Y dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno eich Ffurflen Cais Sengl fydd hanner nos ar 15 Mai 2023, neu erbyn 9 Mehefin 2023 gyda chosbau am gyflwyno’n hwyr. Ni all Ffurflen Cais Sengl gael ei chyflwyno na’i derbyn ar ôl 9 Mehefin 2023.
Mae’r cyfleuster hysbysu ynghylch trosglwyddo ar gyfer hawliau 2023 ar gael ar RPW Ar-lein. Mae’n rhaid hysbysu RPW erbyn 15 Mai 2023 fel y gall y derbynnydd hawlio am yr hawliau y maent yn eu derbyn ar gyfer blwyddyn Cynllun y Taliad Sylfaenol yn 2023.
Mae dros 59% o geidwaid cofrestredig wedi trosglwyddo eu CPH ac maen nhw bellach yn elwa ar y rheol 10-milltir, a swyddogaethau mapio Rheoli fy CPH, drwy RPW Ar-lein. Mae dros 29,000 o gofnodion CPH segur wedi cael eu cau.
Mae ffenestr Mynegi Diddordeb (EoI) nesaf ar gyfer y cynllun Dechrau Busnes Grantiau Bach – Garddwriaeth wedi agor ar 11 Ebrill 2023 ac yn cau ar 20 Mai 2023
Yn dilyn yr asesiad diweddaraf o risg dofednod ar gyfer y ffliw adar, mae mesurau gorfodol i gadw dofednod ac adar caeth dan do wedi eu codi ledled Cymru. Mae hyn yn golygu y gall ceidwaid, os dewisant, ganiatáu i'w hadar fod y tu allan.
Mae newidiadau yn cael eu gwneud i'r ffordd mae profion TB yn cael eu rheoli mewn rhannau o ardaloedd TB Canolradd ac Isel Cymru. Cafodd y newidiadau diweddaraf eu gweithredu ar 3 Ebrill 2023.
Fel rhan o’n Raglen i Ddileu TB, dyfarnwyd contract i gasglu carcasau “moch daear marw” at ddibenion post portem. Os ydych yn gweld mochyn daear marw, nodwch leoliad y carcas a ffoniwch y llinell benodol ar gyfer moch daear marw ar 0808 169 5110.
Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i fusnesau a sefydliadau eraill sy’n defnyddio cynhyrchion diogelu planhigion (ee chwynladdwyr) ar lefel broffesiynol, neu y mae trydydd parti yn eu defnyddio ar eu rhan, gofrestru. Mae’n rhaid i fusnesau Cymru gyflwyno eu manylion i ni er mwyn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth. Mae’n rhaid i ddefnyddwyr proffesiynol nad oeddent wedi cofrestru erbyn Mehefin 2022 wneud hynny cyn gynted â phosibl.
Bydd dathlu rôl ymchwil ar y fferm a gynhelir ledled Cymru i groesawu syniadau a chyfleoedd newydd dan sylw mewn digwyddiad allweddol yn y diwydiant ym mis Mai.
Cymorth un-i-un cyfrinachol. Os ydych angen trafod unrhyw beth cysylltwch gyda un o’r swyddogion.
Llinellau Cymorth
FarmWell Cymru
Mae Farm Well Cymru yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf a manylion am wasanaethau cymorth i ffermwyr Cymru, a all eu helpu nhw a'u busnesau fferm i aros yn gryf ac yn gydnerth drwy gyfnodau o newid ac anwadalrwydd.