eCylchlythyr Dysg cyn-11 oed Llywodraeth Cymru – 22 Hydref 2014 (Issue 108)

22 Hydref 2014 • Rhifyn 108

 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Exam thumbnail  

Y Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol

 

Mae'r cyfnod ar gyfer cynnal y profion 2015 wedi cael ei hymestyn ar gyfer  ysgolion cynradd gan fod rhai  ysgolion yn cael ei defnyddion fel gorsafoedd pleidleisio yn ystod Etholiad Cyffredinol yn fis Mai flwyddyn nesaf. Bydd ysgolion cynradd yn awr yn medru dechrau profion ar 5 Mai tan 12 Mai.

   
 

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Yn eisiau! Rhaglenni allanol sy'n helpu ysgolion i fynd i'r afael ag effeithiau tlodi

 

Gan ddefnyddio eu Grant Amddifadedd Disgyblion, mae'n bosibl y bydd ysgolion yn dymuno prynu gwasanaethau gan ddarparwyr allanol i gefnogi disgyblion o gefndiroedd difreintiedig i gyflawni eu potensial. Rydym yn datblygu cronfa adnoddau i ysgolion. Os ydych chi'n gwybod am raglenni sydd eisoes wedi'u treialu a gynigir gan ddarparwyr allanol yng Nghymru, rhowch wybod inni.

Datganiad Ysgrifenedig - Papur Gwyn: Cynigion Deddfwriaethol ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol - Crynodeb o’r Ymatebion

 

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

 

Cyhoeddwyd y Papur Gwyn ar ein cynigion deddfwriaethol ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) at ddibenion ymgynghori ar 22 Mai 2014. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 25 Gorffennaf 2014 a chafwyd 215 o ymatebion.   Crynodeb o'r ymatebion

Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil Addysg: Adroddiad  Amddifadedd mewn Addysg wedi’i gyhoeddi

 

Cynhaliwyd astudiaeth ymchwil o’r cyswllt rhwng amddifadedd a chyrhaeddiad addysgol yng Nghymru gan y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil Addysg.  Yn aml, mae disgyblion o gefndiroedd difreintiedig yn gallu profi ffactorau aml-risg sy’n gallu cael effaith negyddol ar eu cynnydd yn yr ysgol o’u blynyddoedd cynnar ac sy’n gwaethygu yn ystod  yr ysgol uwchradd.

Rheoliadau ar gyfer cynlluniau datblygu ysgol

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus mae disgwyl i reoliadau newydd ddod i rym ar 27 Hydref 2014. Caiff canllawiau a fydd yn cyd-fynd â’r rheoliadau eu cyhoeddi maes o law, cyn gynted ag y byddant ar gael. Bydd manylion hefyd yn cael eu cynnwys yng nghylchlythyr DYSG. 

Enwebwch rywun rhagorol ar gyfer gwobrau Dewi Sant

 

Gydag wythnos i fynd cyn y dyddiad cau ar gyfer enwebu, mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones yn annog pobl Cymru i fynd ar-lein ac i enwebu rhywun rhagorol ar gyfer Gwobrau Dewi Sant.

Ymgynghoriad - Adolygiad o’r Ddyletswydd ar Awdurdodau Lleol i Asesu Digonolrwydd Gofal Plant

Mae’r ddogfen ymgynghori hon yn nodi cynnig ar gyfer datblygu Asesiadau o Ddigonolrwydd Gofal Plant yng Nghymru yn y dyfodol.  Dyddiad cau ar gyfer ymateb 30 Hydref 2014

Fframwaith Deilliannau Blynyddoedd Cynnar – Ymgynghoriad yn agor yfory!

Mae ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar fframwaith ddrafft Deilliannau’r Blynyddoedd Cynnar yn cael ei gyhoeddi ar 16 Hydref.  Mae’r fframwaith yn diffinio pw ddeilliannau sydd mwyaf bwysig ar gyfer oll blant addysg 0-7 oed yng Nghymru ac yn cynnig dangosyddion cenedlaethol sy’n mesur effaith yr ydym yn cael ar y deilliannau hyn. 

   
 

Adnoddau/ cystadleuthau

Nodyn atgoffa i athrawon dosbarth derbyn:

Cofiwch ddanfon adref  gyda’ch dysgwyr y calendr Gwylio’r Tywydd sydd i’w ddefnyddio gyda rhieni a gofalwyr yn ystod hanner tymor yr Hydref. Bydd pecyn electroneg ar gael ar wefan Pori Drwy Stori diwedd Hydref a fydd yn cefnogi defnydd o’r adnodd yn y dosbarth ac yn y cartref.  Os nad ydych wedi derbyn eich calendrau cysylltwch â Booktrust Cymru

Yn Galw Ysgolion Cynradd Mentrus yng Nghymru

 

Mae Cystadleuaeth Genedlaethol Ysgolion Cynradd y Criw Mentrus ar agor i geisiadau.  Mae’n gystadleuaeth sy’n datblygu sgiliau menter plant ac yn meithrin sgiliau llythrennedd a rhifedd wrth iddynt ddatblygu eu syniadau busnes. Mae unrhyw weithgarwch menter sydd wedi ei wneud ers Ionawr 2014 yn gymwys. Mae’r gystadleuaeth yn rhan o Syniadau Mawr Cymru ac yn cael ei harwain gan Adran Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru.  Ymgeisiwch nawr

Yn Galw Gwneuthurwyr Ffilm!

 

I ddathlu canmlwyddiant geni Dylan Thomas fis Hydref, y mae Into Film Cymru yn galw ar bobl ifanc Cymru rhwng 5-19 mlwydd oed i gymryd rhan yn eu cystadleuaeth creu ffilm am waith a bywyd yr awdur adnabyddus. Bydd y ceisiadau yn cael eu beirniadu gan yr actorion Matthew Rhys a Sharon Morgan a bydd y ffilm orau yn cael ei dangos yng Ngwyl Ffilm Into Film Cymru. Gellir anfon y ffilmiau at Into Film Cymru erbyn 24 o Hydref.  

Prosiect Dylan Thomas 100

 

Prosiect arloseol i gre cerddi a ffilmiau sy'n coffau bywyd Dylan Thomas. Mae pecyn adnoddau dysgu, sy’n cynnwys tair gwers a deunyddiau ategol, ar gael i’w lawrlwytho isod.

Mêts Maesllan

Adnoddau print ac ar-lein Mêts Maesllan. Dyma adnoddau  i gynorthwyo plant yng Nghyfnod Allweddol 2 sydd ag anawsterau dysgu penodol i feistroli llythrennedd yn y Gymraeg. Mae’r gyfres yn cynnwys pecyn o 32 o lyfrau trawsgwricwlaidd sy’n cynnwys rhai ffuglen, ffeithiol ac ambell un ar ffurf mydr ac odl yn ogystal â gweithgareddau rhyngweithiol ar Hwb.

Patagonia 150:

Adnoddau ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 a 3 yn ymwneud a  dathliadau 150eg sefydlu'r Wladfa ym Mhatagonia. Mae'r adnodd yn cynnwys tasgau rhyngweithiol sy'n cyfuno llythrennedd a rhifedd.

   
 

hwb

Cynnwys Hwb:

Yr wythnos hon, rydym yn falch o ail-gyhoeddi’r adnodd poblogaidd a sylweddol ar gyfer astudio Cerddoriaeth CA3 Gwranda!

Chwiliwch hefyd am yr adnodd Hanes CA2 Byw yn yr 20fed Ganrif.

I’r rhai hynny ohonoch sy’n trafod Diwali yr wythnos hon, pam nad edrychwch chi ar ein hadnodd Diwali poblogaidd?

Hyfforddiant Hwb+

Mae llefydd yn prinhau ar sesiynau hyfforddi Hwb+ Tachwedd a Rhagfyr. Mae'r arddull hyfforddi naw modiwl newydd wedi’i ddyfeisio er mwyn caniatáu i athrawon gael mynediad at hyfforddiant penodol tra’n cynnig cyfle i ysgolion ddewis a blaenoriaethu yn ôl eu cynlluniau.

Er mwyn osgoi cael eich siomi, ewch i Hwb ac archebwch eich lle ar un o'r sesiynau niferus ledled Cymru.

 

   
 

Newyddion arall

Gwnewch gais nawr i fod yn rhan o dîm arolygu

 

Os ydych chi’n bennaeth cynradd neu ar y golofn gyflog uwch arweinyddiaeth, gwnewch gais am hyfforddiant arolygydd cymheiriaid nawr a gallwch:

 

  • weithio gydag arolygwyr Estyn a dysgu mwy am hunanarfarnu a gwella ysgolion;
  • cael mewnwelediad i addysgu a dysgu mewn ysgolion eraill;
  • cymhwyso eich medrau, gwybodaeth a’ch profiad newydd er budd eich ysgol eich hun.  

Gwnewch gais erbyn 2pm, ddydd Llun 17 Tachwedd

 

 

Rhaglen Dysgu Byd-eang Cymru (RhDB-C)

Gall ysgolion yng Nghymru sydd ag arbenigedd mewn dysgu byd-eang wneud cais am gyllid i ddatblygu ymarfer mewn rhwydweithiau ysgol drwy'r RhDB-C. Mae grant o £10,500 ar gael ar gyfer Ysgolion Arweiniol i recriwtio dau grwp o rwydweithiau. Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais cliciwch yma (dyddiad cau 24 Hydref)

   
 

diweddariadau rhyngwladol ac o'r du

(Saesneg yn unig)

Vocabulary Enrichment Intervention Programme: Evaluation report and executive summary

 

This NFER report has been produced for the Education Endowment Foundation and its evaluation of the Vocabulary Enrichment Full Programme, which aimed to improve the reading abilities of pupils in Year 7 who had not reached a secure Level 4 in English and/or reading at the end of Key Stage 2.