Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

12 Rhagfyr 2023


Castle with snow on fields

Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth


CYNNWYS BWLETIN: Sioe Twristiaeth a Theithio Prydain: 20-21 Mawrth 2024 - NEC, Birmingham; Sioeau teithiol Croeso Cymru ar gyfer y diwydiant 2023 – y cynnwys bellach ar gael, a’r diweddaraf am TXGB!; Cyhoeddi’r adroddiad diweddaraf am Deithiau Dydd Domestig ac adroddiad diweddaraf yr Astudiaeth Dracio Ddomestig o Agweddau a Theimladau am Deithio; Cynhadledd Economaidd: pedair blaenoriaeth newydd ar gyfer Economi Cymru; COFIWCH - Hoffai Llywodraeth Cymru am glywed eich barn ar y flwyddyn ysgol; Hwyl fawr, diolch, pob lwc: Rob Holt OBE, Cyfarwyddwr Digwyddiadau Cymru, yn ymddeol; Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru); Rhaglen Sgiliau Hyblyg ar gyfer busnesau Twristiaeth a Lletygarwch; Dod yn un o Lysgenhadon Cymru; Pecyn Cymorth Busnes Llwybr Arfordir Cymru; Blwyddyn arall o safonau dŵr ymdrochi o ansawdd uchel i Gymru; Cynllun Strategol Economi Ymweld Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri 2035; Cyfleoedd i gydweithio gyda Ramblers Cymru; Gaeaf GWYLLT gyda'r Ymddiriedolaethau Natur!; COFIWCH - Awdurdodiad Teithio Electronig; Tirwedd Llechi Cymru – Arolwg Busnesau a Sefydliadau; Newyddion diweddaraf Busnes Cymru.


Sioe Twristiaeth a Theithio Prydain: 20-21 Mawrth 2024 - NEC, Birmingham

Mae Sioe Twristiaeth a Theithio Prydain (BTTS) yn gyfle gwych i hyrwyddo’ch busnes twristiaeth yn y prif ddigwyddiad domestig ar gyfer busnesau sy’n gweithio yn y Farchnad Deithio. Disgwylir i’r digwyddiad hwn, a fydd yn cael ei gynnal yn y NEC yn Birmingham, ddenu 3,000 o brynwyr o’r diwydiant teithio.

Mae Croeso Cymru wedi sicrhau lle ar gyfer hyd at 16 pod ac wedi llwyddo i gytuno ar gyfradd is gyda’r trefnwyr:

  • Cyfanswm y gost am un pod ar gyfer partneriaid: £1,600 + TAW
  • Opsiwn lle gall hyd at 2 bartner ar y mwyaf  rannu pod a’r costau: £800 + TAW (yr un)

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar Digwyddiadau masnach teithio | Drupal (llyw.cymru). Os oes gennych ddiddordeb mewn dod i’r digwyddiad, anfonwch e-bost at Lloyd Jones neu ffoniwch 01733 889684.


Sioeau teithiol Croeso Cymru ar gyfer y diwydiant 2023 – y cynnwys bellach ar gael, a’r diweddaraf am TXGB!

Diolch i bawb a ddaeth i’n cyfres ddiweddar o sioeau teithiol lle buom yn rhannu tipyn o wybodaeth, gan gynnwys ein prosiectau buddsoddi diweddaraf, ein cynlluniau marchnata a chanfyddiadau ymchwil. Cawsom gyfle hefyd i wrando ar  Gadeiryddion pob Fforwm Twristiaeth Rhanbarthol ac amryw o siaradwyr gwadd ysbrydoledig sy’n gysylltiedig â’r diwydiant.

Mae cael cyfle i ymwneud yn uniongyrchol â rhanddeiliaid yn y digwyddiadau wyneb yn wyneb hyn yn rhan allweddol o'n gwaith, ac rydym bob amser yn gwerthfawrogi’ch adborth.

Mae’r cyflwyniadau, y ffilmiau a gwybodaeth ddefnyddiol arall a rannwyd yn ystod y sioeau teithiol ar gael bellach, a gellir eu lawrlwytho yma: Sioeau Teithiol Croeso Cymru ar gyfer y Diwydiant – hydref 2023 | Drupal (llyw.cymru)

Hefyd, os gwnaethoch gofrestru i fynd i’r sesiwn am Gyfnewidfa Twristiaeth Prydain Fawr (TXGB) yn un o'r sioeau teithiol, byddwch yn cael e-bost cyn bo hir.

Os na lwyddoch chi i ddod ar y diwrnod, ac os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am TXGB a sut y gallai fod o fudd i'ch busnes, rydyn ni'n bwriadu cynnal sesiwn rithwir gyda'r tîm er mwyn ichi gael dysgu mwy am y Gyfnewidfa.

Rhowch wybod inni bod gennych ddiddordeb yn y sesiwn rithwir ac fe wnawn ni gysylltu â chi i roi rhagor o fanylion ichi. Yn y cyfamser, gallwch lawrlwytho’r cyflwyniad a gafodd ei ddangos yn ystod y sioeau teithiol.


Cyhoeddi’r adroddiad diweddaraf am Deithiau Dydd Domestig ac adroddiad diweddaraf yr Astudiaeth Dracio Ddomestig o Agweddau a Theimladau am Deithio

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer teithiau dydd domestig i Gymru rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2023 wedi cael eu cyhoeddi. Mae'r adroddiad hwn yn rhoi amcangyfrifon o faint a gwerth twristiaeth ddomestig i Gymru a Phrydain Fawr, yn ogystal â gwybodaeth am nodweddion y teithiau hynny, a thueddiadau o ran teithiau o’r fath yn 2022 a 2023. Mae’r adroddiad llawn i’w weld yma: Ystadegau twristiaeth ddomestig Prydain Fawr (teithiau undydd): Gorffennaf i Fedi 2023 | LLYW.CYMRU.

Mae adroddiad yr Astudiaeth Dracio Ddomestig o Agweddau a Theimladau am Deithio ar gyfer mis Tachwedd wedi’i gyhoeddi ar wefan VisitBritain. Mae VisitBritain hefyd wedi cyhoeddi adroddiad arall gan yr Astudiaeth Dracio Ddomestig o Agweddau a Theimladau am Deithio, sy'n canolbwyntio ar deithiau dros nos yn y DU yn ystod haf 2023. Mae adroddiad yr Astudiaeth Dracio Ddomestig o Agweddau a Theimladau am Deithio ar gyfer mis Tachwedd a 'How was summer 2023' ar gael ar wefan VisitBritain.


Cynhadledd Economaidd: pedair blaenoriaeth newydd ar gyfer Economi Cymru

Ar 30 Tachwedd, cynhaliwyd Cynhadledd Economi Llywodraeth Cymru, wnaeth ddwyn partneriaid cymdeithasol ynghyd er mwyn trafod sut i greu economi gryfach, decach a mwy gwyrdd i Gymru.

Yn y gynhadledd, eglurodd Gweinidog yr Economi Vaughan Gething y pedair blaenoriaeth newydd ar gyfer economi Cymru gan nodi “Wrth symud ymlaen, mae arnom angen uchelgais, gonestrwydd a sefydlogrwydd er mwyn canolbwyntio ar ein blaenoriaethau economaidd.

Mae amrywiaeth eang o fusnesau Cymru yn cefnogi’r blaenoriaethau ar gyfer economi wedi’i seilio ar uchelgais a gwerthoedd. Mae’r diwydiant twristiaeth yn rhan anferth o economi Cymru, a bu mynychwyr hefyd yn gwrando ar Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden, Bike Park Wales a Rock UK yn sôn am sut mae’r economi ymwelwyr yn siapio ein cymunedau lleol.

Darganfod mwy am y Blaenoriaethau ar gyfer economi gryfach.


COFIWCH - Hoffai Llywodraeth Cymru am glywed eich barn ar y flwyddyn ysgol

Hoffai Llywodraeth Cymru glywed eich barn am gynigion i ddiwygio dyddiadau’r tymhorau ysgol. Y bwriad yw creu tymhorau sy’n fwy cyfartal o ran eu hyd, a gwyliau sy’n cael eu rhannu mewn ffordd fwy cyson, ar gyfer ysgolion a gynhelir yng Nghymru. Ymhlith y cynigion y mae gwyliau hanner tymor yr hydref a fydd yn para pythefnos.

Lansiwyd yr ymgynghoriad ar 21 Tachwedd ac mae’n dod i ben ar 12 Chwefror 2024. Bydd hefyd yn ystyried newidiadau ychwanegol y gellid bwrw ymlaen â nhw yn y dyfodol, ond nid o 2025 ymlaen. Mae'r newidiadau hynny’n cynnwys yr opsiwn o symud ail wythnos o wyliau'r haf a'i hychwanegu at wyliau'r Sulgwyn.

Mae datganiad llawn Llywodraeth Cymru i’r wasg i’w weld yma: Llywodraeth Cymru am gael eich barn ar galendr yr ysgol | LLYW.CYMRU ac yn ein bwletin ar gyfer y diwydiant twristiaeth Bwletin Newyddion: Mae Llywodraeth Cymru am gael eich barn ar galendr yr ysgol (govdelivery.com).

Hoffem eich annog yn gryf i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.

Mae dolenni a rhagor o’r wybodaeth ddiweddaraf am ddiwygio'r flwyddyn ysgol i’w gweld yma: Diwygio’r flwyddyn ysgol | LLYW.CYMRU.


Rob standing at lectern on stage infront of screen with image of mountains and word Diolch

Hwyl fawr, diolch, pob lwc: Rob Holt OBE, Cyfarwyddwr Digwyddiadau Cymru, yn ymddeol

Fel y gŵyr llawer ohonoch, rydym wedi ffarwelio ag un o aelodau’n uwch-dîm yn ddiweddar, gan ddiolch yn ddiffuant iddo a dymuno pob lwc iddo.

Ymddeolodd Rob Holt OBE, Cyfarwyddwr Digwyddiadau Cymru, ar 31 Hydref ar ôl gyrfa hir a gwerth chweil mewn amrywiaeth eang o swyddi yn ystod y 38 o flynyddoedd a dreuliodd yn y gwasanaeth sifil. Chwaraeodd Rob ran annatod yn y gwaith o feithrin y cydweithio agos rhwng y llywodraeth a diwydiant yr economi ymwelwyr, a chredai’n gryf drwy gydol ei yrfa fod meithrin cysylltiadau a pherthnasoedd personol yn allweddol er mwyn cyrraedd y nod.

Hoffem achub ar y cyfle hwn i ddiolch unwaith eto i Rob am ei gyfraniad i'r llywodraeth ac i'r diwydiant ac i ddymuno'n dda iddo ar ei ymddeoliad.


Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru)

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru). Mae'r Bil yn rhan o'n gwaith i ddiwygio ardrethi annomestig (ardrethi busnes) a'r Dreth Gyngor.

Mae’r manylion i’w gweld yma: Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) | LLYW.CYMRU

Dilynwch hynt y Bil drwy'r camau craffu gan y Senedd. Os bydd yn cael ei basio, bydd yn dod yn gyfraith yn haf 2024.


Rhaglen Sgiliau Hyblyg ar gyfer busnesau Twristiaeth a Lletygarwch

Mae cyllid ar gael o hyd i helpu pobl sy’n gweithio mewn busnesau twristiaeth a lletygarwch yng Nghymru i fynd ar gyrsiau hyfforddi sy'n berthnasol i'r sector. Gall y cyrsiau hynny gynnwys hyfforddiant wyneb yn wyneb neu hyfforddiant ar-lein.  Rhaid cwblhau'r hyfforddiant erbyn diwedd mis Mawrth 2024.

Gwahoddir ceisiadau hefyd am gyfraniad ariannol i helpu busnesau i fynd i'r afael â’r heriau sy’n gysylltiedig â Sero Net.

I gael rhagor o wybodaeth am yr hyfforddiant y gellid cael cymorth ar ei gyfer o dan y ddwy raglen, ewch i: Rhaglen Sgiliau Hyblyg | Busnes Cymru Porth Sgiliau (llyw.cymru).


Dod yn un o Lysgenhadon Cymru

Mae Cynllun Llysgenhadon Cymru yn cynnig cyfres o gyrsiau ar-lein, yn rhad ac am ddim, a fydd yn eich cyflwyno i ardaloedd ac atyniadau gwahanol yng Nghymru. Mae'n ffordd wych o ddysgu mwy am nodweddion unigryw pob lle, ac mae’n eich helpu i ddysgu mwy am Gymru ac i rannu’ch gwybodaeth amdani er mwyn helpu eraill i fanteisio i’r eithaf ar eu hymweliad a gwella profiad yr ymwelwyr.

Cynigir cyfres o fodiwlau ar-lein ar amryfal themâu, gan gynnwys yr iaith Gymraeg, cymunedau, diwylliant, hanes, tirweddau, twristiaeth gynaliadwy, beicio a cherdded.

I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun ac am sut i fod yn un o Lysgenhadon Cymru, ewch i: Llysgenhadon Cymru – Cynllun Llysgenhadon Cymru.


Pecyn Cymorth Busnes Llwybr Arfordir Cymru

Adnodd ar-lein yw pecyn cymorth busnes Llwybr Arfordir Cymru, sydd ar gael yn rhad ac am ddim i bob busnes ar yr arfordir honno. Nod y pecyn yw cynnig amrywiaeth eang o ddeunyddiau a gwybodaeth am y llwybr. Mae ynddo syniadau ac awgrymiadau defnyddiol am sut i wneud y gorau o'r llwybr, ynghyd ٟâ ffeithiau a ffigurau diddorol y gall busnesau eu defnyddio ar gyfer eu hanghenion marchnata. Gall busnesau fynd ati’n rhad ac am ddim i lawrlwytho ffotograffau proffesiynol o arfordir Cymru a'r llwybr er mwyn helpu i hyrwyddo’u busnesau.

Mae’r pecynnau cymorth busnes i’w gweld yma: Llwybr Arfordir Cymru / Pecyn cymorth busnes. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â wcp@cyfothnaturiolcymru.gov.uk


Blwyddyn arall o safonau dŵr ymdrochi o ansawdd uchel i Gymru

Llwyddodd Cymru i sicrhau canlyniadau o ansawdd uchel unwaith eto yn 2023 gyda 98% o'r dyfroedd ymdrochi dynodedig yn cyrraedd ein safonau amgylcheddol llym.

Cyrhaeddodd 80 o'n 109 o ddyfroedd ymdrochi y dosbarthiad uchaf o 'ardderchog'.

Dosbarthiad 'rhagorol' yw un o'r meini prawf hanfodol ar gyfer cael achrediad y Faner Las, un o eco-labeli gwirfoddol mwyaf cydnabyddedig y byd.

Darllenwch y datganiad i'r wasg yn llawn ar Blwyddyn arall o safonau dŵr ymdrochi o ansawdd uchel i Gymru | LLYW.CYMRU.


Cynllun Strategol Economi Ymweld Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri 2035

Mae Cyngor Gwynedd ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi datblygu Cynllun Strategol Economi Ymweld Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri 2035. Y weledigaeth  yn y Cynllun yw creu economi ymwelwyr er budd a lles pobl, amgylchedd, iaith a diwylliant Gwynedd ac Eryri.

Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun i’w gweld yma: Economi Ymweld Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri 2035 a gallwch wylio recordiad o’r digwyddiad lansio – a gynhaliwyd yn yr hydref – yma: Economi Ymweld Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri 2035: digwyddiad lansio.


