Os na chawsoch chi’r cyfle’r wythnos diwethaf i fynychu un o’r digwyddiadau neu i wylio’r gweminar yn fyw, mae’n bosib gwrando ar y sesiwn eto. Yma mae’r Athro Donaldson yn siarad am ei argymhellion ar gyfer trefniadau asesu a’r cwricwlwm yma yng Nghymru.
Hoffem roi cyfle i bawb fynegi eu barn ynghylch argymhellion yr Athro Donaldson fel y gallwn lywio dyfodol ysgolion yng Nghymru. Rydym wedi creu pecyn ar-lein i’ch helpu i ddechrau trafod – yn eich ysgol, yn eich busnes, yn y gwaith, mewn grŵp cymunedol neu yn eich cartref.
Ceisiadau am bapurau Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol y gorffennol
Rhaid i ysgolion gofio sicrhau bod y cwricwlwm yn parhau’n gytbwys yn ystod y cyfnod cyn y profion, ac na ddylid neilltuo ond yr amser sy’n hollol angenrheidiol i’r dysgwyr ymgyfarwyddo â thechnegau’r profion. Mae gan Lywodraeth Cymru hen bapurau i ymarferwyr eu defnyddio at ddibenion hyfforddi, ond nid ydym yn eu hanfon i ysgolion na rhieni.
Casglu canlyniadau’r Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol ar gyfer disgyblion blynyddoedd 2-9 y cwricwlwm cenedlaethol.
Dylai ysgolion anfon y data atom drwy eu hawdurdod lleol. Darllenwch Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol - Llawlyfr gweinyddu profion 2015 (dolen allanol) ar wefan Dysgu Cymru i gael rhagor o wybodaeth am y gofynion statudol.
Cyhoeddodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau ddatganiad ar 13 Mawrth 2015 yn cadarnhau’r trefniadau asesu a fyddai’n cyd-fynd â’r broses o gyflwyno’r Meysydd Dysgu a’r Rhaglenni Astudio diwygiedig ar gyfer y Cyfnod Sylfaen ac Cyfnodau Allweddol 2 i 4. Daw’r newidiadau hyn i rym o fis Medi 2015. Defnyddiwch y ddolen i weld y Datganiad Ysgrifenedig.
Helpwch ni i lywio system cymwysterau Cymru
Yn amodol ar ddeddfwriaeth, fis Medi 2015, bydd Cymwysterau Cymru yn cael ei sefydlu fel y rheoleiddiwr annibynnol newydd ar gyfer cymwysterau yng Nghymru. Rydym yn bwriadu recriwtio nifer sylweddol o swyddi, i ddarganfod mwy, dewch i sesiwn galw i mewn arbennig yn yr Holiday Inn yng Nghasnewydd, NP18 2YG (cod post) ar 30 Mawrth rhwng 5 pm a 7 pm. Rhestr o'r swyddi gwag ar hyn o bryd.
Ar 3 Mawrth, lansiodd y Gweinidog Addysg, Huw Lewis a’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates, Dysgu Creadigol drwy’r Celfyddydau: Cynllun Gweithredu ar gyfer Cymru. Mae’r cynllun yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a’u partneriaid mewn addysg ac yn y celfyddydau yn gweithio gyda’i gilydd i greu cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru gymryd rhan yn y celfyddydau er mwyn cyfoethogi eu haddysg. Defnyddio'r Grant Amddifadedd Disgyblion i gefnogi gweithgareddau celf a phrofiadau diwylliannol
Mae ein adroddiad blynyddol ar Strategaeth y Gymraeg yn monitro ein cynnydd mewn chwech maes strategol. Datganiad Ysgrifenedig - Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru