We only use cookies that are necessary for this site to function to provide you with the best experience. The controller of this site may choose to place supplementary cookies to support additional functionality such as support analytics, and has an obligation to disclose these cookies. Learn more in our Cookie Statement.
Llwybr Arfordir Cymru: Mis Mai 2023
Natural Resources Wales sent this bulletin at 26-05-2023 12:34 PM BST
Nwyddau Cynaliadwy
Mae ein holl nwyddau yn eco-gyfeillgar ac wedi’u cynhyrchu mewn ffordd foesegol.
O ddillad wedi’u gwneud o gotwm organig ardystiedig (sy’n gallu cael eu golchi ar dymheredd isel) i ddeunyddiau wedi’u hailgylchu - rydych chi’n gwneud eich rhan i leihau’r effaith ar yr amgylchedd
Bob tro y byddwch chi’n prynu rhywbeth, mae rhan o’r elw’n mynd tuag at ddatblygu’r llwybr fel y gallwn ei fwynhau am genedlaethau i ddod.
Chwiliwch drwy ein siop i weld y casgliad llawn o nwyddau, o grysau-t i ategolion cerdded i hetiau (yn barod ar gyfer yr haf!)
Mae’r rhan boblogaidd hon o Lwybr Arfordir Cymru yn dathlu ei phen-blwydd yn 15 oed eleni.Mae’n ymestyn am 60 milltir/96 km o Ynyslas, sydd i’r gogledd o dref brifysgol Aberystwyth, hyd at Aberteifi ym mhen deheuol sir Ceredigion.
Ymunwch yn y dathlu drwy gerdded y rhan anhygoel hon o’r llwybr.
(O.N. os oeddech chi’n meddwl tybed ble cafodd y llun yma ei dynnu, mae rhwng Cei Newydd a Chwmtydu yng Ngheredigion!)
Rhag ofn i chi ei fethu...
Ydych chi’n fusnes ar y llwybr neu’n agos ato? Cymerwch olwg ar gylchlythyr y Gwanwyn i fusnesau ar hyd Llwybr Arfordir Cymru a’r Llwybrau Cenedlaethol yng Nghymru. Dyma’r 3 prif eitem:
Cael gafael ar ddelweddau proffesiynol am ddim
Defnyddio’r trên i fynd at y llwybr (ymgyrch ddiweddaraf Trafnidiaeth Cymru)
Mae hi’n Fis Cerdded Cenedlaethol ym mis Mai - teithiau cerdded i’ch cwsmeriaid drwy gydol y flwyddyn
Oes gennych chi ddigwyddiad ar Lwybr Arfordir Cymru neu gerllaw iddo? Anfonwch Ffurflen Awgrymu Digwyddiad i ni fel y gallwn ei hyrwyddo ar ein gwefan. (dibynnol ar gymeradwyaeth).
Ymunwch â’n Cymuned
Gyda dros 5,000 o aelodau yn ein Cymuned Facebook, mae'n lle perffaith i gasglu ambell awgrym ymarferol ar gerdded y llwybr ynghyd â digon o ysbrydoliaeth ac anogaeth gan gerddwyr eraill. Welwn ni chi yno! Facebook: Cymuned Llwybr Arfordir Cymru