Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
Darganfod Cymru 2023; Adolygiad Cynnyrch a Sgiliau Digwyddiadau Busnes Cymru - helpwch ni i lunio dyfodol digwyddiadau busnes; Gweminar Cyfnewidfa Twristiaeth Prydain Fawr (TXGB) – Trafodaeth a chwestiynau; Cyhoeddi’r Baromedr Twristiaeth Diweddaraf (Mai 2023); Y Dirprwy Weinidog yn croesawu’r Queen Victoria ar ei hymweliad cyntaf â Chaergybi; Datganiad Ysgrifenedig: Y newyddion diweddaraf am drethiant lleol; Bydd 'hwb' gwerth £15 miliwn yn cynyddu nifer y pwyntiau gwefru cerbydau trydan yng Nghymru; Uwch Bencampwriaeth Agored 2023 yng Nghlwb Golff Brenhinol Porthcawl: 27–30 Gorffennaf; Diwrnod Ail-lenwi’r Byd 16 Mehefin; Gweminar: Gweithredu ar Wastraff Platiau; Gwasanaeth Cyflymu Cymru i Fusnesau wedi dod i ben ar 31 Mai 2023; Cynllun newydd i gefnogi lles staff mewn busnesau bach; Gwerth Twristiaeth - Arolwg STEAM Conwy 2022; Newyddlen Llwybr Arfordir Cymru ar gael nawr; Nodyn atgoffa: Cynllun Awdurdodi Teithio Electronig; Newyddion diweddaraf Busnes Cymru.
Darganfod Cymru 2023
Mae Croeso Cymru, mewn partneriaeth ag aelodau UKinbound, De Cymru, Croeso Caerdydd a ‘The Royal Mint’ yn falch o gyhoeddi Darganfod Cymru 2023, a fydd yn digwydd ar 9-10 Hydref 2023.
Bydd yn gyfle i drefnwyr teithiau UKinbound ymweld â De Cymru a phrofi cynnyrch rhyngwladol sy’n gyfeillgar i’r Fasnach Deithio. Bydd y digwyddiad yn cynnwys cyfle rhwydweithio gyda’r nos a gweithdy hanner diwrnod yng Nghaerdydd i gwrdd â’r 30 o brynwyr sy’n canolbwyntio ar y farchnad ryngwladol. Mae busnesau o Gymru sydd wedi gweithio gyda’r Fasnach Deithio ryngwladol/wedi mynychu digwyddiadau yn y Fasnach Deithio ryngwladol gyda Croeso Cymru yn y gorffennol yn cael eu gwahodd i gymryd rhan.
Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth drwy’r ddolen hon a’r dyddiad cau ar gyfer ‘mynegi diddordeb’ i gymryd rhan yw 30 Mehefin 2023, neu’n gynt os yw’r holl leoedd cyfyngedig yn cael eu gwerthu.
Adolygiad Cynnyrch a Sgiliau Digwyddiadau Busnes Cymru - helpwch ni i lunio dyfodol digwyddiadau busnes
Mae Meet In Wales yn gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo Cymru fel cyrchfan digwyddiadau busnes yn cynnal adolygiad llawn o'r cynnig cyfredol o Ddigwyddiadau Busnes yng Nghymru, er mwyn deall ymhellach yr hyfforddiant sgiliau, cymorth gwerthiant marchnata a'r gwasanaethau eiriolaeth a fydd yn galluogi partneriaid i fanteisio ar y sector digwyddiadau busnes yng Nghymru
Mae busnesau perthnasol yn cael ei wahodd i gymryd rhan yn ein harolwg adolygu gan y bydd eich mewnbwn yn ein helpu i ddeall mwy am eich busnes, eich adnoddau sydd ar gael a'ch lefelau ymgysylltu mewn gweithgareddau digwyddiadau busnes.
Mae'r arolwg yn ymwneud â dod i adnabod cymaint o'r busnesau hyn â phosibl, darganfod beth maent yn ei wneud, ble mae'r cryfderau, gwendidau a'r cyfleoedd, a gweld sut y gallwn ddod â'n gwybodaeth ar y cyd at ei gilydd i arddangos y gorau o Gymru.
Rydym yn annog ein cymuned digwyddiadau busnes i helpu i lunio'r naratif digwyddiadau busnes yng Nghymru.
I gwblhau'r arolwg ewch i Meet In Wales: Adolygiad Cyrchfan 2023 Survey (surveymonkey.co.uk)
Am fwy o wybodaeth, ewch i Meet In Wales Adolygiad Cyrchfan 2023 | Busnes Cymru
Gweminar Cyfnewidfa Twristiaeth Prydain Fawr (TXGB) – Trafodaeth a chwestiynau
Cynhaliwyd sesiwn fanwl gyda James Berzins o TXGB ym mis Mai, i drafod y cyfleoedd i gyrchfannau ac awdurdodau lleol. Mae'r recordiad o'r sesiwn ar gael nawr.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar: TXGB | Tourism Exchange GB | Booking Channel Management (Saesneg yn unig).
Cyhoeddi’r Baromedr Twristiaeth Diweddaraf (Mai 2023)
Mae’r Baromedr Twristiaeth diweddaraf wedi ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn cynnwys gwybodaeth a gafwyd o 902 o alwadau ffôn a gynhaliwyd gyda busnesau twristiaeth ledled Cymru rhwng 9 a 17 Mai 2023.
Mae’r adroddiad yn dangos ei bod wedi bod yn ddechrau tawel i’r flwyddyn, gyda dim ond 18% o fusnesau yn adrodd eu bod wedi cael mwy o gwsmeriaid hyd yma eleni nac yn ystod yr un cyfnod y llynedd. Mae lefelau isel yn golygu bod busnesau yn llai hyderus am y misoedd nesaf. O ran darparwyr llety, dim ond un o bob pump (20%) sydd yn disgwyl cael mwy o ymwelwyr o Gymru yn 2023 o’i gymharu â 2022, ond mae tua un rhan o dair ohonynt (34%) yn disgwyl llai o ymwelwyr o Gymru. Ochr yn ochr â hyn nododd tua hanner (49%) yr holl fusnesau yn ddigymell bod ‘costau ynni uchel’ yn bryder eleni, a dywedodd 28% bod ‘costau gweithredu eraill uchel’ yn eu pryderu hefyd.
Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys canfyddiadau ar werthu a hyrwyddo Bwyd a Diod Cymru, ac yn edrych ar lety, materion hygyrchedd, a phryderon eraill y mae’r diwydiant yn eu hwynebu.
Y Dirprwy Weinidog yn croesawu’r Queen Victoria ar ei hymweliad cyntaf â Chaergybi
Galwodd y llong Cunard, y Queen Victoria, ym mhorthladd Caergybi ar 4 Mehefin, ei hymweliad cyntaf â Chymru. Yn ystod ei hymweliad cyntaf â phorthladd Caergybi, bydd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden, yn croesawu criw a theithwyr y Queen Victoria i Gymru ac yn cael gweld â’i llygaid ei hunan sut mae’r llong yn gweithio. Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.
Datganiad Ysgrifenedig: Y newyddion diweddaraf am drethiant lleol
Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, 7 Mehefin:
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn gyfrifol am lunio a chynnal rhestrau'r dreth gyngor ac ardrethi i Gymru. Yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael, mae'r VOA yn penderfynu a yw eiddo yn cael ei ystyried yn eiddo domestig ac yn atebol am y dreth gyngor, neu'n eiddo annomestig ac yn atebol am ardrethi annomestig. Mae'r broses ar gyfer rhestru eiddo yn cael ei hategu gan ddeddfwriaeth a chanllawiau helaeth. Mae VOA yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru. Mae'r enghreifftiau hyn yn cynnwys lojiau, carafannau, neu gabanau gwyliau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi deddfu i gynyddu'r uchafswm premiwm y gall yr awdurdodau lleol ei godi i 300% o 1 Ebrill 2023. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu canllawiau i’r awdurdodau lleol ar weithredu premiymau'r dreth gyngor ar gartrefi gwag hirdymor ac ail gartrefi.
Darllenwch y datganiad ysgrifenedig yn llawn ar Llyw.Cymru.
Bydd 'hwb' gwerth £15 miliwn yn cynyddu nifer y pwyntiau gwefru cerbydau trydan yng Nghymru
Bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £15 miliwn i gynyddu nifer y pwyntiau gwefru cerbydau trydan ledled Cymru. Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.
Uwch Bencampwriaeth Agored 2023 yng Nghlwb Golff Brenhinol Porthcawl: 27–30 Gorffennaf
Gall cefnogwyr chwaraeon weld rhai o enwau mwyaf y byd golff yn un o gyrsiau pennaf Ewrop wrth i "Bencampwriaeth Agored Golffwyr Hŷn” ddychwelyd i Glwb Golff Brenhinol Porthcawl am y tro cyntaf mewn chwe blynedd o 27–30 Gorffennaf eleni.
Cyn y prif ddigwyddiad, bydd chwaraewyr o bob cwr o'r byd yn ceisio cymhwyso yn rhai o gyrsiau blaenllaw eraill Cymru - Y Pîl a Chynffig, Southerndown a Machynys - er mwyn ymuno â rhai o enwau mwyaf y byd golff. Mae'r rhain yn cynnwys pobl fel Bernhard Langer, a fydd yn gobeithio ailadrodd ei fuddugoliaethau yn 2014 a 2017, Darren Clark, a fydd yn ceisio amddiffyn ei Brif Bencampwriaeth Hŷn gyntaf pan fydd yn rhoi’r bêl ar y ti ym Mhorthcawl, a chwaraewyr blaenllaw o Gymru megis Ian Woosnam (sydd wedi ennill 52 gwobr broffesiynol yn ystod ei yrfa lwyddiannus), Bradley Dredge, Phil Price a Stephen Dodd a enillodd y teitl yn Sunningdale yn 2021.
Dysgwch ragor ar Bencampwriaeth Agored Golffwyr Hŷn 2023 yng Nghlwb Golff Brenhinol Porthcawl | Croeso Cymru a chymryd rhan yn y cyffro; cewch yr wybodaeth ddiweddaraf am baratoadau a rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddilyn @CroesoCymruBus, @Royal_Porthcawl a @TheOpen.
Diwrnod Ail-lenwi’r Byd 16 Mehefin
Mae heddiw yn Ddiwrnod Ail-lenwi’r Byd, diwrnod o weithredu byd-eang er mwyn atal llygredd plastig a helpu pobl i fyw gyda llai o wastraff. Cymerwch ran @RefillWales #DiwrnodAil-lenwiyByd.
Cofrestrwch eich busnes i fod yn orsaf ail-lenwi yma Ail-lenwi Cymru | Ail-lenwi | Cenedl Ail-lenwi gan Lywodraeth Cymru .
Mae rhagor o wybodaeth am Ddiwrnod Ail-lenwi’r Byd a sut i gofrestru ar gyfer Cynhadledd Ail-lenwi Byd-eang gyntaf y byd – digwyddiad digidol am ddim ar gyfer pobl sy’n achosi newid, arweinwyr busnes, y rhai sy’n creu polisïau ac arloeswyr er mwyn dysgu, rhannu, a chael eu hysbrydoli – ar gael yma: Diwrnod Ail-lenwi y Byd – Ail-lenwi – Ymunwch â’r Chwyldro Ail-lenwi
Gweminar: Gweithredu ar Wastraff Platiau
Mae ymchwil WRAP yn dangos bod 1.1 miliwn o dunelli o fwyd yn cael ei wastraffu o’r sector Lletygarwch a Gwasanaethau Bwyd bob blwyddyn; ac, ar gyfartaledd, mae 18% o’r bwyd sy’n cael ei brynu yn cael ei waredu, sy’n costio’r sector £3.2 biliwn.
Cynhelir y weminar am ddim ar 22 Mehefin 2023. Am ragor o fanylion, ewch i Gweminar: Gweithredu ar Wastraff Platiau | Busnes Cymru
Gwasanaeth Cyflymu Cymru i Fusnesau wedi dod i ben ar 31 Mai 2023
Daeth gwasanaeth Cyflymu Cymru i Fusnesau, sydd wedi bod yn rhedeg ers Ionawr 2016, i ben ar 31 Mai 2023. Mae canllawiau ymarferol, awgrymiadau arbenigol i gael y gorau o dechnoleg ddigidol a Phecyn Cymorth Digidol ar gael o hyd ar: Cronfa wybodaeth - Cyflymu Cymru i Fusnesau
Mae Busnes Cymru yn parhau i ddarparu cymorth ar ffurf gwybodaeth, cyngor ac arweiniad, gan gynnwys help i fusnesau wella’r defnydd o dechnoleg neu fabwysiadu atebion digidol newydd, ewch i: Yn cefnogi busnesau Cymru | Busnes Cymru
Cynllun newydd i gefnogi lles staff mewn busnesau bach
Ar 1 Mehefin, lansiodd Llywodraeth Cymru gynllun newydd i alluogi busnesau bach a chanolig, neu 'BBaChau', gael mynediad at gymorth iechyd a lles. Mae Gweinidogion yn darparu £8 miliwn i ddarparu'r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith newydd ledled Cymru dros y ddwy flynedd nesaf.
Bydd y gwasanaeth yn darparu mynediad yn rhad ac am ddim at gymorth therapiwtig i weithwyr BBaChau neu'r hunangyflogedig. Bydd cymorth ar gael i bobl sy'n absennol o’r gwaith, neu sydd mewn perygl o fod yn absennol, oherwydd salwch meddyliol neu gorfforol, gan eu helpu i aros yn y gwaith neu i ddychwelyd. Bydd y cynllun hefyd ar gael i gyflogwyr yn y trydydd sector.
Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.
Gwerth Twristiaeth - Arolwg STEAM Conwy 2022
Mae gofyn i fusnesau llety ac atyniadau gwblhau Arolwg STEAM Conwy 2022. Nod yr arolwg yw cael darlun cywir a chyflawn o’r nifer o ymwelwyr a gwerth twristiaeth yng Nghonwy yn 2022. Bydd y canlyniadau o gymorth gyda phenderfynu faint o gyllid bydd Conwy’n ei dderbyn tuag at gostau gwasanaethau cyhoeddus.
Mae’r ffurflenni ar gael yma: Arolwg Deiliadaeth STEAM 2021 - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Dylid dychwelyd ffurflenni sydd wedi’u cwblhau at Kim.nicholls57@outlook.com. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r ffurflenni yw dydd Gwener, 30 Mehefin 2023.
Newyddlen Llwybr Arfordir Cymru ar gael nawr
I ddarllen newyddlen ddiweddaraf Llwybr Arfordir Cymru ewch i: Llwybr Arfordir Cymru: Mis Mai 2023
Gallwch danysgrifio i gael newyddlen Llwybr Arfordir Cymru yma: Cyfoeth Naturiol Cymru (o dan prosiect, dewiswch "Llwybr Arfordir Cymru ")
Gallwch ddilyn Llwybr Arfordir ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd: Llwybr Arfordir Cymru | Facebook a @Llwybr Arfordir Cymru
Cofiwch gymryd cip hefyd ar lwybrau epig eraill Cymru: "Llwybrau". Gall busnesau yng Nghymru ddarganfod mwy am flwyddyn thematig ddiweddaraf Cymru yma: 2023: Llwybrau | Busnes Cymru (llyw.cymru)
Nodyn atgoffa: Cynllun Awdurdodi Teithio Electronig
Awdurdodiad Teithio Electronig Trwydded i gael mynediad i Brydain yw’r Awdurdodiad Teithio Electronig a fydd ar gael yn fuan ar-lein. Bydd yn galluogi teithwyr o wledydd cymwys i ymweld â Phrydain Fawr am nifer o wahanol resymau heb gael visa. Bydd Awdurdodiad Teithio Electronig yn costio £10 yr un.
Bydd cyflwyno’r cynllun yn cael ei gyfuno ag ymgyrch gyfathrebu a marchnata, sy’n cael ei datblygu i godi ymwybyddiaeth ac annog gweithredu. Mae digwyddiadau codi ymwybyddiaeth yn cael eu cynnal i roi trosolwg o’r cynllun Awdurdodi Teithio Electronig a’r cyfle i ofyn cwestiynau:
Mae canllawiau a gwybodaeth am y cynllun ar gael yn Gov.UK (www.gov.uk) ac mae pecyn cyfathrebu ar gael i helpu gyda’r gwaith o ymgysylltu â rhanddeiliaid a pharatoi ymwelwyr.
Newyddion diweddaraf Busnes Cymru
Sicrhewch eich bod yn cael y newyddion a’r blogiau diweddaraf gan Busnes Cymru – ewch i: Newyddion a Blogiau | Busnes Cymru. Mae rhai o’r erthyglau diweddaraf yn cynnwys:
Tanysgrifiwch ar gyfer newyddlen Busnes Cymru ar Llywodraeth Cymru – ar ôl cofrestru, gallwch fewngofnodi a rheoli eich holl danysgrifiadau gyda Llywodraeth Cymru.
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).
Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19).
Ar gyfer cymorth a chyngor penodol i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio, cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000. Dylech ddarllen gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|