Mae'r Gweinidog dros Addysg a'r Gymraeg, Anna Brychan, wedi llongyfarch dysgwyr ledled Cymru sy'n derbyn canlyniadau TGAU, Bagloriaeth Cymru a chymwysterau galwedigaethol.
"Llongyfarchiadau i bawb sy'n derbyn eu canlyniadau heddiw, a da iawn am yr holl waith caled, ymrwymiad a gwytnwch rydych chi wedi'u dangos trwy gydol eich astudiaethau."
Gall Cymru’n Gweithio gynorthwyo dysgwyr gyda’u camau nesaf. Rydym wedi creu pecyn cymorth y gallwch ei ddefnyddio i helpu lledaenu'r neges ac annog pobl ifanc i ymweld â Cymru’n Gweithio am gymorth ac arweiniad ar eu hopsiynau.
Yn dod yn fuan: Y Fwrsariaeth i gadw athrawon Cymraeg mewn addysg
Bydd ceisiadau ar gyfer bwrsariaeth o £5,000 i gadw athrawon Cymraeg mewn Addysg ar agor o 1 Medi 2026. Cadwch lygad am fwy o fanylion megis meini prawf a sut i wneud cais.
Bydd pobl ifanc yng Nghymru yn cael cynnig brechiad Meningococol B (MenB) am y tro cyntaf yn hydref 2026, fel rhan o raglen sydd ar gael am gyfnod cyfyngedig o amser.
Mae SilverCloud® Wales yn darparu ystod o raglenni cymorth ar-lein dan arweiniad i helpu gyda symptomau ysgafn i gymedrol straen, pryder, iselder a mwy.
Meic yw'r gwasanaeth llinell gymorth ar gyfer plant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. Os oes angen siarad â rhywun yn gyfrinachol, gallwch wneud hynny ar-lein, drwy neges destun neu ffonio Meic.
Os ydych mewn addysg neu hyfforddiant ac yn defnyddio’r trên, gallwch gael mynediad at brisiau tocynnau rheilffordd plant hanner pris wrth brynu cerdyn rheilffordd 16 i 17.
Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru. Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.