|
National Food Crime Unit (NFCU) industry update: November 2024 |
|
Dear Subscriber,
Welcome to our latest industry update, where we:
- highlight the key risks and issues that may be impacting the food industry
- share best practice to strengthen the industry’s response to food crime
- tell you about our ongoing work
In this edition:
You can contact our Prevention team to feedback, raise a concern or possibly contribute to a future update.
Mutton dressed as lamb
We would like to raise awareness of tighter lamb supplies and higher prices leaving vulnerabilities for the misrepresentation of mutton being labelled as lamb. Higher risk products would include diced and minced lamb products including ready made meals and takeaway products where flavour and texture differences may be disguised.
Classification
Sheep are classified into three categories:
- new season lamb (NSL)
- old season lamb / hoggets (OSL)
- mature sheep / mutton (MS)
NSL are animals born and marketed within a year beginning on 1 January or born after the beginning of October in the year prior to marketing. OSL and hoggets are aged between 9 to 24 months until they cut two permanent teeth. MS and mutton are sheep with two or more permanent incisor teeth erupted and generally over 2 years of age.
What you can do
Check your specifications and ask customer suppliers to ensure you are not receiving mutton dressed as lamb.
Is there more that can be done to strengthen your resilience? The National Food Crime Unit has created the Food Fraud Resilience Self-Assessment Tool which is a quick online resource you can revisit whenever you want, as often as you want. The tool has been designed to help food businesses in assessing their resilience to food crime.
Constantly review your supply chains and identify the vulnerabilities where fraud may occur, think outside the box and seek to address the vulnerabilities you identify.
Check the traceability of a product to ensure its claim of origin are true. It is good practice to ask questions to suppliers of businesses you are working with to ensure their claims are true about the goods you are purchasing.
Lamb compared to mutton
Lamb:
- meat from sheep that are younger than a year old are called lamb
- lamb is more moist, tender, and fine grained, compared to mutton
- pale pink in colour
- lamb meat has little fat
- preferred over mutton in the United States
Mutton:
- mutton is the name for meat from a mature domestic sheep
- mutton is stronger in flavour and has larger grain texture than lamb meat
- intense red in colour
- sheep meat has more fat
- more popular in Europe and the Middle East
|
|
|
Report a food crime
Food Crime Confidential: 0800 028 11 80 (0207 276 8787 for non-UK mobiles and calls).
Email: foodcrime@food.gov.uk
|
|
Futura Foods Q&A
We met with Futura Foods earlier this year when they took part in our In-Depth Fraud Resilience Assessment, which enables the team to meet with businesses and take a deeper dive into their fraud risk and discuss where improvements can be made and highlight what is working. This was following completion of our Food fraud resilience self-assessment tool.
We caught up, below, with Futura Foods to see how the In-Depth Fraud Assessment had helped their business.
NFCU: Tell us about Futura Foods and what prompted you to take part in the NFCU Full fraud assessment?
Futura Foods: Integrity in our supply chain is a priority at Futura Foods. We import cheese from Europe into the UK, and our customers trust us to ensure it is authentic. We wanted to stress test our resilience to food fraud and proactively mitigate any unidentified risks in our business. Nicky Hughes, our Technical & Quality Director, met the National Food Crime Unit (NFCU) at the BRCGS Connect Conference in February 2024, where they impressively presented their work. As a business, we will always seek advice from experts in their field where relevant, such as the NFCU or Campden BRI. It is important to gather specialist advice, learn where you can, use the advice in your business and act intentionally to improve. Every business has their unique skills, and it is important to respect the NFCU and utilise their expertise in this area.
NFCU: Following completion of the full fraud assessment, do you believe you have a greater awareness of food related fraud vulnerabilities within or threats to your business?
Futura Foods: Absolutely, yes. The way the NFCU identifies the 7 types of food crime has helped us to see where we already mitigate risks and identified some gaps which we had not yet considered. An example of this is business fraud and internal fraud. With this in mind, we have been working on developing our culture in the business. One of our core ways of working is ‘integrity’ and we are helping to further embed this by asking each department to present how they work with compliance to ensure our business succeeds. We are calling it ‘Celebrating Compliance Day’.
NFCU: Do you feel that having completed the assessment, you have increased your resilience and ability to prevent food related fraud within your business?
Futura Foods: Yes, instead of us just talking about fraud, we now address this more positively as counter fraud. It now feels like we can take action to prevent potential fraud both inside and outside our business rather than being reactive. For example, our IT team conducts phishing training and tests to ensure we are resilient to spam hyperlink threats. We also use the various cheese consortium websites to verify the authenticity of scanned documents we receive to ensure the information is correct.
NFCU: Have you made any changes to your business’ approach to food crime since taking part in the full fraud assessment? i.e. any specific measures or processes you will be putting in place to prevent fraud?
Futura Foods: The importance of a Counter Fraud Policy has been identified and the senior management at Futura are currently drafting the policy. The 7 types of food crimes will form the backbone of this policy, but it is important we can measure its success and impact on the business. We are pulling in expertise from all departments to get a holistic view through all our operations.
NFCU: Would you recommend taking part in a Full Fraud Assessment and why?
Futura Foods: We would highly recommend businesses to take part in a resilience assessment. The NFCU have highly trained experts in their field, who will look at your business from a law enforcement focal point which is a rare experience. It was useful to be guided through our current business operations with a brand-new emphasis and it’s been amazing how it has awoken new focal points for us.
If you are interested in taking part in an in-depth full fraud assessment, please contact NFCU.prevention@food.gov.uk
|
Grey market update
We would like to share an update below from our colleagues in the FSA’s Incidence and Resilience Unit.
The Incident and Resilience Unit (IRU), covers the prevention and management of food safety incidents. The Prevention Team within IRU was formed in 2019 to reflect focus on proactive, coordinated activities to prevent incidents. The IRU Prevention Team works very closely with NFCU’s Prevention Team, particularly on joint stakeholder engagement.
Prevention of ‘grey market’ goods on sale in UK illegally
One of the prevention activities the IRU is working on is raising awareness of ‘grey market’ goods, i.e. products imported from outside of GB that were not intended for sale in the UK, originally having been formulated for another market.
We see a high number of incidents relating to these products, and the majority are confectionary and soft drinks from the USA. Grey Market goods are also referenced in the NFCU Food Crime Strategic Assessment 2024.
Why are grey market products a problem?
These products present risks to consumers from:
- missing/incorrect allergen labelling
- the inclusion of ingredients that don’t meet UK food safety standards
- the inclusion of ingredients that are not permitted for use in the UK
- food additives at levels that exceed the permitted maximum use level in the UK
- businesses selling these goods that may be linked to more fraudulent behaviours
What are we doing about the issue?
FSA and Food Standards Scotland (FSS) are working together using a range of approaches to address the issue. This includes making importers, ports, local authorities, food businesses and consumers aware and request that they take action and play their part to reduce the demand and supply of these products which do not meet the UK’s food safety standards. We continue to work collaboratively to understand the developing picture regarding these sales and any indication of food fraud facilitating this trade.
Our ask from industry…
Please ensure that these types of imported product are compliant with UK legislation and be aware that some products were not manufactured with the intention of being sold in the UK, and therefore may not comply with UK law.
Food additives must be authorised for use in food, and they can only be used in the specified permitted categories of food listed within assimilated Regulation 1333/2008 (EU legislation still applies in NI). Assimilated Regulation 1333/2008 (EU legislation still applies in NI) establishes conditions of use for all food additives authorised in the UK. The regulation sets out the acceptable conditions of use, the foods in which they may be used and where necessary, maximum permitted levels or use in accordance with the ‘quantum satis’ principle.
‘Quantum statis’ means no maximum numerical level is specified and substances must be used in accordance with good manufacturing practice, at a level not higher than is necessary to achieve the intended purpose and provided the consumer is not misled.
Non-compliant products must not be placed on the UK market, and we are working with local authorities to tackle offending behaviour to ensure such products are removed from the market and potentially destroyed.
If you have any queries, please contact the Trading Standards or Food Safety team at your local authority.
If you have any queries on this matter, please email preventionteam@food.gov.uk
|
|
|
Food Fraud Resilience Self-Assessment tool
Our tool has been designed to support food businesses in identifying the risk to their business from food crime, and outline steps that they can take to mitigate those risks.
The NFCU’s Prevention team offer an in-depth fraud resilience assessment. Following the completion of the self-assessment tool. The team can provide an assessment which aims to:
- identify the risk level an organisation has to fraud
- get people within an organisation thinking about fraud resilience and how it is approached
- help and assist the food industry in building resilience to food fraud
If you are interested in this, please contact NFCU.prevention@food.gov.uk
|
|
Prevention desktop exercises
In a previous edition, we advised on the launch of the NFCU Prevention teams food fraud “Desktop exercises”. These will be made available to industry, so that they can work through several scenarios to test their responses. The intention of the exercises is to understand key process steps and communication channels required during a food crime incident. This will also give an understanding of the relevant internal and external stakeholders during an incident. Partners will be required to analyse a situation, make decisions, and respond effectively to mitigate the impact of the incident. A safe space for food industry professionals to practice their response to potential food crimes and their fraud-related challenges, with a focus on the importance of prevention.
On 2nd and 3rd October, the NFCU RM & Prevention team rolled out the first set of food fraud prevention desktop exercises in Cardiff. These sessions were created in response to the following recommendation made by the Food Fraud Working Group last September:
- Publicise and further develop free education and training resources for industry on food fraud and how to report it
Both days were hosted by the Zero2Five Food Industry Centre based within Cardiff Metropolitan University. The sessions were attended by a mix of technical teams from Welsh businesses and consultant technical professionals from Zero2Five.
The sessions focus on 4 tasks related to a fictional food crime incident scenario and after the 4 tasks are completed there is an extensive session on fraud prevention methods and FSA NFCU resources are signposted.
There was a high level of engagement from all the participants throughout the day. Initial verbal feedback has been extremely positive, with many attendees sharing that they had not considered certain areas as food fraud risks in their business prior to the training.
To register your interest in taking part in future Desktop exercises, please email NFCU.Prevention@food.gov.uk for further information.
|
Horizon scanning
Below is a summary of what our horizon scanning has found. We hope you find this useful to help us work together to prevent food fraud.
Seasonal pork products
Seasonal pork products including gammon and ham are currently in production; the UK is having a poor year for pork production. As forecasted production and demand travel in differing directions across the final quarters of 2024, there is potential for GB pig prices to see downward pressure in the coming weeks and months, although there may be some seasonal uplift nearer to the key Christmas demand period.
|
New EU anti-deforestation law
This law was due to take effect from January 2025; it has now been delayed to January 2026 following requests from numerous EU nations to impose a delay due to the implementation of this law and the impact on business not being clearly defined. This law sets out to ban the sale of specific commodities such as coffee, cocoa, palm oil, and soybeans in the EU if they were grown in deforested areas.
|
Arabica coffee
The price of Arabica coffee beans has risen by approximately 40% due to a number of factors including adverse weather conditions in Vietnam and Brazil.
|
NFCU Industry Alert
On 19 November, the NFCU issued an industry alert (downloads PDF) regarding the risk of distribution fraud thefts from food businesses. This is due to a recent increase in the reporting of distribution fraud being used as a method of stealing high value food products from UK based companies.
The full alert can be read here (downloads PDF).
Get in touch with feedback or requests for content
Do you have any thoughts or suggestions about how we could improve our newsletter? If so, we want to hear from you!
If you have any feedback, please let us know at NFCU.Prevention@food.gov.uk
|
|
|
Do you need to read our previous newsletter?
|
|
Subscribe to this newsletter and others
If this email was forwarded to you, you can subscribe below and get future newsletters delivered direct to your inbox.
Update your subscriptions, modify your password or email address, or stop subscriptions at any time on your Subscriber preferences page. You will need to use your email address to log in. If you have questions or problems with the subscription service, please visit subscriberhelp.govdelivery.com.
This service is provided to you at no charge by UK Food Standards Agency.
|
|
Diweddariad yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) i’r diwydiant: Tachwedd 2024 |
|
Annwyl Danysgrifiwr,
Croeso i’n diweddariad rheolaidd i’r diwydiant, lle rydym yn:
- tynnu sylw at y prif risgiau a phroblemau a allai fod yn effeithio ar y diwydiant bwyd
- rhannu arferion gorau er mwyn cryfhau ymateb y diwydiant i droseddau bwyd
- rhoi gwybod i chi am ein gwaith parhaus
Yn y rhifyn hwn:
Gallwch gysylltu â’n Tîm Atal i roi adborth, codi pryder neu gyfrannu at ddiweddariad yn y dyfodol.
Hen ddafad yng nghnu oen bach
Hoffem dynnu eich sylw at y gostyngiad yn faint o gig oen sydd ar gael a phrisiau uwch, sy’n golygu bod risg o gig dafad yn cael ei gamliwio a’i labelu fel cig oen. Byddai cynhyrchion sy’n peri risg uwch yn cynnwys cynhyrchion cig oen wedi’u deisio a briwgig, gan gynnwys prydau parod a bwyd tecawê lle gallai gwahaniaethau yn y blas a’r ansawdd gael eu cuddio.
Dosbarthu
Caiff defaid eu dosbarthu yn dri chategori:
- cig oen tymor newydd (NSL)
- cig oen yr hen dymor / hesbinod (OSL)
- defaid aeddfed / cig dafad (MS)
Anifeiliaid sy’n cael eu geni a’u rhoi ar y farchnad o fewn blwyddyn sy’n dechrau ar 1 Ionawr neu anifeiliaid sy’n cael eu geni ar ôl dechrau mis Hydref yn y flwyddyn cyn eu rhoi ar y farchnad yw anifeiliaid NSL. Mae OSL a hesbinod rhwng 9 a 24 mis oed nes iddynt dorri dau ddant parhaol. Mae MS a chig dafad yn disgrifio defaid gyda dau neu fwy o flaenddannedd parhaol ac maent fel arfer dros 2 flwydd oed.
Beth allwch chi ei wneud?
Gwiriwch eich manylebau a gofyn i’r rheiny sy’n cyflenwi cwsmeriaid sicrhau nad ydych yn cael cig dafad wedi’i labelu’n gig oen.
A allwch wneud mwy i gryfhau eich gwydnwch? Mae’r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) wedi creu adnodd i hunanasesu gwydnwch yn erbyn twyll bwyd. Dyma adnodd hwylus ar-lein y gallwch ei ddefnyddio pryd bynnag ac mor aml ag y dymunwch. Bwriad yr adnodd yw helpu busnesau bwyd i asesu eu gwydnwch yn erbyn troseddau bwyd.
Adolygwch eich cadwyni cyflenwi yn gyson a nodwch y gwendidau lle gallai twyll ddigwydd. Meddyliwch yn gwbl ddilyffethair, a cheisiwch fynd i’r afael â’r gwendidau y byddwch yn eu canfod.
Gwiriwch olrheiniadwyedd cynnyrch i sicrhau bod yr honiad o ran ei darddiad yn wir. Mae’n arfer da gofyn cwestiynau i gyflenwyr busnesau rydych chi’n gweithio gyda nhw, a hynny er mwyn sicrhau bod eu honiadau am y nwyddau rydych chi’n eu prynu’n wir.
Cig oen neu gig dafad
Cig oen:
- gelwir cig o ddefaid sy’n iau na blwydd oed yn gig oen
- mae cig oen yn fwy llaith, tyner, ac mae ganddo raen mân, o’i gymharu â chig dafad
- mae lliw pinc golau ar y cig
- dim ond ychydig o fraster sydd gan gig oen
- mae pobl yn yr Unol Daleithiau yn ffafrio cig oen dros gig dafad
Cig dafad:
- cig dafad yw’r enw ar gig o ddafad ddomestig aeddfed
- mae blas cryfach i gig dafad ac mae ganddo wead â graen mwy na chig oen
- mae lliw coch dwys arno
- mae mwy o fraster mewn cig dafad
- mae’n fwy poblogaidd yn Ewrop a’r Dwyrain Canol
|
|
|
Rhoi gwybod am drosedd bwyd
Trechu Troseddau Bwyd yn Gyfrinachol: 0800 028 1180 (0207 276 8787 ar gyfer ffonau symudol a galwadau nad ydynt yn dod o’r DU).
E-bost: foodcrime@food.gov.uk
|
|
Sesiwn holi ac ateb gyda Futura Foods
Gwnaethom gwrdd â Futura Foods yn gynharach eleni ar ôl iddynt gymryd rhan yn ein hasesiad gwydnwch manwl yn erbyn twyll, sy’n galluogi’r tîm i gwrdd â busnesau a chael golwg manwl o’u risg o dwyll, a thrafod lle gellir gwneud gwelliannau ac amlygu’r hyn sy’n gweithio. Roedd hyn ar ôl iddynt ddefnyddio ein hadnodd i hunanasesu gwydnwch yn erbyn twyll bwyd.
Gwnaethom sgwrsio â Futura Foods, sydd i’w weld isod, i ddysgu sut roedd yr asesiad twyll manwl wedi helpu eu busnes.
NFCU: Dywedwch wrthym am Futura Foods a beth a wnaeth eich ysgogi i gymryd rhan yn asesiad twyll llawn yr NFCU?
