Bwletin Newyddion: Mae Llywodraeth Cymru am gael eich barn ar galendr yr ysgol

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

22 Tachwedd 2023


children infront of climbing wall

Mae Llywodraeth Cymru am gael eich barn ar galendr yr ysgol

Agorodd ymgynghoriad (21 Tachwedd) ar newid calendr yr ysgol, fel bod gwyliau'n cael eu rhannu'n fwy cyson, gan gynnwys pythefnos o wyliau hanner tymor yn yr hydref.

Mae calendr presennol yr ysgol yn golygu bod tymor yr hydref yn hirach na'r lleill. O dan y cynnig newydd, byddai wythnos yn cael ei chymryd o ddechrau gwyliau'r haf a'i hychwanegu at wyliau mis Hydref, fel bod staff a dysgwyr yn cael mwy o amser i orffwys yn ystod tymor hir yr hydref. Byddai'r newidiadau hyn yn cael eu gwneud o fis Medi 2025 ymlaen, sy'n golygu y byddai ysgolion yn cael pythefnos o wyliau ym mis Hydref 2025 a gwyliau haf pum wythnos yn 2026.

Bydd yr ymgynghoriad hefyd yn archwilio newidiadau ychwanegol y gellid eu datblygu yn y dyfodol, ond nid yn 2025. Mae'r newidiadau hyn yn cynnwys yr opsiwn o symud ail wythnos o wyliau'r haf a'i hychwanegu at wyliau'r Sulgwyn. (Gweler Datganiad llawn Llywodraeth Cymru i’r wasg yma: Mae Llywodraeth Cymru am gael eich barn ar galendr yr ysgol | LLYW.CYMRU ).  

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â'r gweithwyr a chyflogwyr o sectorau ar wahân i’r sector addysg. Prif amcanion diwygio'r flwyddyn ysgol yw mynd i'r afael ag anfantais, anghydraddoldebau addysgol cul, cefnogi lles dysgwyr a staff a gwneud i’r calendr ysgol gyd-fynd yn well â bywyd cyfoes. Mae'n bwysig cydnabod mai diwygiad i addysg yw hwn. Mae hefyd yn bwysig bod yr effeithiau, y cyfleoedd, a’r manteision ehangach allai ddeillio o unrhyw newidiadau yn cael eu deall a’u rhannu.

Er mai polisi addysgol yw strwythur y flwyddyn ysgol, rydym yn cydnabod y gallai unrhyw newidiadau i strwythur y flwyddyn ysgol effeithio ar sectorau ehangach.

Gyda hyn mewn golwg, hoffem eich annog i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.

Gellir dod o hyd i ddiweddariadau ychwanegol ynghylch diwygio'r flwyddyn ysgol a dolenni i'r cyhoeddiadau a grybwyllir uchod ar y dudalen we: Diwygio’r flwyddyn ysgol | LLYW.CYMRU.


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyrau a bwletinau a gyhoeddwyd yn flaenorol i’r diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).


Ar gyfer cymorth a chyngor penodol i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio, cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000.  Dylech ddarllen gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram