Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
CYNNWYS BWLETIN: Mae dadansoddiad o’r ymgynghoriadau ar y cynllun trwyddedu statudol bellach ar gael ar Llyw.Cymru; Tri mis i fynd: Bydd y newid i 20mya yn achub bywydau ac yn cryfhau cymunedau, meddai’r Dirprwy Weinidog; Mae Ymgyrch Diwrnodau Allan y Loteri Genedlaethol yn ôl ar gyfer haf 2023; Digwyddiadau a ariennir gan Ddigwyddiadau Cymru 2023; Cyhoeddi Cronfa ar gyfer Gwyliau a Digwyddiadau Bwyd a Diod; Prosiect Llwybrau i Lesiant Ramblers Cymru yn creu 145 llwybr cerdded; Cylchlythyr haf Llwybr Arfordir Cymru ar gael nawr; Coedwig Genedlaethol Cymru yn ehangu; Ni Wnawn Chwedl O Gri Eryri: Arwyr y Mabinogion yn Dychwelyd i Herio Problemau Sbwriel; Val Hawkins yn cael MBE yn rhestr anrhydeddau pen-blwydd y Brenin; Cyfrifo ôl troed carbon ar gyfer busnesau bach; Ymrwymo i leihau gwastraff busnes; Newyddion diweddaraf Busnes Cymru.
Mae dadansoddiad o’r ymgynghoriadau ar y cynllun trwyddedu statudol bellach ar gael ar Llyw.Cymru
Yn gynharach eleni, gofynnodd Llywodraeth Cymru am farn ar ei hymgynghoriad ar gynllun trwyddedu statudol ar gyfer pawb sy’n darparu llety i ymwelwyr yng Nghymru.
Roedd yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn yn ceisio barn ar sut y gallai cynllun trwyddedu weithredu yn ymarferol. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 17 Mawrth, a derbyniwyd dros 1,500 o ymatebion.
I ategu’r prif ymgynghoriad, cynhaliwyd tair sesiwn ymgysylltu ym mis Mai. Rhoddwyd adborth ar agweddau technegol penodol y cynllun arfaethedig gan randdeiliaid a oedd wedi cael eu gwahodd o’r holl ddiwydiant twristiaeth. Roedd y rhai a oedd yn bresennol yn cynrychioli nifer ac amrywiaeth sylweddol o fusnesau a sefydliadau twristiaeth yng Nghymru.
Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig sy’n rhoi diweddariad ar y cynllun trwyddedu statudol ac yn rhannu’r dadansoddiad llawn o’r cynllun trwyddedu statudol ac adroddiad ar drafodaethau ategol yr ymgynghoriad.
Hoffen ni ddiolch i bawb sydd wedi rhoi adborth. Byddwn yn ystyried canfyddiadau’r adroddiadau hyn wrth barhau i gasglu barn y sector, darparwyr ymwelwyr a chymunedau wrth inni ddatblygu’r polisi.
Byddwn yn rhoi rhagor o ddiweddariadau yn hwyrach eleni i amlinellu cynigion ar gyfer y cynllun.
Mae’r datganiad ysgrifenedig llawn ar gael yma: Datganiad Ysgrifenedig: Diweddariad am gynllun trwyddedu statudol ar gyfer pob darparwr llety ymwelwyr yng Nghymru (5 Gorffennaf 2023) | LLYW.CYMRU
Tri mis i fynd: Bydd y newid i 20mya yn achub bywydau ac yn cryfhau cymunedau, meddai’r Dirprwy Weinidog
Yn ogystal ag achub bywydau, bydd arafu’r traffig yn cryfhau cymunedau ac yn eu gwneud yn fwy diogel, dywedodd y Dirprwy Weinidog Lee Waters dri mis cyn y daw’r terfyn cyflymder 20mya diofyn i rym. Bydd y rhan fwyaf o strydoedd yng Nghymru sydd â therfyn cyflymder o 30mya yn newid i 20mya ddydd Sul, 17 Medi a disgrifiwyd y newid hwnnw fel y newid mwyaf i fesurau diogelu cymunedol mewn cenhedlaeth.
Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.
Mae Ymgyrch Diwrnodau Allan y Loteri Genedlaethol yn ôl ar gyfer haf 2023
Mae Croeso Cymru'n gweithio'n agos gyda VisitBritain ar ymgyrch Diwrnodau Allan newydd y Loteri Genedlaethol 2023. Bydd yr ymgyrch newydd a gafodd ei lansio ar 3 Gorffennaf 2023 yn caniatáu i ddeiliaid tocynnau'r Loteri Genedlaethol dderbyn taleb gwerth £25 i'w wario ar dros 500 o atyniadau, profiadau a theithiau tywys yn y DU.
