Cylchlythyr Gwlad 27 Ebrill 2023

27 Ebrill 2023

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION

SAF

Ffurflen Cais Sengl (SAF) 2023

Y dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno eich Ffurflen Cais Sengl fydd hanner nos ar 15 Mai 2023, neu erbyn 9 Mehefin 2023 gyda chosbau am gyflwyno’n hwyr. Ni all Ffurflen Cais Sengl gael ei chyflwyno na’i derbyn ar ôl 9 Mehefin 2023.

lambs in field

Trosglwyddo Hawliau o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol

Mae’r cyfleuster hysbysu ynghylch trosglwyddo ar gyfer hawliau 2023 ar gael ar RPW Ar-lein. Mae’n rhaid hysbysu RPW erbyn 15 Mai 2023 fel y gall y derbynnydd hawlio am yr hawliau y maent yn eu derbyn ar gyfer blwyddyn Cynllun y Taliad Sylfaenol yn 2023.

i-pad

RPW Ar-lein: dyddiadau cynnal a chadw hanfodol

Dyddiadau pan na fydd Taliadau Gwledig Cymru Ar-lein ar gael oherwydd gwaith cynnal a chadw a diweddariadau hanfodol.

cefngwlad Cymru

Ydych chi’n defnyddio Rheoli Fy CPH eto?

Mae dros 59% o geidwaid cofrestredig wedi trosglwyddo eu CPH ac maen nhw bellach yn elwa ar y rheol 10-milltir, a swyddogaethau mapio Rheoli fy CPH, drwy RPW Ar-lein. Mae dros 29,000 o gofnodion CPH segur wedi cael eu cau.

cefngwlad Cymru

Cynlluniau Cefnogi Gwledig

Gwybodaeth am yr holl gynlluniau cymorth amaethyddol, gan gynnwys dyddiadau’r cyfnod ymgeisio, gofynion y cynlluniau a meini prawf cymhwysedd.

Fferm

Grantiau Bach – Gorchuddio Iardiau: Newid i’r dyddiad agor

Mae ffenestr ymgeisio nesaf Cynllun Grantiau Bach – Gorchuddio Iardiau wedi newid a bydd nawr yn agor ar 1 Tachwedd ac yn cau ar 15 Rhagfyr 2023.

Planhigion mefus

Grantiau Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth

Mae ffenestr Mynegi Diddordeb (EoI) nesaf ar gyfer y cynllun Dechrau Busnes Grantiau Bach – Garddwriaeth wedi  agor ar 11 Ebrill 2023 ac yn cau ar 20 Mai 2023

dofednod

Parth Atal Ffliw Adar – Diweddariad

Yn dilyn yr asesiad diweddaraf o risg dofednod ar gyfer y ffliw adar, mae mesurau gorfodol i gadw dofednod ac adar caeth dan do wedi eu codi ledled Cymru. Mae hyn yn golygu y gall ceidwaid, os dewisant, ganiatáu i'w hadar fod y tu allan.

buwch

Cynllun Cyflanwi Rhaglen Dileu TB wedi'i Hadnewyddu

Mae'r Cynllun yn cwmpasu'r 5 mlynedd nesaf ac yn cynnwys ymrwymiadau. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • bwrw ymlaen â threfniadau Llywodraethu newydd
  • prosiect peilot i fynd i'r afael â lefelau difrifol o TB mewn rhannau o Sir Benfro
  • ymgysylltu ymhellach â rhanddeiliaid ar Daliadau TB a Phrynu Gwybodus
llo

Newidiadau i brofion TB mewn rhannau o'r Ardaloedd TB Canolradd ac Isel

Mae newidiadau yn cael eu gwneud i'r ffordd mae profion TB yn cael eu rheoli mewn rhannau o ardaloedd TB Canolradd ac Isel Cymru. Cafodd y newidiadau diweddaraf eu gweithredu ar 3 Ebrill 2023.

Mochyn daear

Ydych chi wedi dod o hyd i fochyn daear marw?

