Rhwydwaith Gwledig Cymru, Ionawr 2016

Ionawr 21, 2016

 
 

Beth sy’n digwydd yng Nghymru?

web

Gwefan Rhwydwaith Gwledig Cymru

Mae tudalennau gwe newydd Rhwydwaith Gwledig Cymru wedi eu cyhoeddi ac yn llawn gwybodaeth ddefnyddiol am ddatblygu gwledig.

comm

Cronfa Datblygu Cymunedau Gwledig

Cronfa Datblygu Cymunedau Gwledig – Cyfnod ymgeisio yn cau 31 Ionawr 2016. Bydd y grantiau’n darparu cyllid buddsoddi ar gyfer amrywiaeth eang o weithgareddau er mwyn lleihau effaith tlodi mewn cymunedau gwledig.

fc

Ymgeisio am gymorth ariannol ar gyfer cyrsiau hyfforddiant wedi’u cymeradwyo gan Cyswllt Ffermio - cyfnod ymgeisio cyntaf 2016 ar agor nawr

Mae’r cyntaf o dri chyfnod ymgeisio sydd ar gael ym Mlwyddyn 1 wedi agor. 

bwcabus

Bwcabus… Patrwm o drafnidiaeth i gefn gwlad Cymru

Mae Bwcabus yn wasanaeth bws lleol ar alw sy’n gwbl hwylus ac mae’r gwasanaeth wedi’i deilwra’n bwrpasol ar gyfer anghenion teithwyr yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.

mentor

Mae Cyswllt Ffermio yn chwilio am ffermwyr a choedwigwyr i fod yn fentoriaid

Ai dyma eich cyfle i rannu gwersi a phrofiadau bywyd gwerthfawr gydag eraill a rhoi cyfraniad yn ôl i ddiwydiant amaeth Cymru? 

coop

Cynllun Cydweithredu a Datblygu’r Gadwyn Gyflenwi

Daeth y cyfnod ymgeisio cyntaf ar gyfer y Cynllun Cydweithredu a Datblygu’r Gadwyn Gyflenwi i ben ar 14 Hydref 2015. Mae naw ar hugain o brosiectau a gyflwynodd Ddatganiad o Ddiddordeb wedi eu dewis i gyflwyno cais llawn.

mentro

Mentro - menter newydd yn paru tirfeddianwyr gydag unigolion cymwys sy’n chwilio am ffordd i mewn i ffermio

Ydych chi eisiau mentro i redeg eich busnes ffermio neu goedwigaeth eich hun yn y dyfodol? Neu efallai am arafu neu gamu’n ôl o’r diwydiant? Beth am ystyried menter ar y cyd? 

=============

Beth sy’n digwydd yn y DU?

sos

Village SOS

Beth yw Village SOS? 

(Saesneg yn unig)

 

=============

Beth sy’n digwydd yn Ewrop?

ec

Gwybodaeth ddiweddaraf ar Fand Eang gan Agenda Digidol Ewrop

Rhestr o brosiectau band eang ac arfer da gan Broadband Europe.

(Saesneg yn unig)

enrd

Cylchlythyr Ionawr ENRD

Mae cylchlythyr Rhwydwaith Datblygu Gwledig Ewrop (ENRD) yn cynnwys newyddion am yr economi gylchol, amaeth a newid hinsawdd.

(Saesneg yn unig)

 

 
 
 

Amdanom ni

Mae Newyddion Rhwydwaith Gwledig Cymru yn cynnig crynodeb o newyddion, gwybodaeth a chyfleoedd rhwydweithio sy’n gysylltiedig â Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020. Mae’n ffordd hwylus i rannu gwybodaeth ac enghreifftiau o arferion da yng Nghymru, y DU ac Ewrop. Os hoffech chi gyfrannu unrhyw beth sy’n berthnasol i ddatblygu gwledig yng Nghymru, cysylltwch â Rhwydwaithgwledig@cymru.gsi.gov.uk

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru

Dilyn ar-lein: