Nodyn atgoffa i athrawon dosbarth derbyn:
Cofiwch ddanfon adref gyda’ch dysgwyr y calendr Gwylio’r Tywydd sydd i’w ddefnyddio gyda rhieni a gofalwyr yn ystod hanner tymor yr Hydref. Bydd pecyn electroneg ar gael ar wefan Pori Drwy Stori diwedd Hydref a fydd yn cefnogi defnydd o’r adnodd yn y dosbarth ac yn y cartref. Os nad ydych wedi derbyn eich calendrau cysylltwch â Booktrust Cymru.
Yn Galw Ysgolion Cynradd Mentrus yng Nghymru
Mae Cystadleuaeth Genedlaethol Ysgolion Cynradd y Criw Mentrus ar agor i geisiadau. Mae’n gystadleuaeth sy’n datblygu sgiliau menter plant ac yn meithrin sgiliau llythrennedd a rhifedd wrth iddynt ddatblygu eu syniadau busnes. Mae unrhyw weithgarwch menter sydd wedi ei wneud ers Ionawr 2014 yn gymwys. Mae’r gystadleuaeth yn rhan o Syniadau Mawr Cymru ac yn cael ei harwain gan Adran Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru. Ymgeisiwch nawr
I ddathlu canmlwyddiant geni Dylan Thomas fis Hydref, y mae Into Film Cymru yn galw ar bobl ifanc Cymru rhwng 5-19 mlwydd oed i gymryd rhan yn eu cystadleuaeth creu ffilm am waith a bywyd yr awdur adnabyddus. Bydd y ceisiadau yn cael eu beirniadu gan yr actorion Matthew Rhys a Sharon Morgan a bydd y ffilm orau yn cael ei dangos yng Ngwyl Ffilm Into Film Cymru. Gellir anfon y ffilmiau at Into Film Cymru erbyn 24 o Hydref.
Prosiect arloseol i gre cerddi a ffilmiau sy'n coffau bywyd Dylan Thomas. Mae pecyn adnoddau dysgu, sy’n cynnwys tair gwers a deunyddiau ategol, ar gael i’w lawrlwytho isod.
Mêts Maesllan
Adnoddau print ac ar-lein Mêts Maesllan. Dyma adnoddau i gynorthwyo plant yng Nghyfnod Allweddol 2 sydd ag anawsterau dysgu penodol i feistroli llythrennedd yn y Gymraeg. Mae’r gyfres yn cynnwys pecyn o 32 o lyfrau trawsgwricwlaidd sy’n cynnwys rhai ffuglen, ffeithiol ac ambell un ar ffurf mydr ac odl yn ogystal â gweithgareddau rhyngweithiol ar Hwb.
Adnoddau ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 a 3 yn ymwneud a dathliadau 150eg sefydlu'r Wladfa ym Mhatagonia. Mae'r adnodd yn cynnwys tasgau rhyngweithiol sy'n cyfuno llythrennedd a rhifedd.