Fel rhan o’n Raglen i Ddileu TB, dyfarnwyd contract i gasglu carcasau “moch daear marw” at ddibenion post portem. Os ydych yn gweld mochyn daear marw, nodwch leoliad y carcas a ffoniwch y llinell benodol ar gyfer moch daear marw ar 0808 169 5110.

Hybu Cig Cymru

Pedwar aelod newydd i ymuno â bwrdd Hybu Cig Cymru

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi penodi pedwar aelod newydd o Fwrdd Hybu Cig Cymru.

Pesticide

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Cynhyrchion Diogelu Planhigion) 2020 – Cofrestriadau Cam 2

Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i fusnesau a sefydliadau eraill sy’n defnyddio cynhyrchion diogelu planhigion (ee chwynladdwyr) ar lefel broffesiynol, neu y mae trydydd parti yn eu defnyddio ar eu rhan, gofrestru. Mae’n rhaid i fusnesau Cymru gyflwyno eu manylion i ni er mwyn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth. Mae’n rhaid i ddefnyddwyr proffesiynol nad oeddent wedi cofrestru erbyn Mehefin 2022 wneud hynny cyn gynted â phosibl.

Cyswllt Ffermio

Dathlu a chroesawu syniadau a chyfleoedd newydd ar ffermydd Cymru mewn digwyddiad diwydiant

Bydd dathlu rôl ymchwil ar y fferm a gynhelir ledled Cymru i groesawu syniadau a chyfleoedd newydd dan sylw mewn digwyddiad allweddol yn y diwydiant ym mis Mai. 

Cyswllt Ffermio

Academi Amaeth Cyswllt Ffermio 2023

Mae’r gwaith o chwilio am ymgeiswyr Academi Amaeth Cyswllt Ffermio 2023 yn dechrau 1 Mai, gyda’r cyfnod ymgeisio ar agor tan 15 Mai.

WRNSU

Uned Gymorth Rhwydwaith Gwledig Cymru (UGRGC)

Mae'r UGRGC yn cynorthwyo cyfnewid syniadau rhwng sefydliadau gwledig. Mae ar gael i unrhyw un:

  • gyda diddordeb mewn datblygu gwledig
  • cadw i fyny efo gwybodaeth ariannu yn y dyfodol
FLS

Tîm Cysylltwyr Fferm

Cymorth un-i-un cyfrinachol. Os ydych angen trafod unrhyw beth cysylltwch gyda un o’r swyddogion.

Llinellau Cymorth

FarmWell Cymru

Mae Farm Well Cymru yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf a manylion am wasanaethau cymorth i ffermwyr Cymru, a all eu helpu nhw a'u busnesau fferm i aros yn gryf ac yn gydnerth drwy gyfnodau o newid ac anwadalrwydd.

Wefan: https://farmwell.cymru/

Cronfa Addington

Ffoniwch: 1926 620135

Wefan: https://www.addingtonfund.org.uk/

Sefydliad DPJ 

Ffoniwch:0800 587 4262 neu tecst: 07860 048799

Ebost: contact@thedpjfoundation.com

Wefan: https://www.thedpjfoundation.co.uk/ 

Y Rhwydwaith Cymunedau Fferm

Ffoniwch: 03000 111 999 

Wefan: https://fcn.org.uk/?lang=cy 

Ebost: help@fcn.org.uk

Sefydliad Fuddianol Amaethyddol Frenhinol (RABI)

Ffoniwch: 0800 188 4444

E-bost: help@rabi.org.uk

Wefan: https://rabi.org.uk/

Tir Dewi

Ffoniwch: 0800 121 47 22

Wefan: https://tirdewi.co.uk/cy/hafan/

 
 

GWYBODAETH AM GWLAD

E-Cylchgrawn gan Lywodraeth Cymru yw Gwlad ar gyfer busnesau fferm a choedwigaeth a'r rheini sy'n ymwneud ag amaeth yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/ffermio-a-chefn-gwlad

Dilynwch ar Twitter:

@LlCCefnGwlad

@LIC_Pysgodfeydd