Rhwydwaith Gwledig Cymru News Round-up 2020 Rhifyn 05: Mai 2020

News Round-up 2020 Rhifyn 05: Mai 2020

 
 

COVID-19 (Coronafeirws)

covid

Llywodraeth Cymru - Coronafeirws (COVID-19)

Aros gartref:

  • Peidiwch â mynd allan heblaw i brynu bwyd, am resymau iechyd neu i weithio (dim ond pan nad yw hi'n ymarferol rhesymol i weithio gartref)
  • Arhoswch 2 fetr (6tr) i ffwrdd oddi wrth bobl eraill
  • Golchwch eich dwylo cyn gynted ag y byddwch yn cyrraedd adref
  • Gall unrhyw un ledaenu'r feirws.

Datganiad Taliadau Gwledig Cymru (RPW) ynghylch Coronafeirws (COVID-19)

Mewn ymateb i gyngor gan Lywodraeth y DU ac Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) ynghylch COVID 19, mae Taliadau Gwledig Cymru wedi cyflwyno rhai newidiadau i rai o’i wasanaethau er mwyn gwarchod iechyd, diogelwch a lles staff a chwsmeriaid yn ystod y cyfnod heriol hwn.
Bydd y newidiadau hyn yn helpu Taliadau Gwledig Cymru i sicrhau parhad gwasanaethau, cymorth a chyfarwyddyd ynghylch yr holl wahanol gynlluniau, rheolau a rheoliadau y maent yn eu gweinyddu.
Daliwch i edrych ar y wefan am y wybodaeth ddiweddaraf.
Darllenwch mwy ar LLYW.CYMRU

COVID-19 (Coronafeirws) - Newyddion

Cymorth Cymunedol / Busnes

Cylchlythyrau COVID-19 ar gyfer Busnes a’r Sector

Beth Sy’n Digwydd yng Nghymru?

Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 - Ffenestri Cynllun

Glastir

creation

Creu Coetir Glastir

Mae’r cyfnod ar gyfer datgan diddordeb yng Nghynllun Creu Coetir Glastir ar agor, a bydd yn dod i ben ar 12 Mehefin 2020.
Bu nifer o newidiadau i’r broses ymgeisio ar gyfer Creu Coetir Glastir. Mae gwybodaeth bwysig am y newidiadau hyn ar gael ar ein wefan.

pollin

Grantiau Bach Glastir - Tirwedd a Phryfed Peillio 2019

Mewn ymateb i’r pandemig coronafeirws (COVID-19) presennol, mae’r dyddiad cau ar gyfer hawlio wedi cael ei estyn tan 30 Medi 2020. Rhaid i bob hawliad gael ei gyflwyno erbyn y dyddiad hwn, Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Cyswllt Ffermio

fc

Ymgeisiwch ar gyfer hyfforddiant cymorthdaledig yn ystod y cyfnod ymgeisio nesaf

Bydd y cyfnod i gyflwyno cais am hyfforddiant ar gyfer sgiliau yn agor am 9am, ddydd Llun y 4ydd o Fai hyd at 5pm ddydd Gwener 26 Mehefin. Mae ystod eang o gyrsiau achrededig ar gael i bob unigolyn sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio, wedi’u hariannu hyd at 80%.

Twristiaeth

msbf

Cronfa Fusnes Micro Bychan (MSBF)

Mae’r Gronfa Busnesau Micro a Bychan (MSBF) yn gronfa fuddsoddi ar gael i brosiectau yn y sector twristiaeth yng Nghymru. Gellir ei ddefnyddio naill ai i ddiweddaru cynnyrch newydd o safon uchel neu i uwchraddio cynnyrch sy’n bodoli eisoes.

Y dyfodol o ran buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru

consult

A ydych am gael dweud eich barn ynghylch y dyfodol o ran buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru?

Cewch gynnig barn ac adborth ar yr ymgynghoriad drwy ymateb erbyn 5  Mehefin 2020
Mae ymgynghoriad 12 wythnos ‘Fframwaith ar gyfer Buddsoddiad Rhanbarthol yng Nghymru’ yn rhoi cyfle i bawb benderfynu pa ddull o weithio fydd yn fwyaf llwyddiannus i sicrhau twf a chynhwysiant ledled Cymru.

Newyddion ffermio

bps

Estyn cyfnod trosglwyddo hawliau y Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS) 2020

Mae’r cyfnod ar gyfer gwneud cais i drosglwyddo a phrydlesu hawliau’r BPS ar gyfer 2020 wedi cael ei estyn tan hanner nos ar 15 Mai 2020. Rhaid inni gael ein hysbysu erbyn y terfyn amser hwn, er mwyn i’r derbynnydd wneud hawliad am hawliau maen’t yn eu derbyn ar gyfer blwyddyn 2020 y cynllun.

live

Cofrestru Da Byw a Chofnodi Symudiadau yn ystod Coronafeirws (COVID-19)

Dylai ceidwaid da byw barhau i ddilyn y gofynion o safbwynt cofnodi symudiadau a chofrestru da byw. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch cofrestru a chofnodi symudiadau da byw neu unrhyw gwestiynau ynghylch yr amserlenni presennol ar gyfer cofnodi dylech gysylltu â’r gwasanaeth perthnasol. Cliciwch ar y pennawd uchod i weld dolenni ar gyfer pob gwasanaeth.

Straeon newyddion o Gymru

news

Tudalennau Newyddion Rhwydwaith Gwledig Cymru - Y newyddion diweddaraf sy’n gysylltiedig â Rhwydwaith Gwledig Cymru.

Cyhoeddi cynllun grant seiber newydd gwerth £248,000 i awdurdodau lleol Cymru

Cawsom gymorth gan raglen Cyswllt Ffermio i wneud ein busnes yn fwy effeithlon, yn fwy cynaliadwy ac yn fwy proffidiol

Canlyniadau cychwynnol addawol i’r Cynllun Hyrddod Mynydd

Un flwyddyn ers Datgan Argyfwng Hinsawdd

Codwch y ffôn, rydym yma i helpu

Atal y cyfreithiau cystadlu dros dro er mwyn cefnogi'r sector llaeth

design

Cyd-gynllunio ar gyfer Cynllun Ffermio Cynaliadwy i Gymru

Mae Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda Menter a Busnes, yn ymgymryd â rhaglen gydlunio i gydweithio â ffermwyr i edrych ar rai o agweddau mwy ymarferol y cynigion a oedd yn rhan o’r ymgynghoriad Ffermio Cynaliadwy a’n Tir a gynhaliwyd y llynedd.

Brexit

brexit

Wefan Paratoi Cymru

Ar 31 Ionawr gadawodd y DU yr UE ac rydym nawr mewn cyfnod pontio; yn ystod y cyfnod hwn, ni fydd y ffordd yr ydych yn gwneud busnes gyda'r UE yn newid. Fodd bynnag, bydd angen i chi baratoi a gwneud newidiadau er mwyn parhau i wneud busnes ar ddiwedd y cyfnod pontio.

Ffynonellau Cyllid Eraill - DU

farmwell

FarmWell Cymru – cyfeiriadur gwybodaeth a chymorth

Mae menter i helpu ffermwyr Cymru gyda chadernid eu busnes a nhw eu hunain fel unigolion wedi cael ei lansio gan Grŵp Cymorth Ffermydd Cymru. Am ragor o wybodaeth ewch i farmwell.cymru.

grants

Grantiau Ar-lein

Grantiau ar gyfer Datblygu Gwledig ledled y DU.
(Saesneg yn Unig)

Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol

Gall grant gan y Loteri Genedlaethol helpu gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned.

Beth sy’n digwydd yn Ewrop?

enrd

Ymatebion gwledig i’r argyfwng COVID-19

Mae COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar bob agwedd ar fywyd ledled Ewrop. Yn ogystal â bygwth ein hiechyd, mae’r pandemig hefyd yn her ddifrifol i’n systemau economaidd-gymdeithasol. Mewn ardaloedd gwledig, mae ffermwyr, busnesau a chymunedau wedi gweld effaith benodol.

Fideo Grymuso LEADER

Mae Grwpiau Gweithredu Lleol o Wlad Belg, Y Weriniaeth Siec a Sbaen yn dangos ac yn egluro sut y mae LEADER yn cysylltu cymunedau gwledig.

Ymatebion gwledig i’r argyfwng COVID-19 – galwadau RURITAGE

Mae prosiect RURITAGE yn eich gwahodd i rannu’r gweithredu arloesol yng nghanol argyfwng y pandemig i gynyddu a chryfhau cydnerthedd mewn cymunedau gwledig.

Coronavirus: Y Comisiwn Ewropeaidd yn cyhoeddi mesurau eithriadol i gefnogi’r sector bwyd-amaeth

Mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn cymryd camau ar fyrder ac yn bwriadu cymryd mesurau eithriadol i roi mwy o gefnogaeth i’r marchnadoedd amaethyddol a bwyd yr effeithiwyd arnynt fwyaf.

(Saesneg yn Unig)

eip

Gweithgareddau EIP-AGRI sy’n gysylltiedig â iechyd anifeiliaid

Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi datgan 2020 fel Blwyddyn Ryngwladol Iechyd Planhigion (IYPH).

Gwefannau Defnyddiol

Cylchlythyrau Eraill

Oes gennych newyddlen yn ymwneud â'r Cynllun Datblygu Gwledig?

Ydych chi eisiau i ni gynnwys dolen i’ch newyddlenni diweddaraf yn yr adran hon? E-bostiwch ddolen tanysgrifio at rhwydwaithgwledig@llyw.cymru a byddwn yn rhannu'ch straeon.

 
 
 

Amdanom ni

Mae Newyddion Rhwydwaith Gwledig Cymru yn cynnig crynodeb o newyddion, gwybodaeth a chyfleoedd rhwydweithio sy’n gysylltiedig â Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020. Mae’n ffordd hwylus i rannu gwybodaeth ac enghreifftiau o arferion da yng Nghymru, y DU ac Ewrop. Os hoffech chi gyfrannu unrhyw beth sy’n berthnasol i ddatblygu gwledig yng Nghymru, cysylltwch â Rhwydwaithgwledig@llyw.cymru

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/rhwydwaithgwledig

Dilyn ar-lein: