Bwletin Gwaith Ieuenctid: Ar Gael Nawr!

Mehefin 2025 

 
 

CYNNWYS

Dyddiadau y Calendr

Wythnos Gwaith Ieuenctid 2025 – Dathlu Effaith Ar Draws Cymru Y mis Mehefin hwn, mae Wythnos Gwaith Ieuenctid 2025 yn dathlu'r rôl hanfodol y mae gwaith ieuenctid yn ei chwarae ym mywydau pobl ifanc ledled Cymru. Yn digwydd o 23–30 Mehefin, gan roi sylw i arfer cynhwysol a dathlu gwaith ieuenctid. Mae pecyn cyfryngau cymdeithasol ar gael i chi lawrlwytho fanhyn - https://www.cwvys.org.uk/youth-work-week-2025-resources/

Rhannwch plis!

Rydym yn gofyn i fudiadau rannu straeon, cynnal digwyddiadau, ac arddangos eu gwaith gan ddefnyddio #WythnosGwaithIeuenctid25. Os hoffech gymryd rhan a chyfrannu at gyfrif Gwaith Ieuenctid yng Nghymru ar gyfryngau cymdeithasol, anfonwch e-bost at manon@cwvys.org.uk

Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn cyflwyno: Wythnos Gwaith Ieuenctid yng Nghymru – Croeso i Geredigion!

📅Dydd Mawrth, 24 Mehefin 2025 🕘9:00 AM - 4:00 PM 📍Canolfan Gynadledda Medrus, Prifysgol Aberystwyth

Cofrestrwch eich diddordeb erbyn 2 Mehefin 2025: Cynhadledd Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion 2025

2 weeks CYM

Newyddion Dda

Mae ymyrraeth gynnar yn atal digartrefedd ac yn helpu i gadw pobl ifanc mewn addysg. Mae gwasanaeth ieuenctid Cyngor Caerffili yn gweithio gydag ysgolion a sefydliadau eraill i gefnogi pobl ifanc 11 i 18 oed sydd mewn perygl o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant neu o fynd yn ddigartref.
 
Neges Heddwch ac Ewyllys Da Urdd Gobaith Cymru 2025 yn ymateb i'r newyddion bod un o bob tri phlentyn yng Nghymru yn byw mewn tlodi - Neges Heddwch ac Ewyllys Da | Urdd Gobaith Cymru.

Llywodraeth Cymru

Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol

Cyhoeddwyd y Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol 10 mlynedd ar 30 Ebrill. Mae'r strategaeth a'r Cynllun Cyflawni 3 blynedd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Diweddariad ar Ganllawiau Llywodraeth Cymru ar Ddysgwyr Traws, Anneuaidd a Rhywedd-gwestiynol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd oedi i'r ymgynghoriad ar ei chanllawiau drafft ar gefnogi dysgwyr traws, anneuaidd a rhywedd-gwestiynol, a gynlluniwyd yn wreiddiol ar gyfer dechrau 2025.

Mae Llywodraeth Cymru yn archwilio ffyrdd y gallwn gefnogi ysgolion i fod yn fannau cynhwysol i ddysgwyr, gan gynnwys gweithio gyda'r sector gwaith ieuenctid i wella cefnogaeth mewn ysgolion a lleoliadau a chanddynt ddysgwyr oedran uwchradd.

Hawliau, Parch, Cydraddoldeb

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi lansiad ein hymgynghoriad ar y canllawiau gwrth-fwlio statudol diwygiedig "Hawliau, Parch, Cydraddoldeb".

Arhoswch yn ymwybodol, arhoswch yn ddiogel, arhoswch gyda'ch gilydd: ymgyrch Tom

Bu farw Tom Channon yn Sbaen ym mis Gorffennaf 2018 tra ar wyliau gyda ffrindiau mewn damwain drasig. Mae ei rieni a'i gyn-ysgol wedi creu cyfres o adnoddau ar HWB i hyrwyddo ymwybyddiaeth o ddiogelwch i bobl ifanc sy'n mynd i ffwrdd ar wyliau heb deulu am y tro cyntaf.

Cyfleuoedd o Fewn Y Sector

Cyfle Podlediad ar gyfer Wythnos Gwaith Ieuenctid - Mae ETS Cymru yn chwilio am rywun i ymddangos mewn podlediad ar gyfer Wythnos Gwaith Ieuenctid, yn ddelfrydol rhywun sydd wedi bod ar lwybr o fod yn berson ifanc, i wirfoddoli a bellach yn gwneud swydd gwaith ieuenctid â thâl. Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn addas ar gyfer y stori hon ac yn hapus i gael ei gyfweld, cysylltwch yn uniongyrchol trwy darryl.white@wlga.gov.uk.

Yn cyflwyno Academi Hyfforddi Gwaith Ieuenctid Cymru – menter beilot sy’n darparu dysgu proffesiynol arloesol a hyblyg i ymarferwyr Gwaith Ieuenctid. Rydym yn recriwtio ar gyfer dau rôl:

  • Asesydd Tiwtor Gwaith Ieuenctid – yn cefnogi llwybrau cymhwyso hyblyg ar gyfer staff rhan-amser neu staff oriau cyfyngedig.
  • Hyfforddwr Gwaith Ieuenctid – yn datblygu a chyflwyno hyfforddiant amserol o ansawdd uchel

Gweler y pecynnau swyddi sydd ynghlwm am y meini prawf llawn. Nid yw mynegi diddordeb yn gwarantu cyflogaeth. Am ymholiadau, cysylltwch â: ets@wlga.gov.uk.

Meic banner

Byddwch yn Rhan o'r Fwletin Gwaith Ieuenctid

E-bostiwch gwaithieuenctid@llyw.cymru os ydych am gyfrannu at y fwletin nesaf.

Byddwn yn darparu canllaw arddull ar gyfer cyflwyno erthyglau, ynghyd â gwybodaeth am gyfanswm geiriau erthyglau ar gyfer y gwahanol adrannau.

Cofiwch ddefnyddio #YouthWorkinWales #GwaithIeuenctidCymru wrth drydar i godi proffil Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.

Dilynwch @ieuenctidcymru ar X a Facebook i gael yr holl newyddion diweddaraf.

Ydych chi wedi tanysgrifio ar gyfer Bwletin Gwaith Ieuenctid?  Cofrestrwch yn gyflym yma

 
 
 

AMDANOM NI

Cyhoeddir y cylchlythyr bob 4 mis i ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth i'r sector gwaith ieuenctid.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/gwaith-ieuenctid-ac-ymgysylltu

 

Cysylltwch â ni:

gwaithieuenctid@llyw.cymru

Dilynwch ni ar Twitter:

@IeuenctidCymru