eCylchlythyr Dysg: 15 Hydref 2026 • Rhifyn 828

15 Hydref 2026 • Rhifyn 828

Yn y cylchlythyr hwn

Welsh Government logo

Datganiad Ysgrifenedig: Dyfarniad cyflog athrawon 2026 i 2027

Datganiad gan Anna Brychan AS, Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, am y dyfarniad cyflog diweddaraf ar gyfer athrawon.

teachers cropped

Rhaglen Gymorth Genedlaethol ar gyfer Cynllunio’r Cwricwlwm a'r Trefniadau Asesu

Cyfle i gryfhau'r broses o ddatblygu'r cwricwlwm yn eich ysgol neu leoliad. Mae'r rhaglen yn cynnig arweiniad ymarferol, dysgu proffesiynol cydweithredol, mynediad at adnoddau’r athrofa Cwricwlwm i Gymru, a hyfforddiant arbenigol i gefnogi penderfyniadau effeithiol ynghylch y cwricwlwm. Mae Carfan 10 yn dechrau ar 5 Tachwedd 2026, gyda sesiynau'n cael eu cynnal brynhawniau Iau. Cofrestrwch nawr i sicrhau eich lle.

Cloc Aberfan

Adnoddau newydd i helpu dysgwyr i ddeall etifeddiaeth trychineb Aberfan

Wrth i Gymru nodi pen-blwydd trychineb Aberfan ym mis Hydref, mae adnoddau dysgu digidol newydd ar gael gan Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r adnoddau yn cynnig cyfle i ysgolion archwilio'r digwyddiad arwyddocaol hwn yn hanes Cymru gyda gofal a sensitifrwydd.

Nôl i’r brig

Newyddion addysg Llywodraeth Cymru

Yr asesiadau personol: nodiadau atgoffa a deunyddiau allweddol ar gyfer 2026 i 2027

Rhai adnoddau defnyddiol ar gyfer cwblhau eich asesiadau personol yn y flwyddyn academaidd hon.

Diweddariad misol ar addysgeg ac arferion ym maes dysgu sylfaen: y cwricwlwm

Adnoddau ymarferol a dysgu proffesiynol i gefnogi addysgeg gynhwysol sy'n canolbwyntio ar y plentyn, cynllunio myfyriol, datblygu cwricwlwm ac arferion mewn lleoliadau ledled Cymru.

Diweddariad am ddyfodol y Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP)

Yn dilyn sefydlu Dysgu, ein corff cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth, rydym wedi penderfynu y bydd cyfrifoldeb am y PDP yn trosglwyddo o Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA) i Dysgu o fis Medi 2028. Gwelwch y cynllun prosiect lefel uchel drafft ar gyfer y trosglwyddiad. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â IsadranYmarferwyrYsgolion@llyw.cymru

Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Estyn "Presenoldeb a chyfranogiad yn y sector ôl 16"

Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Estyn "Yn hysbys, yn cael eu cynnwys ac yn uchelgeisiol: hybu addysg dysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal"

Nôl i’r brig

Diweddariadau partneriaid

Dysgu: Sioe deithiol ar gyfer athrawon Cymraeg mewn ysgolion uwchradd cyfrwng Saesneg

2 i 10 Tachwedd, sawl lleoliad ledled Cymru

Ymunwch â ni am sesiwn ddysgu proffesiynol ymarferol sy’n canolbwyntio ar addysgeg dysgu ieithoedd effeithiol.

Bydd cyfle i:

  • archwilio adnoddau a syniadau newydd
  • myfyrio ar eich ymarfer a rhannu profiadau
  • datblygu dulliau ymarferol i gefnogi dysgu ac addysgu

Archebwch eich lle heddiw.

Nôl i’r brig

Iechyd a lles

Rhaglen frechu HPV: pecyn cymorth cyfathrebu ysgolion

Mae’r pecyn cymorth yn ei gwneud yn haws i ysgolion gefnogi'r rhaglen frechu HPV a rhannu gwybodaeth glir, ddibynadwy gyda dysgwyr, rhieni a gofalwyr.

Paratoi ar gyfer y gaeaf – peidiwch ag anghofio am eich brechlyn RSV

Mae pobl feichiog a grwpiau eraill sy’n fwy agored i niwed yn cael eu hannog i gael y brechlyn RSV.

Education Support: diweddariadau mis Hydref

Adborth y Gwasanaeth Datblygu Diwylliant: cymerwch olwg ar yr hyn y mae ysgolion yng Nghymru yn ei ddweud a chofrestrwch ar gyfer y rhaglen am ddim hon heddiw.

Gweithdai Cynorthwywyr Addysg a Chynorthwywyr Cymorth Dysgu: rydym wedi recordio amrywiaeth o weithdai am ddim yn benodol ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu a Chynorthwywyr Cymorth Dysgu yng Nghymru, gan gynnwys Gosod ffiniau iach; Cadw mewn cysylltiad â'ch diben; Cefnogi iechyd meddwl a llesiant, a Rheoli straen a hunanreoleiddio (Saesneg yn unig)

Rhannwch y pecyn cymorth llesiant dwyieithog gyda'ch Cynorthwywyr Addysgu a'ch Cynorthwywyr Cymorth Dysgu: Lawrlwythwch y pecyn cymorth

Nôl i’r brig

Digwyddiadau

Erasmus+ i Ysgolion - sefydliadau ac awdurdodau lleol

Sesiynau ar-lein ar 4 a 5 Tachwedd, ar gyfer sefydliadau ac awdurdodau lleol sy'n cynllunio ceisiadau am ysgolion ar raddfa fwy.

Cyrsiau Dysgu Cymraeg Dwys i Staff Sector Addysg wedi’u hariannu

Dyddiad: Tymor Academaidd 3, 2027

Mae’r rhain yn gyrsiau lefelau Mynediad-Gloywi wedi’u hariannu ar gyfer y Sector Addysg, ac fe’u cynhelir yn ystod trydydd tymor academaidd 2026-27. Mae grant ar gael tuag at gostau cyflewni.

Manylion pellach ar wefan Dysgu Cymraeg. 

Gŵyl Ffilm Ewropeaidd ar gyfer Ysgolion Cymru

Gall ysgolion ledled Cymru fwynhau mynediad am ddim at ffilmiau ysbrydoledig yn Gymraeg, BSL, Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg tan 23 Hydref 2026. Mae adnoddau i'w defnyddio yn y dosbarth a chystadleuaeth adolygu ffilmiau genedlaethol yn rhan o'r ŵyl, gan roi cyfle gwych i hyrwyddo a chefnogi dysgu ieithoedd. Am ragor o wybodaeth ewch i dudalen we Consortiwm Canolbarth y De (Saesneg yn unig).

Hyfforddiant Adoption UK ar gyfer ysgolion a lleoliadau

Sesiynau arlein am ddim i staff ysgolion a lleoliadau sy’n dechrau ar 3 Tachwedd 2026.  Archwilio’r rhesymau pam y gall dysgwyr sydd â phrofiad o ofal wynebu anawsterau wrth reoleiddio eu hymddygiad, a’r strategaethau sydd ar gael i’w cefnogi’n effeithiol ac yn dosturiol drwy ddefnyddio dull sy’n cael ei lywio gan drawma.

Cofrestrwch ar wefan Adoption UK (Saesneg yn unig).

Os oes gennych chi gwestiynau, cysylltwch ag arweinydd Addysg AUK  Julie.moseley@adoptionuk.org.uk

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Addysg Cymru: Blog

Hwb

Dilynwch ni ar Facebook:

Addysg Cymru

 

Dilynwch ni ar LinkedIn:

Addysg Cymru

 

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

 

Dilynwch ni ar YouTube:

Addysg Cymru