 |
|
Rwy'n gobeithio y bydd y bwletin gwaith ieuenctid hwn yn eich cael yn dda a'ch bod yn dechrau mwynhau'r dyddiau mwy disglair a thymor y Gwanwyn.
Roedd yn wych gweld cymaint o gydweithwyr a ffrindiau gwaith ieuenctid yn y gynhadledd gwaith ieuenctid fis diwethaf, gyda dros dri chant ohonoch yn mynychu Stadiwm Dinas Caerdydd. Hon oedd y gynhadledd gyntaf ers pum mlynedd ac mae llawer wedi newid ers hynny!
Roedd yr egni a'r bwrlwm yn y brif ystafell yn fendigedig. Roedd cael Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Chomisiynydd Plant Cymru yn bresennol yn dangos eu hymrwymiad i waith ieuenctid yng Nghymru.
|
Roedd cynrychiolaeth dda o bob rhan o’r sector ac fe wnaethom hefyd groesawu gwesteion o bob rhan o’r DU. Roedd araith Prif Weithredwr Youthlink yr Alban yn arbennig o ddiddorol i mi, ac un o'n Pencampwyr Gwaith Ieuenctid anhygoel, Molly Fenton a oedd yn rhagorol wrth ddisgrifio pŵer gwaith ieuenctid a’r hyn y mae wedi’i olygu iddi. Thema'r gynhadledd oedd 'Cydweithio a Phartneriaethu'. Mae hyn yn hanfodol wrth i ni symud ymlaen i gryfhau'r dulliau partneriaeth presennol a llunio dyfodol gwaith ieuenctid i gynnal ein sector. Mae gweithio mewn partneriaeth yn egwyddor allweddol yn y canllawiau statudol drafft a gyhoeddwyd yn gynharach eleni.
Rwyf wedi bod yn gwrando ar westeion y podlediad a gafodd eu cyfweld ar y diwrnod gan Darryl White o ETS. Mae gan y sgyrsiau cyfoethog le pwysig yn ein hanes o waith ieuenctid. I wrando ar y podlediad, gallwch ddilyn y ddolen yma; Youth Work Conference Special (Post Conference with Sharon Lovell)
Mae Bwrdd Gweithredu Strategol Gwaith Ieuenctid yn edrych ymlaen at gyhoeddiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar benderfyniad Corff Cenedlaethol i Gymru. Hoffwn ddiolch i’r rhai o’r sector a gymerodd ran ac a rannodd eu barn y ystod ystyriaethau gychwynnol ar rôl a chylch gwaith corff cenedlaethol posib.
Cadwch lygad am wybodaeth yn ymwneud ag Wythnos Gwaith Ieuenctid ym mis Mehefin, bydd llawer yn digwydd felly cymerwch ran! Edrychaf ymlaen at barhau i ymgysylltu â chi yn ystod y misoedd nesaf.
Sharon Lovell MBE
Cadeirydd y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid.
Mae crynodeb o'r ymatebion a dderbyniwyd i'n hymgynghoriad diweddar ar gynigion drafft ar gyfer fframwaith statudol newydd ar gyfer gwaith ieuenctid wedi cael eu cyhoeddi. Dyma ddolen i’r grynodeb.
 Uchafbwyntiau a Mewnwelediadau Allweddol
Lleisiau Ysbrydoledig – Pwysleisiwyd y cyweirnod gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle AS, Cadeirydd Bwrdd Gweithredu’r Strategaeth Gwaith Ieuenctid, Sharon Lovell MBE, a’r Comisiynydd Plant, Rocio Cifuentes MBE bŵer cydweithio wrth lunio dyfodol gwaith ieuenctid.
Dysgu Ymarferol – Aeth gweithdai i’r afael â phynciau hanfodol fel strategaethau ariannu, gwaith ieuenctid digidol, ac ymgysylltu â’r gymuned a yrrir gan chwaraeon, gan gynnig negeseuon o'r byd go iawn i fynychwyr.
Creadigrwydd ar Waith – Roedd sesiynau ar y celfyddydau mewn gwaith ieuenctid yn arddangos effaith ffilm, barddoniaeth ac adrodd straeon, gan gynnwys perfformiad byw gan Anya Sherlock o Olion a mewnwelediadau gan arbenigwyr yn y sector gwaith ieuenctid.
Dyfodol Gwaith Ieuenctid yng Nghymru – Roedd trafodaethau llawn yn ymwneud â’r Gymraeg mewn gwaith ieuenctid, mynd i’r afael â thlodi misglwyf, a gwaith ieuenctid gwrth-hiliol, gan ein hatgoffa pam fod ein gwaith yn bwysig.
 Beth Nesaf?
Cadwch mewn Cysylltiad - Dilynwch @IeuenctidCymru ar X i barhau â'r sgwrs.
Siaradodd un o'n Pencampwyr Gwaith Ieuenctid, Lieam Williams sy'n weithiwr ieuenctid i Wasanaeth Ieuenctid Gwynedd yn y gynhadledd a rhannu ei farn ar y diwrnod;
'Roedd mynychu fy Nghynhadledd Ieuenctid gyntaf yng Nghaerdydd yn brofiad gwych! Roedd y digwyddiad yn fywiog ac yn llawn egni, gan ddod ag unigolion angerddol at ei gilydd sy'n ymroddedig i wneud gwahaniaeth i fywydau Pobl Ifanc. Roedd yn wych gallu cymryd rhan mewn Panel Trafod, a ymchwiliodd i sut mae gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill yn effeithio'n gadarnhaol ar bobl ifanc ac a archwiliodd ddiben sylfaenol gwaith ieuenctid. Yn gyffredinol, roedd y gynhadledd yn gyfle gwych i ddysgu, cysylltu a chyfrannu at drafodaethau ystyrlon.'
 Sbarduno Newid: Defnyddio Pêl-droed a Gwaith Ieuenctid i Rymuso Pobl Ifanc
Zac Lyndon-Jones yw Pennaeth Datblygu Cymunedol Sefydliad Cymunedol Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd a theimlai fod cymryd rhan yng Nghynhadledd Gwaith Ieuenctid 2025 yn gyfle gwych i rannu sut mae Sefydliad Cymunedol CPD Dinas Caerdydd yn defnyddio pŵer pêl-droed i ysbrydoli, cefnogi a dyrchafu pobl ifanc ledled Cymru.
“Wrth groesawu pawb i Stadiwm Dinas Caerdydd - cartref Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd - myfyriais ar sut mae pêl-droed, fel gwaith ieuenctid, yn uno pobl ac yn creu ymdeimlad o berthyn. Yn union fel y mae pêl-droed yn cysylltu cefnogwyr, mae gwaith ieuenctid yn creu mannau lle mae pobl ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi a'u hysgogi i lwyddo.
Gyda dros 20 mlynedd o brofiad mewn gwaith ieuenctid, yn wirfoddol ac yn awr yn broffesiynol gyda Sefydliad Cymunedol Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, mae fy angerdd yn helpu pobl ifanc i ffynnu. Mae mwy i waith ieuenctid na darparu gwasanaethau yn unig—mae’n ymwneud â gwrando, deall, a meithrin ymddiriedaeth fel bod pobl ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu clywed a’u cefnogi.
Tynnais sylw at y modd y mae Sefydliad Cymunedol Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn defnyddio pŵer pêl-droed i ymgysylltu â phobl ifanc ac ysgogi newid cadarnhaol. Fel elusen swyddogol Clwb Pêl-droed Caerdydd, rydyn ni’n canolbwyntio ar ein “hat tric o goliau”:
✅ Iechyd a Lles – Hybu iechyd meddwl a chorfforol trwy chwaraeon.
✅ Cefnogi Dysgu a Sgiliau – Helpu pobl ifanc i ddatblygu sgiliau bywyd a dod o hyd i gyfleoedd newydd.
✅ Creu Cymunedau Cryfach – Dod â phobl ynghyd i greu ymdeimlad o berthyn.
Mae pêl-droed yn arf pwerus - ac o’i gyfuno â gwaith ieuenctid effeithiol, gall newid bywydau.”
https://cardiffcityfcfoundation.org.uk/cy/our-impact/impact-report
 Steve Swindon o TAPE yn myfyrio ar y Gynhadledd Gwaith Ieuenctid
Roedd Steve Swindon Sylfaenydd TAPE Community Music and Film yn siarad yn y gynhadledd a siaradodd am ffilm wych Supporting Shorts TAPE, sydd wedi cael ei dangos yn sinemâu Vue.
“Roeddwn wrth fy modd i gael y cyfle i siarad yng Nghynhadledd Gwaith Ieuenctid Genedlaethol Cymru i gyflwyno prosiect Supporting Shorts TAPE a chymryd rhan mewn panel yn edrych ar waith ieuenctid digidol. Roedd yn fraint cael bod yn rhan o’r casgliad hwn o weithwyr proffesiynol angerddol sy’n ymroddedig i greu newid cadarnhaol a grymuso pobl ifanc. Mae’r cyfle i rannu syniadau ac ymgysylltu â grŵp mor amrywiol o unigolion sy’n gweithio ym maes datblygu ieuenctid, addysg, a newid cymdeithasol yn rhywbeth rwy’n gwerthfawrogi’n fawr iawn.
Mae gan y diwydiannau sgrin bŵer diymwad i ddylanwadu, addysgu ac ysbrydoli. Fodd bynnag, i lawer o bobl ifanc, gall y diwydiannau hyn deimlo fel byd na ellir ei gyrraedd, un sy'n ymddangos wedi'i gadw ar gyfer y sawl dethol sydd â'r adnoddau neu'r cysylltiadau cywir. Mae Supporting Shorts a gwaith TAPE yn canolbwyntio ar chwalu’r rhwystrau hynny a sicrhau bod pobl ifanc o bob cefndir yn cael mynediad at y cyfleoedd y mae’r diwydiannau sgrin yn eu darparu.
Yr hyn yr wyf yn ei weld yn arbennig o gyffrous am y prosiect hwn yw ei botensial i drawsnewid y ffordd yr ydym yn meddwl am fynediad i ddiwydiannau creadigol. Yn aml, rydym yn meddwl am y meysydd hyn fel rhai unigryw, gyda mynediad yn gofyn am lefel benodol o fraint, profiad neu rwydweithiau. Ond gyda’r gefnogaeth, yr arweiniad a’r anogaeth gywir, gall pobl ifanc ddod o hyd i lwybrau i’r diwydiannau sgrin sydd nid yn unig yn hygyrch ond sydd hefyd yn rymusol. Mae'n ymwneud â chreu gofodau lle mae pobl ifanc yn cael eu gweld, eu clywed, a chael yr offer i adrodd eu straeon eu hunain, boed hynny trwy gyfrwng ffilm, animeiddiad, neu blatfformau cyfryngau digidol.
Rhoddodd cyflwyno’r prosiect hwn i grŵp o weithwyr ieuenctid ymroddedig, addysgwyr, ac arweinwyr cymunedol gyfle amhrisiadwy i mi fyfyrio ar y gwaith sy’n cael ei wneud eisoes yn y maes hwn a sut y gallwn gydweithio ymhellach i greu cyfleoedd mwy cynhwysol a theg i bobl ifanc. Roedd y sgyrsiau a’r mewnwelediadau a rannwyd drwy gydol y gynhadledd yn fy atgoffa nad yw gwaith ieuenctid yn ymwneud â darparu gwasanaethau neu raglenni’n unig, ond â gwrando ar bobl ifanc, deall eu breuddwydion, a’u helpu i wireddu eu potensial.
Edrychaf ymlaen at barhau â gwaith TAPE i wneud y diwydiannau sgrin a’r uchelgeisiau creadigol yn fwy hygyrch, cynhwysol, a grymusol i bobl ledled Cymru a’r DU ehangach.”
– Am ragor o wybodaeth ewch i Supporting Shorts
Derbynwyr diweddaraf y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid (MAGI)
Llongyfarchiadau enfawr i Wasanaeth Ieuenctid Merthyr Tudful sydd wedi derbyn y marc ansawdd arian, a Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd sydd wedi adnewyddu eu gwobr efydd.
Mae'r MAGI (a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a weinyddir gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA)) yn wobr genedlaethol sy'n dangos rhagoriaeth mudiad. I gael rhagor o wybodaeth am y MAGI, gan gynnwys sut gall eich mudiad ennill achrediad, neu sut y gallwch ddod yn aseswr, ewch i wefan CGA.
Dweud eich dweud ar ddiwygiadau arfaethedig i'r Côd Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol
Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi lansio ymgynghoriad ar ddrafft wedi’i ddiweddaru o’r Côd Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol. Mae’r Côd yn ddogfen allweddol sy’n egluro i gofrestreion CGA y prif safonau ymddygiad da ac arfer proffesiynol y disgwylir i bob un eu cynnal er mwyn parhau i fod yn gofrestredig. Ers ei gyflwyno, mae’r Côd Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol wedi rhoi canllawiau clir i ymarferwyr, a’r cyhoedd, ar beth yw’r safonau hyn. Fel rhan o ofyniad deddfwriaethol CGA i adolygu’r Côd, mae’r rheolydd wedi gwneud rhai mân ddiwygiadau, ac mae'n croesawu adborth ar y newidiadau arfaethedig hyn.
