eCylchlythyr Dysg cyn-11 oed Llywodraeth Cymru – 25 Mawrth 2015 (Issue 120)

25 Mawrth 2015 • Rhifyn 120

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

new deal (2) 130130

Fideos astudiaethau achos o ysgolion sydd wedi llwyddo i greu’r amodau i gefnogi eu staff i ddysgu’n broffesiynol wedi’u cyhoeddi ar Dysgu Cymru 

I gefnogi lansio’r Fargen Newydd ar gyfer y Gweithlu Addysg, mae Llywodraeth Cymru wedi creu amrywiaeth o fideos o astudiaethau achos sy’n dangos y dulliau mwyaf effeithiol o ddysgu proffesiynol ar waith. 

 

new deal (3) 130130

Lansio’r adnodd Coetsio a Mentora newydd 

Bydd Llywodraeth Cymru yn creu pedwar llyfryn gwybodaeth ymarferol manwl er mwyn hwyluso’r broses o weithredu’r Fargen Newydd ar gyfer y Gweithlu Addysg; bydd y rhain yn canolbwyntio ar Goetsio a Mentora, Cwestiynu Arferion, Cydweithio Effeithiol a Defnyddio Data ac Ymchwil yn Effeithiol. Mae’r llyfryn Coetsio a Mentora nawr ar gael ar Dysgu Cymru. 

new deal (1) 130130

Adnoddau e-ddysgu proffesiynol newydd

Cymerwch gip ar becynnau dysgu proffesiynol ‘Eich Datblygiad Proffesiynol’ ac ‘Athrawon fel Ymchwilwyr’ a luniwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer lansio’r Fargen Newydd ar gyfer y Gweithlu Addysg. 

 

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Y Sgwrs Fawr ar addysg yng Nghymru – ffilm o’r gweminar ar gael

Os na chawsoch chi’r cyfle’r wythnos diwethaf i fynychu un o’r digwyddiadau neu i wylio’r gweminar yn fyw, mae’n bosib gwrando ar y sesiwn eto.  Yma mae’r Athro Donaldson yn siarad am ei argymhellion ar gyfer trefniadau asesu a’r cwricwlwm yma yng Nghymru.   

Adnoddau ac arolwg y Sgwrs Fawr 

Hoffem roi cyfle i bawb fynegi eu barn ynghylch argymhellion yr Athro Donaldson fel y gallwn lywio dyfodol ysgolion yng Nghymru. Rydym wedi creu pecyn ar-lein i’ch helpu i ddechrau trafod – yn eich ysgol, yn eich busnes, yn y gwaith, mewn grŵp cymunedol neu yn eich cartref.

Ceisiadau am bapurau Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol y gorffennol

Rhaid i ysgolion gofio sicrhau bod y cwricwlwm yn parhau’n gytbwys yn ystod y cyfnod cyn y profion, ac na ddylid neilltuo ond yr amser sy’n hollol angenrheidiol i’r dysgwyr ymgyfarwyddo â thechnegau’r profion. Mae gan Lywodraeth Cymru hen bapurau i ymarferwyr eu defnyddio at ddibenion hyfforddi, ond nid ydym yn eu hanfon i ysgolion na rhieni.   

Casglu data Profion Cenedlaethol Cymru 

Casglu canlyniadau’r Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol ar gyfer disgyblion blynyddoedd 2-9 y cwricwlwm cenedlaethol. 

Dylai ysgolion anfon y data atom drwy eu hawdurdod lleol.  Darllenwch Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol - Llawlyfr gweinyddu profion 2015 (dolen allanol) ar wefan Dysgu Cymru i gael rhagor o wybodaeth am y gofynion statudol.

Trefniadau asesu ar gyfer y Meysydd Dysgu a’r Rhaglenni Astudio diwygiedig

Cyhoeddodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau ddatganiad ar 13 Mawrth 2015 yn cadarnhau’r trefniadau asesu a fyddai’n cyd-fynd â’r broses o gyflwyno’r Meysydd Dysgu a’r Rhaglenni Astudio diwygiedig ar gyfer y Cyfnod Sylfaen ac Cyfnodau Allweddol 2 i 4. Daw’r newidiadau hyn i rym o fis Medi 2015. Defnyddiwch y ddolen i weld y Datganiad Ysgrifenedig.

 

Cyfleoedd am swyddi gyda Cymwysterau Cymru 

Helpwch ni i lywio system cymwysterau Cymru

Yn amodol ar ddeddfwriaeth, fis Medi 2015, bydd Cymwysterau Cymru yn cael ei sefydlu fel y rheoleiddiwr annibynnol newydd ar gyfer cymwysterau yng Nghymru. Rydym yn bwriadu recriwtio nifer sylweddol o swyddi, i ddarganfod mwy, dewch i sesiwn galw i mewn arbennig yn yr Holiday Inn yng Nghasnewydd, NP18 2YG (cod post) ar 30 Mawrth rhwng 5 pm a 7 pm. Rhestr o'r swyddi gwag ar hyn o bryd.  

 

Dysgu Creadigol drwy’r Celfyddydau: Cynllun Gweithredu ar gyfer Cymru

Ar 3 Mawrth, lansiodd y Gweinidog Addysg, Huw Lewis a’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates, Dysgu Creadigol drwy’r Celfyddydau: Cynllun Gweithredu ar gyfer Cymru.  Mae’r cynllun yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a’u partneriaid mewn addysg ac yn y celfyddydau yn gweithio gyda’i gilydd i greu cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru gymryd rhan yn y celfyddydau er mwyn cyfoethogi eu haddysg.  Defnyddio'r Grant Amddifadedd Disgyblion i gefnogi gweithgareddau celf a phrofiadau diwylliannol

 

Adroddiad blynyddol Strategaeth y Gymraeg 

Mae ein adroddiad blynyddol ar Strategaeth y Gymraeg yn monitro ein cynnydd mewn chwech maes strategol. Datganiad Ysgrifenedig -  Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru

Adnoddau

Dylan Thomas ar Hwb

Mae adnoddau Dylanwad ar gyfer Cyfnodau Allweddol 2, 3 a 4 ar gael i’w lawrlwytho nawr yn rhad ac am ddim o Hwb.

 

 

Prosiect X– bandiau 8, 9 a 10 (Cyfnod Allweddol 2)

Rhaglen ddarllen yw Prosiect X sy'n cynnig deunydd gwir gyfeillgar i fechgyn o ran cynnwys, dyluniad, strwythur a dulliau dysgu ac addysgu.  Mae’r teitlau newydd isod ar gael nawr ar gwales.com:

hwb

Dysgu llythrennedd, rhifedd a gallu digidol gydag offer Hwb

Ydych chi wedi ystyried defnyddio J2code – ar gael i chi gyda’ch cyfrinair Hwb+ - i ddelio    â rhai o agweddau’r fframwaith Llythrennedd a Rhifedd? Mae J2code yn cynnig cynlluniau gwers a fideos cymorth. Mae nifer o ysgolion wedi dechrau arbrofi gyda J2code ar y cyd ag offer Hwb+, fel y trafodaethau, sy’n caniatáu i ddysgwyr rannu eu profiadau. Am ragor o wybodaeth ac i archwilio’r amrywiaeth eang o offer ar-lein sydd wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru, ewch i Hwb.

 

Gwobrau Dysgu Digidol Cenedlaethol 2015

A yw eich ysgol wedi mynd i’r afael â rhai prosiectau digidol diddorol eleni? A yw rhai o’ch athrawon a’ch dysgwyr yn haeddu cydnabyddiaeth am eu gwaith ym maes dysgu digidol? Os felly, hoffem glywed gennych chi.

Bydd y Gwobrau Dysgu Digidol Cenedlaethol 2015 yn rhan o’r Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol ym mis Mehefin 2015.

Os hoffech gyflwyno cais, mae gwybodaeth ynghylch manylion categorïau a dyddiadau cau bellach ar gael ar Hwb.

CwrddHwb 

Rydyn ni’n ymweld â’r Wyddgrug ar 12 Mai 2015. Mae’r tocynnau i gyd wedi mynd mewn nifer o’r digwyddiadau hyn eleni, felly archebwch eich tocyn nawr.

Cymwys am Oes – Canolbwyntio ar Wyddoniaeth

Gall gwyddoniaeth fynd â chi i bobman (fideo)

Mae annog plant i wneud yn well mewn gwyddoniaeth yn yr ysgol yn gallu arwain unrhyw le o ran gyrfa. Gwyliwch ein fideo Gwyddoniaeth gyda’r dosbarth a thrafod ymhellach! 

Cystadleuaeth Posteri Wythnos Wyddoniaeth Prydain. 

Er bod Wythnos Wyddoniaeth Prydain wedi mynd heibio gall ysgolion gymryd rhan yn y gystadleuaeth bosteri tan 17 Ebrill. Mae'r gystadleuaeth yn agored i ddysgwyr o'r Dosbarth Derbyn hyd at Flwyddyn 9. Dylai'r posteri fod yn seiliedig ar y thema 'Gwyddoniaeth ar garreg eich drws'. Rhaid i ysgolion gofrestru er mwyn cystadlu. Mae canllawiau ar gael ar gyfer athrawon a dysgwyr. 

Mwy o newyddion

Gweithdai Rhyngwladoli Pobl Ifanc, Venue Cymru, Llandudno, 22 Ebrill 16.00-18.30

Bydd y sesiwn yn cynnwys trafodaethau ar wahanol gyfleoedd gyda’r British Council a gweithdai gan gyn-gyfranogwyr bydd yn rhannu eu profiadau a chynnig cymorth ymarferol ar sut all athrawon a disgyblion manteisio o’r cyfleoedd sydd ar gael.

 

YSTADEGAU AC YMCHWIL