Futura Foods: Mae uniondeb yn ein cadwyn gyflenwi yn flaenoriaeth yn Futura Foods. Rydym yn mewnforio caws o Ewrop i’r DU, ac mae ein cwsmeriaid yn ymddiried ynom i sicrhau ei fod yn ddilys. Roeddem am brofi ein gwydnwch yn erbyn twyll bwyd a mynd ati’n rhagweithiol i liniaru unrhyw risgiau anhysbys yn ein busnes. Gwnaeth Nicky Hughes, ein Cyfarwyddwr Technegol ac Ansawdd, gyfarfod â’r NFCU yng Nghynhadledd BRCGS Connect ym mis Chwefror 2024, lle roedd yr Uned yn cyflwyno’i gwaith. Fel busnes, byddwn bob amser yn ceisio cyngor gan arbenigwyr yn y maes lle bo’n berthnasol, fel yr NFCU neu Campden BRI. Mae’n bwysig casglu cyngor arbenigol, dysgu ble y gallwch, defnyddio’r cyngor yn eich busnes a mynd ati’n rhagweithiol i wella. Mae gan bob busnes sgiliau unigryw, ac mae’n bwysig parchu’r NFCU a defnyddio eu harbenigedd yn y maes hwn.
NFCU: Ar ôl cwblhau’r asesiad twyll llawn, ydych chi’n credu bod gennych fwy o ymwybyddiaeth o ffactorau risg o ran twyll sy’n gysylltiedig â bwyd o fewn eich busnes neu fygythiadau iddo?
Futura Foods: Ydyn, heb os. Mae’r ffordd y mae’r NFCU yn nodi’r saith math o droseddau bwyd wedi ein helpu i weld lle rydym eisoes yn lliniaru risgiau ac i nodi rhai bylchau nad oeddem wedi’u hystyried eto. Enghraifft o hyn yw twyll busnes a thwyll mewnol. Wrth ystyried hyn, rydym wedi bod yn gweithio ar ddatblygu ein diwylliant o fewn y busnes. Un o’n ffyrdd craidd o weithio yw ‘uniondeb’ ac rydym yn helpu i wreiddio hyn ymhellach drwy ofyn i bob adran gyflwyno sut maent yn cydymffurfio i sicrhau bod ein busnes yn llwyddo. Rydym yn ei alw’n ‘Ddiwrnod Dathlu Cydymffurfiaeth’.
NFCU: Ydych chi’n teimlo eich bod, ar ôl cwblhau’r asesiad, wedi cynyddu eich gwydnwch a’ch gallu i atal twyll sy’n ymwneud â bwyd yn eich busnes?
Futura Foods: Ydyn, yn hytrach na siarad am dwyll yn unig, rydym bellach yn mynd i’r afael â hyn yn fwy cadarnhaol fel gwrth-dwyll. Mae bellach yn teimlo y gallwn gymryd camau i atal twyll posib y tu mewn a’r tu allan i'n busnes yn hytrach na gorfod gweithio mewn modd ymatebol. Er enghraifft, mae ein tîm TG yn cynnal hyfforddiant gwe-rwydo a phrofion i sicrhau ein bod yn gallu gwrthsefyll bygythiadau drwy ddolenni sbam. Rydym hefyd yn defnyddio gwefannau amrywiol y Consortiwm Caws i wirio dilysrwydd dogfennau wedi’u sganio er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth yn gywir.
NFCU: A ydych wedi gwneud unrhyw newidiadau i ddull eich busnes at droseddau bwyd ers cymryd rhan yn yr asesiad twyll llawn? Hynny yw, a fyddwch chi’n rhoi unrhyw fesurau neu brosesau penodol ar waith i atal twyll?
Futura Foods: Mae pwysigrwydd Polisi Atal Twyll wedi’i nodi ac mae uwch-reolwyr Futura wrthi’n drafftio’r polisi. Y saith math o droseddau bwyd fydd yn ffurfio asgwrn cefn y polisi hwn, ond mae’n bwysig ein bod yn gallu mesur ei lwyddiant a’i effaith ar y busnes. Rydym yn manteisio ar arbenigedd o bob adran i gael golwg gyfannol ar ein holl weithrediadau.
NFCU: A fyddech chi’n argymell cymryd rhan mewn asesiad twyll llawn a pham?
Futura Foods: Byddem yn sicr yn argymell busnesau i gymryd rhan mewn asesiad gwydnwch. Mae gan yr NFCU arbenigwyr hyfforddedig iawn yn eu maes, a fydd yn edrych ar eich busnes ar lefel gorfodi’r gyfraith, sef profiad anghyffredin. Roedd yn ddefnyddiol cael ein harwain trwy ein gweithrediadau busnes presennol gyda phwyslais newydd sbon, a gweld meysydd newydd y gallwn ganolbwyntio arnynt.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn asesiad twyll llawn manwl, cysylltwch â NFCU.prevention@food.gov.uk
|
Diweddariad ar y farchnad lwyd
Hoffem rannu diweddariad gan ein cydweithwyr yn Uned Digwyddiadau a Gwydnwch yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB).
Mae’r Uned Digwyddiadau a Gwydnwch yn ymdrin ag atal a rheoli digwyddiadau diogelwch bwyd. Sefydlwyd y Tîm Atal o fewn yr Uned Digwyddiadau a Gwydnwch yn 2019, a hynny er mwyn adlewyrchu ffocws ar weithgareddau rhagweithiol, cydgysylltiedig i atal digwyddiadau. Mae Tîm Atal yr Uned Digwyddiadau a Gwydnwch yn gweithio’n agos iawn gyda Thîm Atal yr NFCU, yn enwedig wrth ymgysylltu â rhanddeiliaid ar y cyd.
Atal nwyddau’r ‘farchnad lwyd’ sydd ar werth yn y DU yn anghyfreithlon
Un o’r gweithgareddau atal y mae’r Uned Digwyddiadau a Gwydnwch yn gweithio arno ar hyn o bryd yw codi ymwybyddiaeth o nwyddau’r ‘farchnad lwyd’. Dyma gynhyrchion a fewnforir o’r tu allan i Brydain Fawr na fwriedir eu gwerthu yn y DU, gan eu bod wedi’u creu ar gyfer marchnad arall yn wreiddiol.
Gwelwn nifer uchel o ddigwyddiadau yn ymwneud â’r cynhyrchion hyn, ac mae’r mwyafrif yn felysion a diodydd meddal o’r Unol Daleithiau. Cyfeirir at nwyddau’r farchnad lwyd hefyd yn Asesiad Strategol o Droseddau Bwyd 2024 yr NFCU.
Pam mae cynhyrchion y farchnad lwyd yn broblem?
Mae’r cynhyrchion hyn yn peri risgiau i ddefnyddwyr oherwydd:
- bod labelu alergenau ar goll/anghywir
- eu bod yn cynnwys cynhwysion nad ydynt yn bodloni safonau diogelwch bwyd y DU
- eu bod yn cynnwys cynhwysion na chaniateir eu defnyddio yn y DU
- bod ychwanegion bwyd yn bresennol ar lefelau sy’n uwch na’r lefel defnydd uchaf a ganiateir yn y DU
- y gallai’r busnesau sy’n gwerthu’r nwyddau hyn fod yn gysylltiedig ag ymddygiadau mwy twyllodrus
Beth ydym yn ei wneud am y mater?
Mae’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban (FSS) yn gweithio ar y cyd i fynd i'r afael â’r mater gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod mewnforwyr, porthladdoedd, awdurdodau lleol, busnesau bwyd a defnyddwyr yn ymwybodol o’r mater, a gofyn iddynt gymryd camau a chwarae eu rhan i leihau’r galw a’r cyflenwad o’r cynhyrchion hyn nad ydynt yn bodloni safonau diogelwch bwyd y DU. Rydym yn parhau i weithio ar y cyd i ddeall y darlun sy’n datblygu o ran y gwerthiannau hyn ac unrhyw arwydd o dwyll bwyd sy’n hwyluso’r fasnach hon.
Dyma ofyn i’r diwydiant...
Sicrhewch fod y mathau hyn o gynnyrch a fewnforir yn cydymffurfio â deddfwriaeth y DU, a byddwch yn ymwybodol na chafodd rhai cynhyrchion eu gweithgynhyrchu gyda’r bwriad o gael eu gwerthu yn y DU. O’r herwydd, efallai na fyddant yn cydymffurfio â chyfraith y DU.
Rhaid i ychwanegion bwyd gael eu hawdurdodi i’w defnyddio mewn bwyd, a dim ond yn y categorïau bwyd penodedig hynny a ganiateir ac a restrir yn Rheoliad a gymathwyd 1333/2008 y gellir eu defnyddio (mae deddfwriaeth yr UE yn dal i fod yn gymwys yng Ngogledd Iwerddon). Mae Rheoliad a gymathwyd 1333/2008 (mae deddfwriaeth yr UE yn dal i fod yn gymwys yng Ngogledd Iwerddon) yn sefydlu amodau defnyddio ar gyfer yr holl ychwanegion bwyd a awdurdodir yn y DU. Mae’r Rheoliad yn nodi’r amodau defnyddio derbyniol, y bwydydd y caniateir eu defnyddio ynddynt a, lle bo angen, y lefelau uchaf a ganiateir neu’r defnydd a ganiateir yn unol â’r egwyddor ‘quantum satis’.
Mae ‘quantum satis’ yn golygu nad oes lefel rifiadol uchaf wedi’i phennu, a rhaid defnyddio sylweddau yn unol ag arferion gweithgynhyrchu da, ar lefel nad yw’n uwch na’r hyn sy’n angenrheidiol i gyflawni’r pwrpas a fwriedir, ac ar yr amod na chaiff y defnyddiwr ei gamarwain.
Rhaid peidio â rhoi cynhyrchion nad ydynt yn cydymffurfio ar farchnad y DU. Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i fynd i’r afael ag ymddygiad troseddol er mwyn sicrhau bod cynhyrchion o’r fath yn cael eu tynnu oddi ar y farchnad ac, o bosib, eu dinistrio.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’r tîm Safonau Masnach neu Ddiogelwch Bwyd yn eich awdurdod lleol.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ar y mater hwn, anfonwch e-bost i preventionteam@food.gov.uk
|
|
|
Adnodd Hunanasesu Gwytnwch yn erbyn Twyll Bwyd
Nod ein hadnodd yw cefnogi busnesau bwyd i nodi’r risg y mae troseddau bwyd yn ei pheri i’w busnes ac mae’n amlinellu camau y gallant eu cymryd i liniaru’r risg honno.
Mae Tîm Atal yr NFCU yn parhau i gynnig asesiad manwl o wydnwch yn erbyn twyll. Ar ôl cwblhau’r adnodd hunanasesu, gall y tîm ddarparu asesiad sydd â’r bwriad o:
- nodi lefel y risg sydd gan sefydliad i dwyll
- annog pobl o fewn sefydliadau i feddwl am wydnwch yn erbyn twyll a sut y dylid ymdrin â hyn
- helpu a chynorthwyo’r diwydiant bwyd i feithrin gwydnwch yn erbyn twyll bwyd
Os oes gennych ddiddordeb yn hyn, cysylltwch ag NFCU.prevention@food.gov.uk
|
|
Ymarferion bwrdd gwaith ar gyfer atal
Mewn rhifyn blaenorol, gwnaethom roi gwybod am lansiad “Ymarferion bwrdd gwaith” timau atal twyll bwyd yr NFCU. Bydd y rhain ar gael i’r diwydiant, fel y gallwch weithio trwy nifer o senarios i brofi sut y byddech yn ymateb. Bwriad yr ymarferion yw deall camau allweddol i’r broses a’r sianelau cyfathrebu sydd eu hangen yn ystod digwyddiad trosedd bwyd. Bydd hyn hefyd yn rhoi dealltwriaeth o’r rhanddeiliaid mewnol ac allanol perthnasol yn ystod digwyddiad. Bydd gofyn i bartneriaid ddadansoddi sefyllfa, gwneud penderfyniadau, ac ymateb yn effeithiol i liniaru effaith y digwyddiad. Bydd yn cynnig lle diogel i weithwyr proffesiynol yn y diwydiant bwyd allu ymarfer eu hymateb i droseddau bwyd posib a’u heriau sy’n ymwneud â thwyll, gan ganolbwyntio ar bwysigrwydd atal.
Ar 2 a 3 Hydref, cyflwynodd Tîm Rheoli Perthynas ac Atal yr NFCU y set gyntaf o ymarferion bwrdd gwaith ar gyfer atal twyll bwyd yng Nghaerdydd. Crëwyd y sesiynau hyn mewn ymateb i’r argymhelliad canlynol a wnaed gan y Gweithgor Twyll Bwyd fis Medi diwethaf:
- Datblygu ymhellach adnoddau addysgu a hyfforddiant am ddim i’r diwydiant ar dwyll bwyd a sut i roi gwybod amdano, a sicrhau bod yr adnoddau hyn yn cael eu rhannu’n gyhoeddus
Cynhaliwyd y ddau ddiwrnod gan Ganolfan Diwydiant Bwyd Zero2Five ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Roedd cymysgedd o dimau technegol o fusnesau yng Nghymru a gweithwyr proffesiynol technegol ymgynghorol o Zero2Five yn cymryd rhan yn y sesiynau.
