Rhifyn 59, Awst 2023

Awst 2023

English

 
 
 
 
 
 
St David award

Gwobrau Dewi Sant 2024

Mae angen eich help arnom ni i ddod o hyd i enillwyr nesaf Gwobrau Dewi Sant, sef gwobrau cenedlaethol Cymru. Dyma’ch cyfle i gydnabod y bobl rhagorol sy’n gwneud Cymru’n wych! Mae enwebiadau ar gyfer y Gwobrau yn cynnwys categori ar gyfer Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, a’r dyddiad cau yw 19 Hydref. 

 

Er mwyn enwebu rhywun, cliciwch yma

Diagnosau gwell o ganser y prostad

Mae Canolfan Ragoriaeth y Fenter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI) wedi defnyddio cyllid gan Lywodraeth Cymru er mwyn helpu i ddatblygu technoleg Deallusrwydd Artiffisial (AI). Mae’r gwaith ar y cyd rhwng GIG Cymru, Ibex a Byrddau Iechyd Prifysgolion wedi arwain at ddiagnosau mwy cywir ac effeithiol o ganser y prostad.

Rhagor o wybodaeth yma

SBRI Ipad and science background

Cronfa Datblygu Cyfryngau Cymru

Mae’r Gronfa yn cynnig hyd at £50,000 i unigolion a busnesau yng Nghymru ymchwilio a datblygu prosiectau arloesol sy’n dangos potensial clir ar gyfer cynnyrch, profiad neu wasanaeth diriaethol yn sector y cyfryngau. 

Darganfod mwy

 

advances in Welsh

Cyllid a Chymorth Arloesi.

Digwyddiad ar-lein, 19 Medi 14:00-15:20

Er mwyn clywed am y cyfleoedd cyllido a chymorth diweddaraf ar gyfer arloesi, cyllid ymchwil a datblygu, yn ogystal â sut i wneud y prosiectau hyn yn fwy effeithiol, cofrestrwch ar gyfer ein sesiynau ar-lein yma

Gwobr Datgloi Potensial

Nod gwobrau Innovate UK yw datblygu system arloesi hygyrch sy’n cynrychioli cymdeithas y DU yn well. Maent wedi eu cynllunio i wneud defnydd o bŵer amrywiaeth, gan ddatblygu a darparu’r talentau a’r sgiliau sydd eu hangen ar y DU ar yr un pryd. Mae dwy lefel o gymorth ar gael ar gyfer gwahanol gamau taith fusnes:

  • Dechrau: hyd at £15,000 o gymorth
  • Adeiladu: hyd at £50,000 o gymorth

 

Darganfod mwy

Gwobrau UK Technology Fast 50 2023

Mae’r gwobrau hyn yn tynnu sylw at y 50 cwmni technoleg sydd yn tyfu gyflymaf yn y DU. Mae enwebiadau yn cau am hanner nos ar 1 Medi 2023. Rhagor o wybodaeth yma

 
 

AMDANOM NI

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu mwy o swyddi a swydd gwell trwy economi gryfach a thecach.  Byddwn yn gwella ac yn diwygio’n gwasanaethau cyhoeddus ac yn cael gwared ar anghysondeb yn y ddarpariaeth.  Trwy weithio gyda’n gilydd dros Gymru, byddwn yn creu cyfle i bawb ac yn adeiladu gwlad unedig, cysylltiedig a chynaliadwy. 

Rhagor o wybodaeth ar y we:

gov.wales

Dilyn ar-lein: