|
Sesiynau ar-lein ar 4 a 5 Tachwedd, ar gyfer sefydliadau ac awdurdodau lleol sy'n cynllunio ceisiadau am ysgolion ar raddfa fwy.
Cyrsiau Dysgu Cymraeg Dwys i Staff Sector Addysg wedi’u hariannu
Dyddiad: Tymor Academaidd 3, 2027
Mae’r rhain yn gyrsiau lefelau Mynediad-Gloywi wedi’u hariannu ar gyfer y Sector Addysg, ac fe’u cynhelir yn ystod trydydd tymor academaidd 2026-27. Mae grant ar gael tuag at gostau cyflewni.
Manylion pellach ar wefan Dysgu Cymraeg.
Gŵyl Ffilm Ewropeaidd ar gyfer Ysgolion Cymru
Gall ysgolion ledled Cymru fwynhau mynediad am ddim at ffilmiau ysbrydoledig yn Gymraeg, BSL, Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg tan 23 Hydref 2026. Mae adnoddau i'w defnyddio yn y dosbarth a chystadleuaeth adolygu ffilmiau genedlaethol yn rhan o'r ŵyl, gan roi cyfle gwych i hyrwyddo a chefnogi dysgu ieithoedd. Am ragor o wybodaeth ewch i dudalen we Consortiwm Canolbarth y De (Saesneg yn unig).
Hyfforddiant Adoption UK ar gyfer ysgolion a lleoliadau
Sesiynau arlein am ddim i staff ysgolion a lleoliadau sy’n dechrau ar 3 Tachwedd 2026. Archwilio’r rhesymau pam y gall dysgwyr sydd â phrofiad o ofal wynebu anawsterau wrth reoleiddio eu hymddygiad, a’r strategaethau sydd ar gael i’w cefnogi’n effeithiol ac yn dosturiol drwy ddefnyddio dull sy’n cael ei lywio gan drawma.
Cofrestrwch ar wefan Adoption UK (Saesneg yn unig).
Os oes gennych chi gwestiynau, cysylltwch ag arweinydd Addysg AUK Julie.moseley@adoptionuk.org.uk
|