyfraniadau atom drwy’r e-bost at ruralnetwork@llyw.cymru.
Mae LEADER yn ddull datblygu lleol sydd wedi cael ei ddefnyddio ers 30 mlynedd er mwyn cynnwys a rhoi rhan i bobl a sefydliadau lleol wrth gynllunio a chyflawni strategaethau, ac wrth wneud penderfyniadau a dyrannu adnoddau er mwyn datblygu eu hardaloedd gwledig.
Animeiddiad byr yn esbonio menter yr UE − datblygu lleol dan arweiniad y gymuned (Seasneg yn Unig)
Mae gan Gymru 18 o Grwpiau Gweithredu Lleol (GGLlau) sydd wedi'u gwasgaru'n ddaearyddol ar draws y rhanbarth. Gwnaeth pob Grŵp Gweithredu Lleol gais am gyfran o gyllid LEADER yn 2014, a nhw sy’n gyfrifol am ddyrannu arian yn eu hardaloedd.
Ar hyn o bryd, mae 733 o brosiectau LEADER wedi cael eu rhestru yn y cyfeiriadur ar wefan Rhwydwaith Gwledig Cymru ac mae rhagor o gyllid yn cael ei ddyrannu drwy’r amser.
Isod, ceir detholiad bach yn unig o'r cymorth y mae LEADER wedi'i roi mewn ardaloedd gwledig. Mae’n dangos y gwahaniaeth y mae’r cyllid hwnnw wedi ei wneud, ac yn parhau i'w wneud, i Gymunedau Gwledig.
Prosiectau sydd wedi helpu i fynd i'r afael ag unigedd cymdeithasol ac i ddarparu gwasanaethau i bawb, o’r hen i’r ifanc, i bobl sy'n agored i niwed a phobl ag anableddau, gan gyllido prosiectau sy'n cynnwys gweithgarwch ar draws amryw o sectorau.
 |
|
Astudiaethau Achos y Rhaglen Datblygu Gwledig - cyllid LEADER
Gwyliwch brosiect allgymorth yng Nghastell-nedd Port Talbot sydd wedi helpu cymunedau gwledig i gael mynediad at wasanaethau a sut mae cynllun hydro ym Methesda wedi bod o fudd i'r gymuned.
Prosiect LEADER blasus iawn ym Mhowys.
Ardaloedd gwledig Profi isadeiledd priodol.
|
 |
|
Gall Cynllun LEADER fod yn offeryn economaidd-gymdeithasol defnyddiol, wrth ymateb yn uniongyrchol i’r argyfwng mewn ardaloedd gwledig, ac ar gyfer y broses adfer yn y tymor hir. Mae Grwpiau Gweithredu Lleol yng Nghymru wedi nodi blaenoriaethau uniongyrchol ar lawr gwlad.
|
 |
|
Croesawodd aelodau o staff Grŵp Gweithredu Lleol Sir Benfro, Arwain Sir Benfro a PLANED amrywiaeth o 19 o brosiectau wedi'u cwblhau (2019) a gyflwynodd mewn digwyddiad dathlu byr.
|
 |
|
Datblygu cyfleusterau yn y gymuned ar gyfer pobl hŷn
|
 |
|
Defnyddio celf i fynd i’r afael ag unigedd cymdeithasol ymhlith cyn-filwyr y lluoedd arfog ac aelodau o’r gymuned.
|
 |
|
Gosodwyd y meinciau Steora cyntaf yn y DU, mewn tair cymuned yng Nghonwy wledig - Llangernyw, Llanfair Talhaiarn a thref Conwy.
|
 |
|
Yn dilyn ymchwil helaeth gyda meddygon teulu lleol, ffisiotherapyddion, ymarferwyr atgyfeirio ymarfer corff, gweithwyr cymdeithasol a’r gymuned leol, roedd yn amlwg bod awydd i gynnal y sesiynau e-feicio.
|
 |
|
Gyda lleihad parhaus o argaeledd o wasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig, mae meddygfa Betws-y-Coed wedi penderfynu bod angen gwneud rhywbeth ynghylch hyn.
|
 |
|
Roedd hwn yn brosiect peilot blwyddyn o hyd a gafodd ei gyflwyno mewn partneriaeth rhwng Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot, Gweithdy DOVE a Chanolfan Hyfforddi Glyn-nedd.
|
 |
|
Nod prosiect SWIM yw datblygu techneg newydd ar gyfer rheoli llifogydd drwy ddefnyddio cyfalaf naturiol ar raddfa tirwedd i leihau llifogydd mawr i lawr yr afon.
|
Enghraifft fach iawn yw’r prosiectau uchod o’r rhai a gyflawnwyd dan Raglen 2014-2020. Dychmygwch yr hyn y mae LEADER wedi'i gyflawni mewn 30 mlynedd!
MAE LEADER yn ariannu'r mes bach sy'n tyfu'n goed derw mawr. Man cychwyn llawer o’r prosiectau mawr oedd astudiaeth ddichonoldeb neu weithgaredd peilot a dyfodd yn rhywbeth gwirioneddol gwerth chweil ac a aeth ymlaen wedyn i gael symiau llawer mwy dan Gynlluniau Datblygu Gwledig eraill, yn ogystal â Grantiau Lotto a GrantiauThreftadaeth.
|