Gwahoddir ysgolion i wneud cais am gyllid ar gyfer prosiectau cynhwyso digidol gwerth hyd at £10,000. Mae rhaid i’r prosiectau hyn ganolbwyntio ar wella cyrhaeddiad dysgwyr sy’n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim a Phlant sy’n Derbyn Gofal. Mae rhaid i’r prosiectau roi gwerth am arian a dangos deilliannau mesuradwy. Bydd enghreifftiau o arfer gorau yn cael eu cyhoeddi ar-lein i helpu ysgolion i ddatblygu strategaethau dysgu digidol effeithiol. Cofiwch anfon eich datganiadau o ddiddordeb erbyn 23 Medi 2014
Nodyn i'ch hatgoffa mai'r dyddiad cau ar gyfer Cronfa Cymorth Addysg yr Weinyddiaeth Amddiffyn 2015 yw 16:00 ar 30 Medi 2014.
Heddiw mae Huw Lewis, y Gweinidog Addysg, wedi cyhoeddi y bydd y gronfa 'galedi' ddewisol (Cronfa Ariannol Wrth Gefn) o £2 filiwn sy'n daladwy i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn cael ei hariannu ym mlwyddyn academaidd 2014-15.
Croesawodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau Huw Lewis ystadegau a gyhoeddwyd heddiw sy’n dangos bod cyfraddau presenoldeb mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru’n parhau i wella. Ystadegau - Absenoldeb o ysgolion uwchradd
Rydym yn cynnig dileu cyfyngiadau diangen gan gadw mesurau diogelu hanfodol.
Gofynnwn i chi gadw golwg ar eich negeseuon e-bost er mwyn sicrhau eich bod yn cyfrannu at yr arolwg. Caiff y neges ei hanfon ar 22 Medi fel rhan o’r broses o werthuso’r Strategaeth.
Ydych chi wedi amlygu llythrennedd bechgyn fel maes â blaenoriaeth o fewn eich cynllun gwella ysgol ar gyfer 2014-15?
Ymunwch â rhaglen beilot Sêr Darllen yr Uwch Gynghrair Cymru sef rhaglen ymyrraeth effeithiol ar gyfer darllen sy’n ceisio gwella sgiliau llythrennedd dysgwyr sy’n gyndyn iawn o ddarllen drwy ddefnyddio eu hoffter o bêl-droed. Cyflwynwch gais erbyn 30 Medi 2014
Arweinwyr ysgol: cadwch lygad am y neges e-bost a fydd yn cael ei hanfon atoch yn fuan a chwblhewch yr arolwg.
Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2014
Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru (31 Hydref, Gwesty’r Celtic Manor) yn ein hatgoffa o’r talent cyfoethog sydd arddangos yn ein gwlad ac ymhlith y rhai sydd ar y rhestr fer, mae 'na rai unigolion eithriadol sydd wedi rhagori yn y gweithle. Pecynnau noddi ar gyfer y digwyddiadau
Galw am Dystiolaeth - Adolygiad yn dechrau i rôl a swyddogaethau Comisiynydd Plant Cymru
Mae galw ar bawb sydd â diddordeb mewn plant a phobl ifanc yn ogystal â phlant a phobl ifanc eu hunain i fwydo i mewn i adolygiad annibynnol o rôl a swyddogaeth Comisiynydd Plant Cymru. Mae Dr Mike Shooter wedi ei benodi i arwain yr adolygiad annibynnol.
Am wybodaeth pellach am yr adolygiad, gan gynnwys sut i gyfrannu at arolwg ar-lein, ewch at www.adolygiadcpc.co.uk