Cyfleoedd i gydweithio gyda Ramblers Cymru

Mae gweithio mewn partneriaeth i sicrhau bod cerdded yn cael lle canolog yn ein cymunedau yn rhan hanfodol o waith Ramblers Cymru yma yng Nghymru.

Os ydych am gael eich ysbrydoli, beth am wylio’u ffilm Llwybrau a Phartneriaethau i weld sut mae cydweithio wedi helpu i wella llwybrau cerdded yng Nghymru drwy wella’r llwybrau eu hunain, drwy wella mynediad atynt a chynhwysiant? Os oes gennych unrhyw syniadau am gyfleoedd i feithrin partneriaethau, byddai Ramblers Cymru yn hynod falch o glywed oddi wrthych: RamblersCymru@ramblers.org.uk.


Gaeaf GWYLLT gyda'r Ymddiriedolaethau Natur!

Beth am gymryd rhan yn her natur 12 Diwrnod Gwyllt dros yr Ŵyl? Mae'r Ymddiriedolaethau Natur yn annog pawb i wneud un peth gwyllt y dydd rhwng 25 Rhagfyr a 5 Ionawr. O ddilyn llwybr cerdded gaeafol, edrych ar y bywyd gwyllt gwych sydd gennym yma yng Nghymru, ymdawelu wrth syllu ar y sêr, i ailgylchu coeden Nadolig neu fwydo'r adar yn eich gardd, mae 12 Diwrnod Gwyllt yn gyfle gwych i ddod i gysylltiad â natur.

Beth am gymryd rhan a helpu i annog eraill i wneud hynny? Gasllwch gael rhagor o wybodaeth a chofrestru yma: 12 Days Wild - Wildlife Trusts | The Wildlife Trust of South and West Wales (welshwildlife.org).


COFIWCH - Awdurdodiad Teithio Electronig

Mae Awdurdodiad Teithio Electronig (ETA) yn ofyniad newydd i bobl nad oes angen fisa arnynt er mwyn dod i'r Deyrnas Unedig (DU). Mae'n rhoi caniatâd ichi deithio i'r DU, ac mae'n cael ei gysylltu'n electronig â'ch pasbort.

Mae digwyddiadau wedi’u teilwra yn cael eu cynnal a fydd yn rhoi golwg gyffredinol ar yr ETA, ac yn rhoi pwyslais ar bynciau penodol sy’n unigryw i sefydliadau rhanbarthol ac i bobl sy’n teithio.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Awdurdodiad Teithio Electronig | Busnes Cymru (llyw.cymru)


Tirwedd Llechi Cymru – Arolwg Busnesau a Sefydliadau

Mae Llechi Cymru am glywed oddi wrth fusnesau a dysgu am yr effaith y mae dynodiad Safle Treftadaeth y Byd yn ei chael. Mae’n awyddus i glywed eich barn am gyfleoedd, gweithgareddau a phrosiectau yn y dyfodol. Cofiwch fynd ati i ddweud eich dweud drwy lenwi’r arolwg: Arolwg Busnesau a STyB.



 

Wrth inni droi’n golygon at y flwyddyn nesaf, hoffem ddymuno Nadolig hapus iawn i bawb a fydd yn dathlu – Nadolig Llawen – a dymuniadau gorau ar gyfer 2024.



Newyddion diweddaraf Busnes Cymru

Cofiwch wneud yn siŵr eich bod yn cael y newyddion a’r blogiau diweddaraf oddi wrth Busnes Cymru – ewch i: Newyddion a Blogiau | Busnes Cymru. Dyma rai o’r erthyglau diweddaraf:

Tanysgrifiwch i gael newyddlen Busnes Cymru ar Llywodraeth Cymru (govdelivery.com) – ar ôl ichi gofrestru, gallwch fewngofnodi a rheoli eich holl danysgrifiadau gyda Llywodraeth Cymru mewn un man.


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyrau a bwletinau a gyhoeddwyd yn flaenorol i’r diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).


Ar gyfer cymorth a chyngor penodol i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio, cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000.  Dylech ddarllen gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram