eCylchlythyr Dysg Llywodraeth Cymru: 16 Medi 2014 (Rhifyn 391)

16 Medi 2014 • Rhifyn 391

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Bwli130x130

Adnoddau gwrth-fwlio newydd

Mae cyngor newydd gwrth-fwlio wedi ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ar gyfer plant, pobl ifanc a rhieni sy’n pryderu am fwlio. Mae’r taflen a poster ’Wyt ti’n cael dy Fwlio?) ar gael ar-lein i rhoi cymorth i ddysgwyr sy’n poeni an fwlio. Yn ogystal, mae’r taflen A yw eich plentyn yn cael ei fwlio? yn cynnig cyngor i rieni ar yr hyn i’w eneud os mae eu plentyn yn cael ei fwlio.

SkillsCYM

Skills Cymru 2014

Bydd dau ddigwyddiad gyrfaoedd a sgiliau rhyngweithiol ac ysbrydoledig yn cymryd lle yn Venue Cymru 8-9 Hydref ac yn y Motorpoint Arena 22-23 Hydref.   Mae Sgiliau Cymru’n cynnwys arddangosiadau byr, gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith a chyngor gyrfaol gan Gyrfa Cymru.  Gwahoddir grwpiau ysgolion a cholegau i ymweld â’r digwyddiadau.  

FM130130

Y Prif Weinidog yn cyhoeddi Cabinet newydd

Heddiw cyhoeddodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, ei fod wedi ad-drefnu ei gabinet. Dywedodd fod ei gabinet newydd yn barod i ganolbwyntio ar y dewisiadau anodd sydd o’u blaenau er mwyn sicrhau gwasanaethau cyhoeddus o’r radd flaenaf i Gymru, ac er mwyn parhau i wella’r economi’r wlad.

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Darganfyddwch sut i wneud cais am gyllid technoleg digidol ychwanegol

Gwahoddir  ysgolion i wneud cais am gyllid ar gyfer prosiectau cynhwyso digidol  gwerth hyd at £10,000.  Mae rhaid i’r prosiectau hyn ganolbwyntio ar wella cyrhaeddiad dysgwyr sy’n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim a Phlant sy’n Derbyn Gofal.  Mae rhaid i’r prosiectau roi gwerth am arian a dangos deilliannau mesuradwy.  Bydd enghreifftiau o arfer gorau yn cael eu cyhoeddi ar-lein i helpu ysgolion i ddatblygu strategaethau dysgu digidol effeithiol.  Cofiwch anfon eich datganiadau o ddiddordeb erbyn 23 Medi 2014

Cronfa Cymorth Addysg yr Weinyddiaeth Amddiffyn 2015

Nodyn i'ch hatgoffa mai'r dyddiad cau ar gyfer Cronfa Cymorth Addysg yr Weinyddiaeth Amddiffyn 2015 yw 16:00 ar 30 Medi 2014.

Gweinidog yn ailsefydlu Cronfa Galedi ar gyfer Addysg Uwch

Heddiw mae Huw Lewis, y Gweinidog Addysg, wedi cyhoeddi y bydd y gronfa 'galedi' ddewisol (Cronfa Ariannol Wrth Gefn) o £2 filiwn sy'n daladwy i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn cael ei hariannu ym mlwyddyn academaidd 2014-15.

Y Gweinidog Addysg yn croesawu gwelliannau pellach o safbwynt presenoldeb mewn ysgolion uwchradd

Croesawodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau Huw Lewis ystadegau a gyhoeddwyd heddiw sy’n dangos bod cyfraddau presenoldeb mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru’n parhau i wella.  Ystadegau - Absenoldeb o ysgolion uwchradd

Ymgynghori - Rheoliadau perfformiadau plant: pryd caiff plant gymryd rhan mewn perfformiadau a’r seibiannau y mae’n rhaid iddynt eu cael

Rydym yn cynnig dileu cyfyngiadau diangen gan gadw mesurau diogelu hanfodol.

Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg - arolwg penaethiaid

Gofynnwn i chi gadw golwg ar eich negeseuon e-bost er mwyn sicrhau eich bod yn cyfrannu at yr arolwg. Caiff y neges ei hanfon ar 22 Medi fel rhan o’r broses o werthuso’r Strategaeth.

Ydych chi wedi amlygu llythrennedd bechgyn fel maes â blaenoriaeth o fewn eich cynllun gwella ysgol ar gyfer 2014-15?

Ymunwch â rhaglen beilot Sêr Darllen yr Uwch Gynghrair Cymru sef rhaglen ymyrraeth effeithiol ar gyfer darllen sy’n ceisio gwella sgiliau llythrennedd dysgwyr sy’n gyndyn iawn o ddarllen drwy ddefnyddio eu hoffter o bêl-droed. Cyflwynwch gais erbyn 30 Medi 2014

Arolwg ar gyfer arweinwyr ysgol ar y Rhaglenni Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol

Arweinwyr ysgol: cadwch lygad am y neges e-bost a fydd yn cael ei hanfon atoch yn fuan a chwblhewch yr arolwg.

Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2014

Mae Gwobrau Prentisiaethau  Cymru  (31 Hydref, Gwesty’r Celtic Manor) yn ein hatgoffa o’r talent cyfoethog sydd arddangos yn ein gwlad ac ymhlith y rhai sydd ar y rhestr fer, mae 'na rai unigolion  eithriadol sydd wedi rhagori yn y gweithle.  Pecynnau noddi ar gyfer y digwyddiadau

Galw am Dystiolaeth - Adolygiad yn dechrau i rôl a swyddogaethau Comisiynydd Plant Cymru

Mae galw ar  bawb sydd â diddordeb mewn plant a phobl ifanc yn ogystal â phlant a phobl ifanc eu hunain i fwydo i mewn i adolygiad annibynnol o rôl a swyddogaeth Comisiynydd Plant Cymru.  Mae Dr Mike Shooter wedi ei benodi i arwain yr adolygiad annibynnol.

Am wybodaeth pellach am yr adolygiad, gan gynnwys sut i gyfrannu at arolwg ar-lein, ewch at www.adolygiadcpc.co.uk

Adnoddau

Rhaglen Gymorth Mathemateg Bellach Cymru – croesewir enwebiadau ar gyfer:

Cwrs Meistr Mewn Algebra Pellach I Fyfyrwyr Blwyddyn 12  Hydref 2014 ym Mhrifysgol Caerdydd, Coleg Sir Benfro a Phrifysgol Abertawe.

Datrys Problemau Mathemateg Anarferol I Fyfyrwyr Blwyddyn - 13 Hydref  - Rhagfyr 2014 Coleg Sir Gâr, Abertawe a Hwlffordd

E-bostiwch infoFMSPWales@wimcs.ac.uk neu ewch i www.furthermaths.org.uk/wales_enrichment 

Rhaglen Gymorth Mathemateg Bellach Cymru – Datblygiad Proffesiynol Parhaus AM DDIM

Addysgu Mathemateg Pur Pellach I Yn Hyderus - Hydref 2014 – Mawrth 2015

Cyfle i wella’ch gwybodaeth am y prif bynciau sy’n codi mewn modiwlau FP1 neu i ailatgoffa’ch hun o’r pynciau hynny

E-bostiwch Sofya Lyakhova s.lyakhova@swansea.ac.uk neu ewch i www.furthermaths.org.uk/wales-teacher-support

Rhaglen Addysg Newydd Plasty Tuduraidd yng Nghonwy

Bydd rhaglen addysg bwrpasol, yn canolbwyntio ar fywyd oes y Tuduriaid, yn dechrau ar 11 Medi ym Mhlas Mawr, Tŷ Masnachwr o oes Elizabeth yng Nghonwy.

Theori Cerddoriaeth a Sain

Cyfres o 15 uned annibynnol i gefnogi dysgu Cerddoriaeth. Mae pob uned yn cynnwys gwybodaeth gynhwysfawr a gweithgareddau.(Adnodd Cerddoriaeth ar gyfer Cyfnod Allweddol 4). Mae Llywodraeth Cymru  wedi comisiynu'r adnodd hwn a llawer mwy. Mae’r adnodd hwn ar gael ar Hwb.

Astudiaeth Achos Athro Eithriadol: Kelly Walker, Ysgol Alexandra

Mae amgylchedd gefnogol wedi helpu Kelly i lwyddo yn ei hysgol. Cafodd gydnabyddiaeth fel Athro Eithriadol ar ôl 5 mlynedd fel cydgysylltydd llythrennedd.

Allan nawr!

CBAC: TGAU Drama Uned 1 Perfformiad Ymarferol Dyfeisiedig: llyfr sy’n darparu dulliau dysgu amrywiol ac ysgogol ar gyfer theori ac ymarfer Drama, yn ogystal â help i fyfyrwyr wella eu darn arholiad Mwy

Mae Llywodraeth Cymru  wedi comisiynu'r adnodd hwn a llawer mwy. Ewch at gategori Deunydd Addysgol gwales.com am fwy o wybodaeth ar yr adnoddau hyn ac i'w prynu.

Dyddiadau i'r dyddiadur

Seminar ar-lein, awr o hyd, ar gyfer addysgwyr a phobl broffesiynol eraill sy’n gweithio â phlant a phobl ifanc - 17 Medi 2014

Ymwybyddiaeth e-Ddiogelwch - Digwyddiad hyfforddi ar-lein i athrawon ac addysgwyr fydd yn darparu cyflwyniad i beryglon y rhyngrwyd, technoleg newydd, ymchwil, adnoddau a gwasanaethau sydd ar gael i’w cefnogi yn eu gwaith o gadw eu hunain a'u dysgwyr yn ddiogel ar y rhyngrwyd.

