Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
Mae’r sefyllfa’n datblygu’n gyflym. Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.
Annog pobl i osgoi teithio ddiangen
Gofynnir i bobl yng Nghymru weithredu'n gyfrifol ac osgoi teithio diangen hyd nes y bydd Llywodraeth Cymru wedi codi cyfyngiadau coronafeirws (COVID-19).
Mewn llythyr agored cyn penwythnos Gŵyl y banc, mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Cynghorydd Andrew Morgan, Cadeirydd Grŵp Plismona Cymru Gyfan a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys, Dafydd Llywelyn, a Chadeirydd Grŵp Prif Swyddogion Cymru, Carl Foulkes, yn galw ar bobl i aros gartref.
Mae’r llythyr hefyd yn dweud yn glir nad yw teithio i ail gartref yn cael ei ystyried yn angenrheidiol fel rheol, ac y bydd unrhyw un sy’n gadael y cartref y maen nhw’n byw ynddo, neu’n aros i ffwrdd o’r cartref y maen nhw’n byw ynddo, heb esgus rhesymol, yn cyflawni trosedd.
Mae’r llythyr yn cloi drwy ddweud: “Edrychwn ymlaen at eich croesawu yn ôl pan fydd hi’n ddiogel i wneud hynny. Tan hynny, gofynnwn ichi aros gartref i ddiogelu’r GIG ac achub bywydau.“
Darllenwch fwy am Hwyl Fawr. Am y tro: Annog pobl i osgoi teithio diangen
Cymorth i Fusnesau:
Y Cynllun Benthyciadau Adfer yn awr yn derbyn ceisiadau
Bydd y cynllun benthyciadau Bounce Back yn helpu i gryfhau’r pecyn cymorth presennol sydd ar gael i’r busnesau lleiaf a effeithiwyd gan y pandemig coronafeirws ac yn galluogi busnesau i gael benthyciad chwe blynedd ar gyfradd llog wedi’i gosod gan y llywodraeth o 2.5% y flwyddyn.
Darllenwch fwy ar wefan Busnes Cymru
Ni allwch wneud cais os ydych chi eisoes yn hawlio o dan y Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes yn sgil y Coronafeirws (CBILS).
Mae rheolau llawn y cynllun a chanllawiau ar gael ar wefan British Business Bank.
I wneud cais am Fenthyciad Adfer, ewch i wefan GOV.UK.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd miloedd o elusennau bach yn y sector manwerthu, hamdden a lletygarwch yn cael grant cymorth busnes gwerth £10,000 i’w helpu i ymateb i heriau ariannol COVID-19.
Bydd y pecyn newydd hwn, gwerth £26 miliwn yn cefnogi 2,600 o eiddo ychwanegol gyda gwerth trethadwy o £12,000 neu lai. Am wybodaeth bellach
Diweddariadau i’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws (CJRS)
Mae’r newidiadau a ganlyn wedi’u gwneud i ganllawiau’r Cynllun Cadw Swyddi:
Canllawiau i gyflogeion
- Gall gweithwyr ar ffyrlo sy’n gynrychiolwyr undebol neu anundebol gyflawni dyletswyddau a gweithgareddau at ddibenion cynrychioli cyflogeion neu weithwyr eraill yn unigol neu ar y cyd.
- Cadarnhad bod cyfarwyddwyr cwmnïau sy’n cael eu talu’n flynyddol yn gymwys i hawlio.
- Ni ddylai cyflogeion sy’n cael lwfans mamolaeth yn ystod cyfnod o absenoldeb mamolaeth gael tâl ffyrlo ar yr un pryd.
Canllawiau i gyflogwyr: Cymhwystra
- Wedi’u diweddaru yn unol â newidiadau i ganllawiau gweithwyr.
- Nid yw grantiau CJRS yn cael eu hystyried yn gymorth gwladwriaethol.
- Wedi newid y dyddiad o 28 Chwefror i 19 Mawrth 2020 yn yr adran ar drosglwyddiadau TUPE a chyfuno’r gyflogresi.
Canllawiau i gyflogwyr: sut i gyfrifo’r grant
- Mae’r cyfraddau cyflog uchaf dyddiol ar gyfer mis Mehefin wedi’u hychwanegu at y tabl gan fod y cynllun wedi’i estyn.
- Roedd gwell eglurder yn yr adran ar gyfraniadau yswiriant gwladol wedi cadarnhau bod modd defnyddio’r dull canran uniongyrchol neu ddull tablau ac roeddent wedi ychwanegu gwybodaeth newydd i gyfarwyddwyr cwmnïau.
Agorodd y cynllun ar gyfer ceisiadau ar 20 Ebrill gyda’r grantiau cyntaf yn cael eu talu yn ystod yr wythnos yn dod i ben ar 1 Mai.
Llesiant ac Iechyd Meddwl a chymorth i weithwyr
Mae ein cymdeithas yn wynebu dyddiau digynsail, ac os ydych yn hunangyflogedig neu’n berchen ar fusnes, bydd COVID-19 yn peri cryn ansicrwydd. Fodd bynnag, nawr mwy nag erioed, rhaid inni gymryd camau i sicrhau ein hiechyd meddwl ni ac iechyd meddwl ein cyflogeion.
Mae toreth o gymorth llesiant ar gael ichi ar-lein. Darllenwch fwy am Gymorth Llesiant ac Iechyd Meddwl.
Mae yna hefyd amryfal wybodaeth a chyngor ar gyfer cyflogeion y gallwch eu gweld yn Cymorth ar COVID-19 i Weithwyr.
Cadw pellter cymdeithasol a diogelu gweithwyr unigol
Yn sgil gofynion cadw pellter cymdeithasol, mae gweithio ar eich pen eich hun wedi dod yn llawer mwy cyffredin. Mae gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ganllawiau ar gyfer cyflogwyr i gadw gweithwyr unigol yn iach ac yn ddiogel. Darllenwch fwy ar sut i amddiffyn gweithwyr unigol
Gallwch hefyd ddod o hyd i Ganllawiau i weithwyr a busnesuar ar y coronafeirws (COVID-19) ar wefan Gov.UK.
COVID-19: Gweminarau ar y Cynllun Ad-dalu Tâl Salwch
Mae CThEM yn cynnal gweminarau am ddim i gefnogi busnesau yn ystod y pandemig coronafeirws. Mae’r gweminarau yn rhoi trosolwg ar y cynllun ad-daliadau tâl salwch, gan gynnwys:
- pwy all hawlio
- pryd i ddechrau talu’r tâl salwch statudol
- y gweithwyr y gallwch hawlio drostyn nhw
- gwneud cais
- cadw cofnodion, a mwy
Dewiswch ddyddiad ac amser yma.
Adnoddau ychwanegol gan Lywodraeth y DU i gefnogi eich busnes yn ystod y tarfu yn sgil coronafeirws
Mae adrannau Llywodraeth y DU yn cynnal cyfres o weminarau i helpu busnesau i ddeall y cymorth sydd ar gael iddyn nhw yn ystod y pandemig coronafeirws. Darllenwch fwy a y weminarau sydd ar gael.
Yr wybodaeth ddiweddaraf am farchnata:
Gyda Gŵyl y Banc yn agosáu, rydym yn parhau i fod ar y cyfryngau cymdeithasol, ac yn canolbwyntio ar wybodaeth am iechyd y cyhoedd a’r neges syml “Hwyl Fawr. Am y Tro”.
Cofiwch, rhag ofn y bydd yn ddefnyddiol i chi, rydym hefyd wedi paratoi cyngor a chanllawiau gyfer y diwydiant i’ch helpu i gyfathrebu â’ch cwsmeriaid eich hun ar yr adeg hon. Mae’r canllawiau yn seiliedig ar ddull gweithredu Croeso Cymru ar hyn y bryd, ac mae’n cynnwys awgrymiadau ynghylch y math o gynnwys y gallech chi ei rannu â’ch cwsmeriaid yn ystod y cyfyngiadau symud. Croeso Cymru - Cyngor ar gyfer y Diwydiant Twristiaeth - Cyfathrebu gyda’ch cwsmeriaid.
Rydym yn bwriadu cyflwyno cynnwys ychwanegol addas ar ein sianeli cymdeithasol yn fuan, sy’n amodol ar y sefyllfa ac yn unol â theimladau’r cyhoedd. Bydd hynny’n cynnwys deunydd sy’n ategu ein cyrchfannau ac yn cefnogi ein partneriaid o fewn y diwydiant. Mae parhau i gysylltu’n ddyddiol â llawer o randdeiliaid yn dal i fod yn werthfawr wrth inni gynllunio, gan sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau i gefnogi’r sector yn y tymor byr a chanolig drwy adlewyrchu safbwyntiau’r diwydiant ochr yn ochr â safbwyntiau cyrchfannau a chymunedau.
Trysorlys y DU yn cwtogi trethi i leihau costau PPE
O 1 Mai 2020, ni fydd TAW yn cael ei chodi ar Gyfarpar Diogelu Personol (PPE) a brynir gan cartrefi gofal, busnesau, elusennau ac unigolion i ddiogelu yn erbyn Covid-19 am gyfnod o dri mis. Ewch i wefan Gov.uk am ragor o fanylion
Dinistrio cwrw, seidr, gwin neu win a wnaed sydd wedi’u difetha, yn ystod coronafeirws (COVID-19)
Mae CThEM wedi cyflwyno mesur dros dro i helpu gyda dinistrio cwrw, seidr, gwin neu win a wnaed sydd wedi’u difetha, yn ystod coronafeirws, ar gyfer:
- bragwyr
- cynhyrchwyr seidr
- cynhyrchwyr gwin neu win a wnaed
- tafarnwyr
Darllenwch fwy ar wefan Gov.uk
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod yr adeg anodd, ddigynsail hon, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). Mae’r rhain yn cynnwys:
- 01 Mai: Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
- 27 Ebrill: Grantiau cyntaf y Gronfa Cadernid Economaidd i gael eu talu i fusnesau ac yn cael ei rhewi am hanner dydd HEDDIW
- 24 Ebrill: Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
- 20 Ebrill: Bwletin: Cronfa Cadernid Economaidd - £100m ychwanegol; Yswiriant aflonyddwch busnes - galwad am dystiolaeth; Cynllun Cadw Swyddi ar agor
- 17 Ebrill: Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
- 17 Ebrill: Y Gronfa Cadernid Economaidd - y cyfnod ymgeisio yn dechrau
- 10 Ebrill: Dysgwch a yw eich busnes yn gymwys i gael cymorth gan y Gronfa Cadernid Economaidd newydd
- 09 Ebrill: Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
- 08 Ebrill: Hysbysiad Brys i Fusnesau Llety Gwyliau (Diwygio) / Cais i Fusnesau Llety Gwyliau ddarparu llety i grwpiau bregus
- 02 Ebrill: Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
- 30 Mawrth: Cronfa Cadernid Economaidd newydd gwerth £500 miliwn wedi’i lansio ar gyfer Cymru
- 27 Mawrth: Neges Frys i Fusnesau Llety Gwyliau
- 27 Mawrth: Cynllun Cymorth Incwm ar gyfer yr Hunangyflogedig; Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws
- 26 Mawrth: Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
- 25 Mawrth: Neges Frys: COVID-19 – Cyngor i Berchnogion a Gweithredwyr Parciau Gwyliau
- 24 Mawrth: Canllawiau ar y Coronafeirws ar gyfer Busnesau ac Eiddo a fydd yn cau
- 23 Mawrth: Cyflwyno mesurau newydd cadarn heddiw i arafu lledaeniad y coronafeirws
- 19 Mawrth: Gweinidogion yn cyhoeddi pecyn cymorth newydd gwerth £1.4 biliwn i fusnesau
- 12 Mawrth: Coronafeirws: gwybodaeth i’r diwydiant
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y newyddion diweddaraf ar gyfer y diwydiant twristiaeth drwy ein dilyn ar @CroseoCymruBus, a hefyd anogwch eraill a allai fod ar eu hennill o wneud hynny i danysgrifio i’n cylchlythyr ni yma
|