20 Awst 2026 • Rhifyn arbennig diwrnod canlyniadau

20 Awst 2026 • Rhifyn arbennig diwrnod canlyniadau

Yn y cylchlythyr hwn

Newyddion diweddaraf

Quals Wales

Dysgwyr yn derbyn eu canlyniadau TGAU a chymwysterau galwedigaethol lefel 2 heddiw

"Llongyfarchiadau i bawb sy'n derbyn eu canlyniadau heddiw, a da iawn am yr holl waith caled, ymrwymiad a gwytnwch rydych chi wedi'u dangos trwy gydol eich astudiaethau."

WJEC CBAC

Ymgeiswyr yn derbyn eu canlyniadau TGAU, Lefel 1 / 2 a Bagloriaeth Cymru 2026

Am fwy o wybodaeth ewch i'n tudalen we Diwrnod Canlyniadau. I gysylltu â CBAC anfonwch e-bost at DiwrnodCanlyniadau@cbac.co.uk neu ffoniwch y linell gymorth ar 02920 265 000. Gallwch hefyd ddilyn CBAC ar Facebook, Twitter ac Instagram.

classroom

Pecyn Cymorth wythnos canlyniadau

Gall Cymru’n Gweithio gynorthwyo dysgwyr gyda’u  camau nesaf. Rydym wedi creu pecyn cymorth y gallwch ei ddefnyddio i helpu lledaenu'r neges ac annog pobl ifanc i ymweld â Cymru’n Gweithio am gymorth ac arweiniad ar eu hopsiynau.

Nôl i’r brig

Newyddion Llywodraeth Cymru

Dyma ddechrau eich dyfodol: 35 o gyfleoedd prentisiaeth ledled Cymru

Llywodraeth Cymru yn agor y drws i yrfaoedd newydd gyda 35 o gyfleoedd prentisiaeth. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar Gyrfaoedd Cynnar Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn bosib mynychu sesiwn mewn person neu ar-lein.Y dyddiad cau yw 28 Medi 2026.

Yn dod yn fuan: Y Fwrsariaeth i gadw athrawon Cymraeg mewn addysg

Bydd ceisiadau ar gyfer bwrsariaeth o £5,000 i gadw athrawon Cymraeg mewn Addysg ar agor o 1 Medi 2026. Cadwch lygad am fwy o fanylion megis meini prawf a sut i wneud cais.

Nôl i’r brig

Iechyd a lles

Cyflwyno brechlyn MenB i bobl ifanc yng Nghymru cyn y flwyddyn academaidd newydd

Bydd pobl ifanc yng Nghymru yn cael cynnig brechiad Meningococol B (MenB) am y tro cyntaf yn hydref 2026, fel rhan o raglen sydd ar gael am gyfnod cyfyngedig o amser.

Brechiadau i fyfyrwyr sy’n mynd i goleg

Gwiriwch eich bod wedi cael eich holl frechiadau. 

Ydych chi'n poeni am ganlyniadau arholiadau? Gall SilverCloud® Wales helpu

Mae SilverCloud® Wales yn darparu ystod o raglenni cymorth ar-lein dan arweiniad i helpu gyda symptomau ysgafn i gymedrol straen, pryder, iselder a mwy.

Meic

Meic yw'r gwasanaeth llinell gymorth ar gyfer plant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. Os oes angen siarad â rhywun yn gyfrinachol, gallwch wneud hynny ar-lein, drwy neges destun neu ffonio Meic.

Nôl i’r brig

Cymorth costau ysgol a’r coleg

Addysg bellach: help gydag arian

Cymorth ar gael i’ch helpu gyda chostau teithio ac astudio, gan gynnwys Lwfans Cynhaliaeth Addysg a Fy Mhas Teithio.

Cerdyn rheilffordd 16 i 17

Os ydych mewn addysg neu hyfforddiant ac yn defnyddio’r trên, gallwch gael mynediad at brisiau tocynnau rheilffordd plant hanner pris wrth brynu cerdyn rheilffordd 16 i 17.

Nôl i’r brig

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Addysg Cymru: Blog

Hwb

Dilynwch ni ar Facebook:

Addysg Cymru

 

Dilynwch ni ar LinkedIn:

Addysg Cymru

 

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

 

Dilynwch ni ar YouTube:

Addysg Cymru