 |
|
Wythnos Gwaith Ieuenctid 2025 – Dathlu Effaith Ar Draws Cymru Y mis Mehefin hwn, mae Wythnos Gwaith Ieuenctid 2025 yn dathlu'r rôl hanfodol y mae gwaith ieuenctid yn ei chwarae ym mywydau pobl ifanc ledled Cymru. Yn digwydd o 23–30 Mehefin, gan roi sylw i arfer cynhwysol a dathlu gwaith ieuenctid. Mae pecyn cyfryngau cymdeithasol ar gael i chi lawrlwytho fanhyn - https://www.cwvys.org.uk/youth-work-week-2025-resources/
Rhannwch plis!
Rydym yn gofyn i fudiadau rannu straeon, cynnal digwyddiadau, ac arddangos eu gwaith gan ddefnyddio #WythnosGwaithIeuenctid25. Os hoffech gymryd rhan a chyfrannu at gyfrif Gwaith Ieuenctid yng Nghymru ar gyfryngau cymdeithasol, anfonwch e-bost at manon@cwvys.org.uk
Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn cyflwyno: Wythnos Gwaith Ieuenctid yng Nghymru – Croeso i Geredigion!
📅Dydd Mawrth, 24 Mehefin 2025 🕘9:00 AM - 4:00 PM 📍Canolfan Gynadledda Medrus, Prifysgol Aberystwyth
Cofrestrwch eich diddordeb erbyn 2 Mehefin 2025: Cynhadledd Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion 2025
|
  |
|
Mae ymyrraeth gynnar yn atal digartrefedd ac yn helpu i gadw pobl ifanc mewn addysg. Mae gwasanaeth ieuenctid Cyngor Caerffili yn gweithio gydag ysgolion a sefydliadau eraill i gefnogi pobl ifanc 11 i 18 oed sydd mewn perygl o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant neu o fynd yn ddigartref. |
| |
|
Neges Heddwch ac Ewyllys Da Urdd Gobaith Cymru 2025 yn ymateb i'r newyddion bod un o bob tri phlentyn yng Nghymru yn byw mewn tlodi - Neges Heddwch ac Ewyllys Da | Urdd Gobaith Cymru.
|
Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol
Cyhoeddwyd y Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol 10 mlynedd ar 30 Ebrill. Mae'r strategaeth a'r Cynllun Cyflawni 3 blynedd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
|
Diweddariad ar Ganllawiau Llywodraeth Cymru ar Ddysgwyr Traws, Anneuaidd a Rhywedd-gwestiynol
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd oedi i'r ymgynghoriad ar ei chanllawiau drafft ar gefnogi dysgwyr traws, anneuaidd a rhywedd-gwestiynol, a gynlluniwyd yn wreiddiol ar gyfer dechrau 2025.
Mae Llywodraeth Cymru yn archwilio ffyrdd y gallwn gefnogi ysgolion i fod yn fannau cynhwysol i ddysgwyr, gan gynnwys gweithio gyda'r sector gwaith ieuenctid i wella cefnogaeth mewn ysgolion a lleoliadau a chanddynt ddysgwyr oedran uwchradd.
Hawliau, Parch, Cydraddoldeb
Rydym yn gyffrous i gyhoeddi lansiad ein hymgynghoriad ar y canllawiau gwrth-fwlio statudol diwygiedig "Hawliau, Parch, Cydraddoldeb".
Arhoswch yn ymwybodol, arhoswch yn ddiogel, arhoswch gyda'ch gilydd: ymgyrch Tom
Bu farw Tom Channon yn Sbaen ym mis Gorffennaf 2018 tra ar wyliau gyda ffrindiau mewn damwain drasig. Mae ei rieni a'i gyn-ysgol wedi creu cyfres o adnoddau ar HWB i hyrwyddo ymwybyddiaeth o ddiogelwch i bobl ifanc sy'n mynd i ffwrdd ar wyliau heb deulu am y tro cyntaf.
Cyfle Podlediad ar gyfer Wythnos Gwaith Ieuenctid - Mae ETS Cymru yn chwilio am rywun i ymddangos mewn podlediad ar gyfer Wythnos Gwaith Ieuenctid, yn ddelfrydol rhywun sydd wedi bod ar lwybr o fod yn berson ifanc, i wirfoddoli a bellach yn gwneud swydd gwaith ieuenctid â thâl. Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn addas ar gyfer y stori hon ac yn hapus i gael ei gyfweld, cysylltwch yn uniongyrchol trwy darryl.white@wlga.gov.uk.
Yn cyflwyno Academi Hyfforddi Gwaith Ieuenctid Cymru – menter beilot sy’n darparu dysgu proffesiynol arloesol a hyblyg i ymarferwyr Gwaith Ieuenctid. Rydym yn recriwtio ar gyfer dau rôl:
-
Asesydd Tiwtor Gwaith Ieuenctid – yn cefnogi llwybrau cymhwyso hyblyg ar gyfer staff rhan-amser neu staff oriau cyfyngedig.
-
Hyfforddwr Gwaith Ieuenctid – yn datblygu a chyflwyno hyfforddiant amserol o ansawdd uchel
Gweler y pecynnau swyddi sydd ynghlwm am y meini prawf llawn. Nid yw mynegi diddordeb yn gwarantu cyflogaeth. Am ymholiadau, cysylltwch â: ets@wlga.gov.uk.
E-bostiwch gwaithieuenctid@llyw.cymru os ydych am gyfrannu at y fwletin nesaf.
Byddwn yn darparu canllaw arddull ar gyfer cyflwyno erthyglau, ynghyd â gwybodaeth am gyfanswm geiriau erthyglau ar gyfer y gwahanol adrannau.
Cofiwch ddefnyddio #YouthWorkinWales #GwaithIeuenctidCymru wrth drydar i godi proffil Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.
Dilynwch @ieuenctidcymru ar X a Facebook i gael yr holl newyddion diweddaraf.
Ydych chi wedi tanysgrifio ar gyfer Bwletin Gwaith Ieuenctid? Cofrestrwch yn gyflym yma
|