|
National Food Crime Unit (NFCU) quarterly industry update: March 2024 |
|
Dear Subscriber,
Welcome to our latest quarterly industry update, where we:
- highlight the key risks and issues that may be impacting the food industry
- share best practice to strengthen the industry’s response to food crime
- tell you about our ongoing work
In this edition:
- Request for feedback on your Industry updates
- NFCU in the news – highlights from recent prosecutions
- Spotlight on Kpomo – what is it? Is it legal to sell?
- Food fraud affecting herbs and spices – Radio 4 article
- Sign up now for Industry desktop exercises
You can contact our Prevention team to feedback, raise a concern or possibly contribute to a future update.
National Food Crime Unit: quarterly industry update feedback
Do you have any thoughts or suggestions about how we could improve our newsletter? If so, we want to hear from you!
We want to make sure the newsletter is meeting your needs, so your feedback is invaluable to us. Plus, it won't take up much of your time.
Here are just a few reasons why you should take the time to give us feedback:
- Your views matter and they can help shape the future of this newsletter.
- You can help us create a better experience for all users.
- Your responses will be confidential and anonymous. We will only use them to make our newsletter content better.
If you have any feedback, please let us know at NFCU.Prevention@food.gov.uk
|
|
|
Report a food crime
Food Crime Confidential: 0800 028 11 80 (0207 276 8787 for non-UK mobiles and calls).
Email: foodcrime@food.gov.uk
|
|
Spotlight on: Kpomo
We have been working with local authorities to ensure that Kpomo is being processed and sold legally. In November 2023, we received intelligence that a product called Kpomo/Ponmo (cow skin) was being sold widely across the UK in African retail/grocery stores, via online platforms and imported into the UK for human consumption. Kpomo can be considered fit for human consumption within the UK but only if it meets general hygiene requirements. This includes appropriate labelling and traceability of end products. If cattle skin (including beef masks) is intended for human consumption, it must have an identification mark, as per Annex II, Section I of REUL 853/2004. This is one way of telling whether a Kpomo product is 1) intended for human consumption 2) fit for human consumption. If this ID mark isn’t present, it automatically is categorised as Category 3 ABP. The legislative requirements specifically for skin can be found throughout REUL 853/2004, including prohibitions (e.g. tanned hides cannot enter the human food chain).
If you are unsure of any of the regulations required in selling Kpomo for human consumption, contact your local authority - Find your local Trading Standards office - GOV.UK (www.gov.uk)
|
NFCU Head of Analysis and Futures promotes the fight against Food Crime on Radio 4
Giles Chapman contributed to this episode of BBC Radio 4's The Food Programme, talking about our work with Food Crime and about Food fraud affecting herbs and spices. Listen here: The Food Programme - The herb and spice scam? - BBC Sounds
|
NFCU impact
FSA welcomes custodial sentence in food crime case
Three men have been sentenced after successful prosecutions by the Crown Prosecution Service (CPS) following a North Wales Police investigation into £300,000 chicken theft and fraud in North Wales. The FSA’s National Food Crime Unit (NFCU), working with partners carried out an unannounced visit and secured evidence which assisted the police.
Andrew Quinn, Head of the Food Standards Agency’s National Food Crime Unit, said: "We welcome these sentences, as this sends a strong deterrent message to those considering committing food crimes. I want to thank the CPS and North Wales police for their excellent partnership work in securing these convictions. Together, we are stronger in the fight against food fraud, and we continue to work with partners to help ensure that consumers are protected.”
You can read more about this here - FSA welcomes custodial sentence in food crime case | Food Standards Agency
FSA prosecutes production manager who obstructed an NFCU officer
One woman has been fined after pleading guilty following a successful prosecution by the FSA for intentionally obstructing an NFCU officer during an unannounced visit. The FSA works to ensure food is safe and what it says it is by monitoring compliance at approved premises ensuring all specific requirements in food hygiene legislation are met.
Emma Nakova, from Northampton, was charged with the obstruction of an officer acting in the execution of the Hygiene Regulations on 15th December 2021. She pleaded guilty at Northampton Magistrates Court on 17th January 2024.
The defendant, a production manager at Northamptonshire Food Services Ltd admitted obstructing the NFCU’s unannounced visit by delaying entry to the premises. Nakova was sentenced to a fine of £500, victim surcharge of £200 and full prosecution costs of £12,118.18.