Allwch chi helpu mapio gwasanaethau gwaith ieuenctid ar gyfer pobl ifanc â chyflyrau iechyd corfforol a/neu feddyliol?
Fel rhan o astudiaeth ymchwil a ariannwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Manceinion yn cynnal arolwg mapio i bennu'r ddarpariaeth bresennol o wasanaethau gwaith ieuenctid ledled Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban.
Mae ganddynt ddiddordeb mewn nodi unrhyw wasanaethau gwaith ieuenctid sy’n cefnogi pobl ifanc sydd:
- Rhwng 11 a 25 oed;
- Â chyflwr corfforol hirdymor (e.e. diabetes, asthma) A/NEU;
- Â chyflwr iechyd meddwl hirdymor (e.e. gorbryder, iselder, hunan-niweidio).
Os ydych yn ymwybodol o unrhyw wasanaethau sy'n bodloni'r disgrifiad hwn, byddent yn falch iawn o glywed amdanynt trwy eu harolwg byr ar-lein na ddylai gymryd mwy na 15 munud i'w gwblhau.
Dolen i'r arolwg: https://tinyurl.com/YWSMapping [tinyurl.com]
Diwrnod Hylendid Mislif - 28 Mai 2025
Bydd Llywodraeth Cymru yn nodi pwysigrwydd Diwrnod Hylendid Mislif, y thema eleni yw "Gyda'n gilydd ar gyfer byd sy'n gyfeillgar i'r mislif".
Mae Arweinwyr Urddas Mislif ym mhob awdurdod lleol yn defnyddio’r Grant Urddas Mislif i sicrhau bod nwyddau mislif am ddim ar gael mewn ysgolion, colegau a lleoliadau cymunedol i bawb sydd eu hangen.
Gall eich Arweinydd Urddas Mislif roi cyngor ac arweiniad ar y cynnyrch a'r hyfforddiant sydd ar gael yn eich ardal.
Gallwch ddilyn cynnydd yn erbyn camau gweithredu yng Nghynllun Gweithredu Cymru sy'n Falch o'r Mislif ar y dudalen hon.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â perioddignity@gov.wales.
Yn teimlo'r hud?
Oes gennych chi ddiddordeb mewn dod i wybod mwy am Ymgyrch Mewn hwyl, mae 'na hud Croeso Cymru?
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cyfle i bobl ifanc neu fudiadau drwy ein sector gwaith ieuenctid gael profiad o ddatblygu’r ymgyrch Hwyl drwy Croeso Cymru. I gofrestru eich diddordeb ac i gael gwybod mwy, cysylltwch â ni drwy ein blwch post gwaithieuenctid@llyw.cymru.
 |
|
Datgloi 25 mlynedd a mwy o arbenigedd gwaith achosion priodoldeb i ymarfer CGA
Dyddiad y digwyddiad:
13 Mai (ar-lein)
|
Am y tro cyntaf, mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn rhannu ei gwybodaeth a’i gipolygon o fwy na 25 mlynedd o waith rheoleiddio, gan ddefnyddio’i brofiad o fwy na 5,000 o achosion. Nod y digwyddiad hwn yw cynorthwyo uwch arweinwyr, cyflogwyr, asiantaethau cyflenwi a llywodraethwyr i ennill cipolwg gwell i’w gwaith a sicrhau gwybodaeth a fydd yn helpu gyda rhyngweithiadau yn y dyfodol â CGA, ac atgyfeiriadau atynt. I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru am eich tocyn am ddim, ewch i wefan CGA.
Cysylltwch drwy e-bost (gwaithieuenctid@llyw.cymru) os ydych am gyfrannu at y cylchlythyr nesaf. Byddwn yn darparu canllaw arddull ar gyfer cyflwyno erthyglau i ni, gyda gwybodaeth am nifer geiriau erthyglau ar gyfer y gwahanol adrannau.
Cofiwch ddefnyddio #GwaithIeuenctidCymru #YouthWorkinWales wrth drydar i godi proffil Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.
Dilynwch @ieuenctidcymru ar X a Facebook i gadw i fyny gyda'r holl newyddion.
Ydych chi wedi Tanysgrifio i'r Bwletin Gwaith Ieuenctid? Cofrestrwch yn sydyn yma
|