Dathlu Llwyddiant Datblygu Gwledig - Rhifyn 12 - Beth sydd yn y Newyddion?


Rhannu Llwyddiant - Rhifyn 12 - Beth sydd yn y Newyddion?

 
 

Uned Cefnogi Rhwydwaith Gwledig Cymru

wrn

Y Rhwydwaith

Mae’n anodd credu mai dim ond ychydig dros fis sydd i fynd cyn diwedd y Rhaglen Datblygu Gwledig – i ble mae’r wyth mlynedd diwethaf wedi mynd?

Ar y cam hwn, mae Rhwydwaith Gwledig Cymru yn hoelio sylw ar gasglu Astudiaethau Achos ac uwchlwytho adroddiadau prosiect ac Astudiaethau Dichonoldeb i’r wefan.

Fodd bynnag, rydym yn parhau i rannu newyddion a helpu prosiectau i hyrwyddo eu gwaith.
Dyma rai ichi......

Ffermio ac Amaethyddiaeth

gwlad

Cylchlythyr Gwlad 27 Ebrill 2023

E-Cylchgrawn gan Lywodraeth Cymru yw Gwlad ar gyfer busnesau fferm a choedwigaeth a'r rheini sy'n ymwneud ag amaeth yng Nghymru.

agri

Academi Amaeth Cyswllt Ffermio 2023

Dechreuwyd chwilio am ymgeiswyr ar gyfer Academi Amaeth 2023 Cyswllt Ffermio 2023 ddydd Llun, 1 Mai, gyda'r cyfnod ymgeisio ar agor tan ddydd Gwener, 26 Mai 2023.

cows

Chwilio am ffermydd prosiect newydd ar gyfer rhwydwaith 'Ein Ffermydd' Cyswllt Ffermio

Mae ffermwyr yn cael y cyfle i dreialu arloesiadau a thechnolegau newydd ym myd ffermio cyn i Gymru drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy gan fod Cyswllt Ffermio yn recriwtio ffermydd i dreialu prosiectau ar y fferm.

Coedwigaeth

forestry

Lansiwyd cynllun newydd ar 3 Ebrill o'r enw 'Coetiroedd Bach'

Cynllun newydd o'r enw 'Coetiroedd Bach', gan gyfrannu at Raglen Coedwig Genedlaethol Cymru.

Mae 'Coetiroedd Bach' yn dod â manteision coedwig i ganol ein dinasoedd a’n mannau trefol.

'Coetiroedd Bach' yw'r enw yng Nghymru ar Tiny Forests.

Bwyd a Diod

veg

Llwyddiant i ymgyrch Dydd Gŵyl Dewi

#CaruCymruCaruBlas / #LoveWalesLoveTaste Llywodraeth Cymru wedi sicrhau niferoedd mwy nag erioed, gyda mwy o argraffiadau dylanwadol, cysylltiadau cryfach â’r sectorau manwerthu a lletygarwch, a mwy o ymwybyddiaeth ymhlith defnyddwyr.

butcher

Myfyrwyr yn cael cipolwg gwerthfawr ar arddangosfa cigyddiaeth yn defnyddio Cig Oen Cymru

Cafodd darpar gogyddion o goleg addysg bellach blaenllaw gipolwg ar Gig Oen Cymru PGI fel rhan o arddangosfa i ddangos sgil a thechneg cigydd. Yn dilyn y sesiwn, Cig Oen Cymru oedd seren pryd chwe chwrs ‘Great British Menu,’ wedi ei goginio gan y myfyrwyr eu hunain.

Gofalu am yr Amgylchedd

ev

Pwyntiau gwefru trydan cymunedol cyntaf i Ynys Môn

Mae pump o bwyntiau gwefru cyflym ar gyfer cerbydau trydan wedi cael eu gosod mewn lleoliadau cymunedol ar draws Ynys Môn, diolch i gynllun Menter Môn. Mewn partneriaeth gyda Medrwn Môn a Chyngor Ynys Môn mae’r fenter wedi gosod y pwyntiau gwefru mewn hybiau cymunedol fel rhan o gynllun Zap Môn.

Montgomery Canal

Taith Gerdded Bywyd Gwyllt Camlas Maldwyn

Ymunwch â ni am daith dywys ar hyd Camlas Maldwyn i fwynhau’r bywyd gwyllt a darganfod pam fod y ddyfrffordd hon yn gymaint o hafan i natur

Dyddiad: Dydd Sul 14 Mai 2023
Amser: 10:00am - 13:00

Ein Cymunedau

llanwrtyd community event

Pobl leol Llanwrtyd yn troi allan i ddigwyddiad cymunedol Afon Irfon

Daeth mwy na 60 o bobl leol i ddigwyddiad cymunedol yn Neuadd Fictoria Llanwrtyd, i ddarganfod sut mae sefydliadau’n cydweithio i warchod bioamrywiaeth dwr croyw yn nhalgylch afon Irfon.

big spring clean poster

Dewch i ni ddangos cariad tuag at Gymru Y Gwanwyn hwn

Daeth mwy na 60 o bobl leol i ddigwyddiad cymunedol yn Neuadd Fictoria Llanwrtyd, i ddarganfod sut mae sefydliadau’n cydweithio i warchod bioamrywiaeth dwr croyw yn nhalgylch afon Irfon.

Ychwanegu Gwerth

Wool Event Invite

Digwyddiad Ychwanegu gwerth at wlân!

Hoffwn eich gwahodd i ddigwyddiad 'Ychwanegu Gwerth at Wlân' yn Fferm Parlla Isaf, Tywyn ar yr ddydd Iau yr 8fed o Fehefin.

 
 
 

Amdanom ni

Mae Newyddion Rhwydwaith Gwledig Cymru yn cynnig crynodeb o newyddion, gwybodaeth a chyfleoedd rhwydweithio sy’n gysylltiedig â Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020. Mae’n ffordd hwylus i rannu gwybodaeth ac enghreifftiau o arferion da yng Nghymru, y DU ac Ewrop. Os hoffech chi gyfrannu unrhyw beth sy’n berthnasol i ddatblygu gwledig yng Nghymru, cysylltwch â Rhwydwaithgwledig@llyw.cymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

businesswales.gov.wales/
walesruralnetwork

Dilynwch ni ar Twitter:

@RGC_WRN

 

Dilynwch ni ar Facebook:

Rhwydwaith Gwledig Cymru

 

Dilynwch ni ar Instagram:

rgc_wrn

 

Dilynwch ni ar YouTube:

Rhwydwaith Gwledig Cymru