Roedd y sesiynau’n canolbwyntio ar bedwar tasg a oedd yn ymwneud â senario digwyddiad trosedd bwyd dychmygol. Ar ôl i’r pedair tasg gael eu cwblhau, roedd sesiwn helaeth ar ddulliau atal twyll a chyfeiriwyd at adnoddau NFCU yr ASB.
Roedd lefel uchel o ymgysylltu gan yr holl gyfranogwyr drwy gydol y dydd. Mae adborth cychwynnol ar lafar wedi bod yn hynod gadarnhaol, gyda llawer o bobl yn dweud nad oeddent wedi ystyried rhai meysydd fel risgiau twyll bwyd yn eu busnes cyn yr hyfforddiant.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn ymarferion bwrdd gwaith yn y dyfodol, anfonwch e-bost i NFCU.Prevention@food.gov.uk i gael mwy o wybodaeth.
|
Sganio’r gorwel
Isod, mae crynodeb o’r hyn y mae ein gwaith sganio’r gorwel wedi’i ganfod. Gobeithiwn y bydd hyn o ddefnydd i chi wrth i ni weithio gyda’n gilydd i atal twyll bwyd.
Cynhyrchion porc tymhorol
Mae cynhyrchion porc tymhorol, gan gynnwys gamwn a ham, yn cael eu cynhyrchu ar hyn o bryd. Mae’r DU yn cael blwyddyn wael o ran cynhyrchu porc Mae ansicrwydd ynghylch y galw am borc ar gyfer chwarter olaf 2024. Mae’n bosib y bydd prisiau’n gostwng yn yr wythnosau nesaf, ond wedi hynny bydd rhywfaint o gynnydd yn nes at y Nadolig.
|
Cyfraith gwrth-ddatgoedwigo newydd yr UE
Roedd y gyfraith hon i fod i ddod i rym o Ionawr 2025 ymlaen. Mae bellach wedi’i gohirio tan fis Ionawr 2026 yn dilyn ceisiadau gan nifer o wledydd yr UE oherwydd nad yw’r broses o roi’r gyfraith hon ar waith a’r effaith ar fusnes wedi’u diffinio’n glir. Mae'r gyfraith hon yn ceisio gwahardd gwerthu nwyddau penodol fel coffi, coco, olew palmwydd, a ffa soia yn yr UE pe baent yn cael eu tyfu mewn ardaloedd wedi’u datgoedwigo.
|
Coffi Arabica
Mae pris ffa coffi Arabica wedi codi tua 40%, a hynny oherwydd nifer o ffactorau gan gynnwys tywydd garw yn Fietnam a Brasil.
|
Rhybudd yr NFCU i’r diwydiant
Ar 19 Tachwedd, cyhoeddodd yr NFCU rybudd i’r diwydiant (yn lawrlwytho PDF) ynghylch y risg o ddwyn oddi ar fusnesau bwyd drwy dwyll dosbarthu. Mae hyn oherwydd cynnydd diweddar yn nifer yr adroddiadau am dwyll dosbarthu sy'n cael ei ddefnyddio fel dull o ddwyn cynhyrchion bwyd gwerth uchel oddi ar gwmnïau yn y DU.
Gellir darllen y rhybudd llawn yma (yn lawrlwytho PDF).
Cysylltwch â ni gydag adborth neu geisiadau am gynnwys
Oes gennych chi unrhyw syniadau neu awgrymiadau am ffyrdd o wella ein cylchlythyr? Os oes, hoffem glywed gennych chi!
Os oes gennych chi unrhyw adborth, rhowch wybod i ni yn NFCU.Prevention@food.gov.uk
|
|
|
Oes angen i chi ddarllen ein cylchlythyr blaenorol?
|
|
Tanysgrifiwch i'r cylchlythyr hwn a chylchlythyrau eraill
Os anfonwyd yr e-bost hwn ymlaen atoch, gallwch danysgrifio isod a chael cylchlythyrau yn y dyfodol yn syth i’ch mewnflwch.
Gallwch ddiweddaru eich tanysgrifiadau, addasu eich cyfrinair neu gyfeiriad e-bost, neu stopio tanysgrifiadau unrhyw bryd ar eich tudalen dewisiadau Tanysgrifiwr. Bydd angen i chi ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost i fewngofnodi. Os oes gennych gwestiynau neu broblemau gyda’r gwasanaeth tanysgrifio, ewch i subscriberhelp.govdelivery.com.
Darperir y gwasanaeth hwn i chi am ddim gan Asiantaeth Safonau Bwyd y Deyrnas Unedig.
|
|
|
|
|