Mae’n anodd credu i newyddlen gyntaf Rhwydwaith Gwledig Cymru gael ei chyhoeddi ym mis Ionawr 2016 – ac rydyn ni wedi bod yn anfon newyddion, diweddariadau, gwybodaeth am gyfnodau ymgeisio cynlluniau, astudiaethau achos a gwybodaeth am gyfleodd Datblygu Gwledig Ewrop am dros saith mlynedd a hanner!
Yn ystod y cyfnod hwn rydym wedi gweld llawer o newidiadau a thoreth o brosiectau a ariennir sydd wedi bod o fudd i ardaloedd gwledig Cymru trwy brosiectau bach a mawr.
Yn rhan o’r cyllid hwn mae dros £47 miliwn wedi cael ei ddyrannu i brosiectau LEADER drwy’r 18 Grŵp Gweithredu Lleol ledled Cymru.
|