Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bron i £2bn o gymorth i fusnesau yng Nghymru, yn ogystal â'r cymorth a ddarperir gan Lywodraeth y DU. Cewch yma’r wybodaeth diweddaraf am y pecynnau cymorth hyn sydd ar gael i fusnesau yng Nghymru.
Bydd y gwasanaeth hawliadau yn agor ar 13 Mai. Bydd y rheini sy'n gymwys yn cael yr arian wedi'i dalu i'w cyfrif banc erbyn 25 Mai, neu cyn pen chwe diwrnod gwaith ar ôl cwblhau'r hawliad.
Mae adrannau Llywodraeth y DU yn cynnal cyfres o weminarau i helpu busnesau i ddeall y cymorth sydd ar gael iddyn nhw yn ystod y pandemig coronafeirws.
Cyngor a chanllawiau i roi cymorth i chi wella'ch materion ariannol, offer a chyfrifianellau i roi cymorth i chi gadw ar y trywydd iawn a chynllunio ymlaen, a chefnogaeth dros y ffôn ac ar-lein.