Head of the FSA’s NFCU, Andrew Quinn, said: “We’re tackling food fraudsters and protecting public health by helping to ensure businesses meet their responsibility to sell safe and authentic food. This case shows that people who stand in the way of our work can become personally liable for substantial costs – it’s vital that we gain access to fulfil our own responsibilities to check whether anything untoward is going on. Deterring people who don’t play by the rules and ensuring they don’t get away with it helps support legitimate businesses and we continue to work together with industry to protect the consumer.”
Man sentenced in Newry for gangmaster offences
A man has been convicted of gangmaster offences in Northern Ireland following investigations carried out by the Gangmasters and Labour Abuse Authority (GLAA).
Aurimas Andrijauskas, from Newry was sentenced to 12 months imprisonment suspended for three years for acting as an unlicensed gangmaster when he appeared before Newry Crown Court. Andrijauskas was found to have been illegally gathering and processing shellfish along the coastlines of Northern Ireland and Scotland without having a GLAA licence between January 2019 and March 2022.
Welcoming the sentencing, Yvonne Barwani, Senior Financial Investigator with the NFCU, Food Standards Agency, the allocated Financial Investigator under a joint working agreement with GLAA, said: “The financial work I conducted estimated that this individual had made around £250,000 from his offending. The offending involved illegal shellfish harvesting which is one of our NFCU control strategy priorities.
At NFCU we are committed to tackling food crime in all it’s different forms and we will continue to work with partners to protect consumers interests in relation to food.”
You can share concerns confidentially about food fraud where you work on food.gov.uk, or you can call for free on 0800 028 1180.
|
Industry desktop exercises
In our next edition, read all about how the Prevention team are currently testing a new series of food fraud desktop exercises. These will be made available to industry, so that they can work through a number of scenarios to test their responses. The intention of the exercises is to understand key process steps and communication channels required during a food crime incident. This will also give an understanding of the relevant internal and external stakeholders during an incident. Partners will be required to analyse a situation, make decisions, and respond effectively to mitigate the impact of the incident. We will provide a safe space for food industry professionals to practice their response to potential food crimes and their fraud-related challenges, with a focus on the importance of prevention.
To register your early interest in taking part, please email NFCU.Prevention@food.gov.uk for further information.
|
|
|
Food Fraud Resilience Self-Assessment tool
Our tool has been designed to support food businesses in identifying the risk to their business from food crime, and outline steps that they can take to mitigate those risks.
The NFCU’s Prevention team offer an in-depth fraud resilience assessment. Following the completion of the self-assessment tool. The team can provide an assessment which aims to:
- identify the risk level an organisation has to fraud
- get people within an organisation thinking about fraud resilience and how it is approached
- help and assist the food industry in building resilience to food fraud
If you are interested in this, or wish to speak directly with the Prevention team about your food fraud resilience please contact NFCU.prevention@food.gov.uk
|
|
If this email was forwarded to you, you can subscribe below and get future messages delivered direct to your inbox.
Update your subscriptions, modify your password or email address, or stop subscriptions at any time on your Subscriber preferences page. You will need to use your email address to log in. If you have questions or problems with the subscription service, please visit subscriberhelp.govdelivery.com.
This service is provided to you at no charge by UK Food Standards Agency.
|
|
Diweddariad chwarterol yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) i’r diwydiant: Mawrth 2024 |
|
Annwyl Danysgrifiwr,
Croeso i ddiweddariad chwarterol diweddaraf yr NFCU i’r diwydiant, lle rydym yn:
- tynnu sylw at y prif risgiau a phroblemau a allai fod yn effeithio ar y diwydiant bwyd
- rhannu arferion da er mwyn cryfhau ymateb y diwydiant i droseddau bwyd
- rhoi diweddariadau ar ein gwaith parhaus
Yn y rhifyn hwn:
- Cais am adborth ar ein diweddariadau i’r diwydiant
- NFCU yn y newyddion – yr uchafbwyntiau o erlyniadau diweddar
- Dan y chwyddwydr: beth yw Kpomo? A yw’n gyfreithlon i werthu?