Yr Ail Gynhadledd flynyddol ar Deithio Llesol - “Rhoi Pobl Ifanc ar y Map”

Y Pierhead, Caerdydd, 25 Medi 2014

Dewch i ymuno â Gweinidogion Cymru, yn cynnwys Huw Lewis, y Gweinidog dros Addysg,  a Chomisiynydd Plant Cymru ar gyfer cynhadledd undydd. Bydd y gynhadledd eleni yn rhoi sylw arbennig ar fuddiannau cael mwy o blant a phobl ifanc i gerdded a seiclo a sut i gyflawni hynny.

Diddordeb mewn creu ffilmiau a gwneud ffrindiau newydd ar gwrs Academi Ffilm Brydeinig (BFI)?

Ydych chi’n berson ifanc sy’n edrych i ddatblygu fel gwneuthurwr ffilm ddogfennol?  Rhaglen breswyl 6 diwrnod cyffrous yw DAWN; byddwch yn mynychu dros dri phenwythnos unai’n ogledd, canolbarth neu de Cymru.  Mae’r dyddiad cau ar gyfer wedi ymestyn i ddydd Gwener 19 Medi.

  

Hwb

Hwb+

Mae llu o ddogfennau cefnogi newydd wedi eu hychwanegu i’r adran Cymorth a Chefnogaeth ar Hwb. Bydd gan athrawon ddiddordeb arbennig yn y dogfennau Hwb+ sy’n cefnogi’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd.

Mae tîm Hwb wedi bod wrthi’n dyfeisio canllawiau sy’n cynnig syniadau ac awgrymiadau ymarferol ar sut gellir defnyddio offer cynhwysfawr Hwb+ i gefnogi amrywiol linynnau’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd. Ewch i’r ardal ‘Cymorth’ ar Hwb am ragor o wybodaeth.

Rydym bob amser yn awyddus i glywed am awgrymiadau ynghylch defnyddio offer Hwb+  ac yn croesawu unrhyw adborth trwy ebostio hwb@cymru.gsi.gov.uk

Tîm Cynnwys Hwb

Mae dyddiadau nawr wedi eu cadarnhau ar gyfer digwyddiadau CwrddHwb y tymor hwn. Byddwn yn ymweld ag  Aberystwyth ar 21 Hydref, ac Ynys Môn ar 18 Tachwedd. Archebwch eich lle nawr, ac ymunwch â ni am gyflwyniad anffurfiol i adnoddau digidol ardderchog, gan gynnwys sesiynau i gyflwyno’r deunyddiau Just 2 Easy newydd fydd ar gael cyn hir i ddefnyddwyr dilysedig Hwb.  Peidiwch ag anghofio mewngofnodi i wefan Hwb gan ddefnyddio eich manylion Hwb+ - gallwch greu dalen-nodau newydd at eich hoff adnoddau, a defnyddio’r botwm ‘adrodd’ er mwyn gadael i ni wybod am unrhyw broblemau gydag adnodd penodol yr hoffech ei ddefnyddio.

mwy o newyddion

 

Cynhadledd NTfW - Adeiladu Dyfodol Cynaliadwy i Bawb - 31 Hydref 2014 yn y Celtic Manor Resort, Casnewydd

Bydd cyfle i’r cynadleddwyr gymryd rhan mewn gwrando ar siaradwyr sy’n ffigurau amlwg yn y maes a gweithdai. Bydd y gynhadledd hefyd yn gyfle gwych i rwydweithio ag unigolion a chwmnïau ym mhob rhan o’r sector hyfforddi yng Nghymru.

OpenLearn Cymru - lansio

Mae'r Brifysgol Agored yng Nghymru yn lansio casgliad o adnoddau cyfrwng Cymraeg am ddim ar gyfer Addysg Uwch ar ei gwefan newydd OpenLearn Cymru - www.open.edu/openlearncymru . Mae OpenLearn Cymru yn cynnig cyrsiau ac adnoddau mewn amrywiaeth eang o feysydd pwnc, y gellir eu defnyddio fel rhagflas cyn ymrwymo i astudio’n ffurfiol neu fel adnoddau ychwanegol i fyfyrwyr ac athrawon.

diweddariadau rhyngwladol ac o'r du

UKIERI Call for bids 2014/2015

UKIERI call for applications is now open. They are now accepting applications under the Innovation Partnership strand for various categories.  The call is open for all public HE institutions in UK.  Take a look at what’s available and criteria for applications