- Twyll bwyd yn effeithio ar berlysiau a sbeisys – erthygl Radio 4
- Cofrestru ar gyfer ymarferion bwrdd gwaith y diwydiant
Gallwch gysylltu â’n Tîm Atal i roi adborth, codi pryder neu gyfrannu at ddiweddariad yn y dyfodol.
Yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd: adborth ar ddiweddariadau chwarterol i’r diwydiant
Oes gennych chi unrhyw syniadau neu awgrymiadau am ffyrdd o wella ein cylchlythyr? Os felly, rydym am glywed gennych chi!
Rydym am sicrhau bod y cylchlythyr yn diwallu eich anghenion, felly mae eich adborth yn amhrisiadwy i ni. Hefyd, ni fydd yn cymryd llawer o’ch amser.
Dyma ambell reswm dros gymryd yr amser i roi adborth:
- Mae eich safbwyntiau yn bwysig a gallant helpu i lywio’r cylchlythyr hwn.
- Gallwch ein helpu ni i greu profiad gwell i bob defnyddiwr.
- Bydd eich ymatebion yn gyfrinachol ac yn ddienw Byddwn ond yn defnyddio’ch ymatebion i wella ein cylchlythyr a’n cynnwys.
Os oes gennych chi unrhyw adborth, rhowch wybod i ni yn NFCU.Prevention@food.gov.uk
|
|
|
Rhoi gwybod am drosedd bwyd
Trechu Troseddau Bwyd yn Gyfrinachol: 0800 028 1180 (0207 276 8787 ar gyfer ffonau symudol a galwadau nad ydynt yn dod o’r DU).
E-bost: foodcrime@food.gov.uk
|
|
Dan y chwyddwydr: Kpomo
Rydym wedi bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod Kpomo yn cael ei brosesu a’i werthu’n gyfreithlon. Ym mis Tachwedd 2023, cawsom wybod bod cynnyrch o’r enw Kpomo/Ponmo (croen buwch) yn cael ei werthu’n eang ledled y DU mewn siopau manwerthu/groser Affricanaidd, trwy lwyfannau ar-lein, a’i fewnforio i’r DU i’w fwyta gan bobl. Gall Kpomo fod yn addas i’w fwyta gan bobl yn y DU ar yr amod ei fod yn bodloni gofynion hylendid cyffredinol. Mae hyn yn cynnwys labelu priodol a sicrhau bod modd olrhain cynhyrchion terfynol. Os bwriedir i groen gwartheg (gan gynnwys croen cig eidion) gael ei fwyta gan bobl, rhaid iddo gael marc adnabod, yn unol ag Atodiad II, Adran I o REUL 853/2004. Dyma un ffordd o bennu a yw cynnyrch Kpomo wedi’i fwriadu i’w fwyta gan bobl neu’n addas i’w fwyta gan bobl. Os nad oes marc adnabod, caiff ei gategoreiddio’n awtomatig fel sgil-gynhyrchion anifeiliaid Categori 3. Mae’r gofynion deddfwriaethol sy’n benodol ar gyfer croen i’w gweld yn REUL 853/2004, gan gynnwys gwaharddiadau (er enghraifft, ni all crwyn â lliw fynd i mewn i’r gadwyn fwyd).
Os ydych yn ansicr ynghylch unrhyw rai o’r rheoliadau sy’n ofynnol ar gyfer gwerthu Kpomo i’w fwyta gan bobl, cysylltwch â’ch awdurdod lleol – Dod o hyd i’ch swyddfa Safonau Masnach leol - GOV.UK (www.gov.uk)
|
Pennaeth Dadansoddi a Dyfodol yr NFCU yn trafod y frwydr yn erbyn Troseddau Bwyd ar Radio 4
Cyfrannodd Giles Chapman at yr episod hwn o raglen BBC Radio 4, The Food Programme. Siaradodd Giles am ein gwaith ym maes troseddau bwyd, ac am dwyll bwyd sy’n effeithio ar berlysiau a sbeisys. Gwrandewch arni yma: The Food Programme - The herb and spice scam? - BBC Sounds
|
Effaith yr NFCU
Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn croesawu dedfryd o garchar mewn achos o droseddau bwyd
Mae tri dyn wedi’u dedfrydu ar ôl erlyniadau llwyddiannus gan Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS) yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Gogledd Cymru i achos o ddwyn gwerth £300,000 o gywion ieir a thwyll yng Ngogledd Cymru. Gwnaeth Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), gan weithio gyda phartneriaid, gynnal ymweliad dirybudd a, thrwy hynny, gael gafael ar dystiolaeth a oedd o gymorth i’r heddlu.
Dywedodd Andrew Quinn, Pennaeth Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd yr Asiantaeth Safonau Bwyd: “Rydym yn croesawu’r dedfrydau hyn, gan eu bod yn anfon neges ataliol gref i’r rhai sy’n ystyried cyflawni troseddau bwyd. Hoffwn ddiolch i’r CPS ac i Heddlu Gogledd Cymru am eu gwaith partneriaeth rhagorol wrth sicrhau’r euogfarnau hyn. Gyda’n gilydd, gallwn frwydro’n gryf yn erbyn twyll bwyd, ac rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid i helpu i sicrhau bod defnyddwyr yn cael eu diogelu.”
Gallwch ddarllen mwy am hyn yma – Yr ASB yn croesawu dedfryd o garchar mewn achos o droseddau bwyd | Asiantaeth Safonau Bwyd
Yr ASB yn erlyn rheolwr cynhyrchu a rwystrodd swyddog NFCU
Cafodd un ddynes ddirwy ar ôl pledio’n euog yn dilyn erlyniad llwyddiannus gan yr ASB ar ôl iddi rwystro swyddog yr NFCU yn fwriadol, a hynny yn ystod ymweliad dirybudd. Mae’r ASB yn gweithio i sicrhau bod bwyd yn ddiogel a’i fod yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label drwy fonitro cydymffurfiaeth mewn safleoedd cymeradwy, gan sicrhau bod yr holl ofynion penodol, a nodir mewn deddfwriaeth hylendid bwyd, yn cael eu bodloni.
Cyhuddwyd Emma Nakova, o Northampton, o rwystro swyddog a oedd yn gweithredu i roi’r Rheoliadau Hylendid ar waith ar 15 Rhagfyr 2021. Plediodd yn euog yn Llys Ynadon Northampton ar 17 Ionawr 2024.
Cyfaddefodd y diffynnydd, sy’n rheolwr cynhyrchu yn Northamptonshire Food Services Ltd, iddi rwystro ymweliad dirybudd yr NFCU drwy ei atal rhag mynd i mewn i’r safle am gyfnod. Dedfrydwyd Nakova i ddirwy o £500, gordal dioddefwr o £200, a chostau erlyn llawn o £12,118.18.
Dywedodd Andrew Quinn, Pennaeth NFCU yr ASB: “Rydym yn mynd i’r afael â thwyllwyr yn y maes bwyd, ac yn diogelu iechyd y cyhoedd drwy helpu i sicrhau bod busnesau’n cyflawni eu cyfrifoldeb i werthu bwyd diogel a dilys. Mae’r achos hwn yn dangos y gall pobl sy’n ein rhwystro rhag gwneud ein gwaith wynebu costau sylweddol. Mae’n hanfodol ein bod yn cael mynediad i gyflawni ein cyfrifoldebau a sicrhau nad oes unrhyw ddrwgweithredu. Mae atal pobl nad ydynt yn dilyn y rheolau a sicrhau nad ydynt yn osgoi cosb yn helpu i gefnogi busnesau cyfreithlon. Rydym yn parhau i gydweithio â’r diwydiant i ddiogelu defnyddywr.”
Dedfrydu dyn yn Newry am droseddau meistri gangiau
Mae dyn wedi’i gael yn euog o droseddau meistri gangiau yng Ngogledd Iwerddon yn dilyn ymchwiliadau a gynhaliwyd gan yr Awdurdod Meistri Gangiau a Cham-drin Llafur (GLAA).
Cafodd Aurimas Andrijauskas, o Newry ei ddedfrydu i 12 mis yn y carchar, ac wedi’i wahardd am 3 blynedd, am weithredu fel meistr gangiau heb drwydded pan ymddangosodd gerbron Llys y Goron Newry. Canfuwyd bod Andrijauskas wedi bod yn casglu ac yn prosesu pysgod cregyn yn anghyfreithlon ar hyd arfordiroedd Gogledd Iwerddon a’r Alban, heb fod â thrwydded GLAA rhwng mis Ionawr 2019 a mis Mawrth 2022.
Fel yr Ymchwilydd Ariannol a neilltuwyd o dan gytundeb gweithio ar y cyd â GLAA, ac wrth groesawu’r ddedfryd, dywedodd Yvonne Barwani, Uwch Ymchwilydd Ariannol NFCU yr ASB: “Yn dilyn cynnal ymchwiliad ariannol, amcangyfrifwyd bod yr unigolyn hwn wedi ennill tua £250,000 o’i droseddau. Roedd y troseddu’n ymwneud â chynaeafu pysgod cregyn anghyfreithlon, sef un o flaenoriaethau strategaeth reoli’r NFCU.
Yn yr NFCU, rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael â throseddau bwyd o bob math, a byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i ddiogelu buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd.”
Gallwch rannu pryderon am dwyll bwyd yn eich gweithle yn gyfrinachol ar food.gov.uk, neu gallwch ein ffonio ar 0800 028 1180 am ddim.
|
Ymarferion bwrdd gwaith ar gyfer y diwydiant
Yn ein rhifyn nesaf, darllenwch am sut mae’r Tîm Atal wrthi’n profi cyfres newydd o ymarferion bwrdd gwaith yn y maes twyll bwyd. Bydd y rhain ar gael i’r diwydiant, fel y gallwch weithio trwy nifer o senarios i brofi sut y byddech yn ymateb. Bwriad yr ymarferion yw deall camau allweddol i’r broses a’r sianelau cyfathrebu sydd eu hangen yn ystod digwyddiad trosedd bwyd. Bydd hyn hefyd yn rhoi dealltwriaeth o’r rhanddeiliaid mewnol ac allanol perthnasol yn ystod digwyddiad. Bydd gofyn i bartneriaid ddadansoddi senario, gwneud penderfyniadau, ac ymateb yn effeithiol i liniaru effaith y digwyddiad. Byddwn yn darparu lle diogel i weithwyr proffesiynol yn y diwydiant bwyd allu ymarfer eu hymateb i droseddau bwyd posib a’u heriau sy’n ymwneud â thwyll, gan ganolbwyntio ar bwysigrwydd atal.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan, anfonwch e-bost i NFCU.Prevention@food.gov.uk i gael mwy o wybodaeth.
|
|
|
Adnodd Hunanasesu Gwytnwch yn erbyn Twyll Bwyd
Nod ein hadnodd yw cefnogi busnesau bwyd i nodi’r risg y mae troseddau bwyd yn ei pheri i’w busnes ac mae’n amlinellu camau y gallant eu cymryd i liniaru’r risg honno.
Mae Tîm Atal yr NFCU yn parhau i gynnig asesiad manwl o wydnwch yn erbyn twyll. Ar ôl cwblhau’r adnodd hunanasesu, gall y tîm ddarparu asesiad sydd â’r bwriad o:
- nodi lefel y risg sydd gan sefydliad i dwyll
- annog pobl o fewn sefydliadau i feddwl am wydnwch yn erbyn twyll a sut y dylid ymdrin â hyn
- helpu a chynorthwyo’r diwydiant bwyd i feithrin gwydnwch yn erbyn twyll bwyd
Os oes gennych ddiddordeb yn hyn, cysylltwch ag NFCU.prevention@food.gov.uk
|
|
Tanysgrifiwch i’r neges hon
Os anfonwyd yr e-bost hwn ymlaen atoch, gallwch danysgrifio isod a chael negeseuon yn y dyfodol yn syth i’ch mewnflwch.
Gallwch ddiweddaru eich tanysgrifiadau, addasu eich cyfrinair neu gyfeiriad e-bost, neu stopio tanysgrifiadau unrhyw bryd ar eich tudalen dewisiadau Tanysgrifiwr. Bydd angen i chi ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost i fewngofnodi. Os oes gennych gwestiynau neu broblemau gyda’r gwasanaeth tanysgrifio, ewch i subscriberhelp.govdelivery.com.
Darperir y gwasanaeth hwn i chi am ddim gan Asiantaeth Safonau Bwyd y Deyrnas Unedig.
|
|
|
|
|