Am ragor o fanylion, ewch i Ymgyrch Diwrnodau Allan y Loteri Genedlaethol - haf 2023 | Drupal (llyw,cymru)
Digwyddiadau a ariennir gan Ddigwyddiadau Cymru 2023:
-
Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, 4-9 Gorffennaf - digwyddiad blynyddol unigryw o gyngherddau nos o'r radd flaenaf a chymysgedd amrywiol o gystadlaethau cerddoriaeth a dawns traddodiadol a chyfoes.
-
Gŵyl ‘Love Trails’, 6-9 Gorffennaf, Abertawe - Gŵyl flynyddol o gerddoriaeth, rhedeg, antur a lles wedi'i lleoli ger Castell Weble ar benrhyn Gŵyr.
-
Gŵyl ‘Beyond the Border’, 7-9 Gorffennaf, Sir Gaerfyrddin - Cynhelir gŵyl chwedleua fwyaf y DU yn Ninefwr. Mae pen-blwydd yr ŵyl yn 30 eleni a bydd yn dathlu cymunedau amrywiol Cymru mewn sawl iaith.
-
Gŵyl Para Chwaraeon, 10-16 Gorffennaf, Abertawe - gŵyl llawn gweithgareddau aml-chwaraeon llawr gwlad ar draws Abertawe yn ogystal â chyfres o 7 digwyddiad chwaraeon para ac anabledd cystadleuol, gan gynnwys triathlon, boccia, pêl-droed byddar a rygbi cadair olwyn.
-
Cyfres Para Triathlon y Byd, 15 Gorffennaf, Abertawe – paratriathletwyr gorau'r byd ochr yn ochr ag athletwyr sy'n datblygu a rhai sy’n cymryd rhan am y tro cyntaf mewn gŵyl nofio, beicio a rhedeg. Bydd dros 100 o baratriathletwyr elitaidd o'r DU a ledled y byd yn cystadlu am bwyntiau gwerthfawr i fod yn gymwys ar gyfer Gemau Paralympaidd Paris 2024.
-
Ironman 70.3, 16 Gorffennaf, Abertawe - Bydd athletwyr yn nofio 1.2 milltir (1.9km) cyn beicio 56 milltir (90km), gan orffen drwy redeg 13.1 milltir (21.1km).
-
Pencampwriaethau Agored Golffwyr Hŷn 2023, 27-30 Gorffennaf, Clwb Golff Brenhinol Porthcawl - Gall cefnogwyr chwaraeon weld rhai o'r enwau mwyaf ym maes golff yn un o brif gyrsiau Ewrop wrth i Bencampwriaeth Agored Golffwyr Hŷn ddychwelyd i Glwb Golff Brenhinol Porthcawl am y tro cyntaf mewn chwe blynedd.
Cyhoeddi Cronfa ar gyfer Gwyliau a Digwyddiadau Bwyd a Diod
Mae cronfa gwerth £300,000 i ddarparu cymorth i wyliau a digwyddiadau bwyd a diod ledled Cymru wedi agor ar gyfer ceisiadau ar 1 Gorffennaf. Bydd y cynllun grantiau bach, a fydd yn mynd i’r afael â 10 cam allweddol ‘Gweledigaeth ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod’ Llywodraeth Cymru, yn cefnogi gwyliau a digwyddiadau i ychwanegu gwerth at y diwydiant yng Nghymru a’r nod yw gwella mynediad ymwelwyr at fwyd a diod o Gymru, a’u hymwybyddiaeth ohonynt. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm 31 Gorffennaf 2023.
Am ragor o fanylion, ewch i Cyhoeddi Cronfa ar gyfer Gwyliau a Digwyddiadau Bwyd a Diod | Busnes Cymru
Prosiect Llwybrau i Lesiant Ramblers Cymru yn creu 145 llwybr cerdded
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae prosiect blaenllaw Ramblers Cymru, Llwybrau i Lesiant, wedi bod yn gweithio mewn 18 cymuned ledled Cymru i annog pobl i fynd allan i gerdded a mwynhau eu hardaloedd lleol. Maent wedi creu dros 145 llwybr cerdded newydd ledled Cymru, sy'n addas i'r teulu yn bennaf, ac sy'n cynnwys rhai ardaloedd sy'n addas ar gyfer cadeiriau olwyn a bygis (lle bo'n bosibl).
Mae'r prosiect hwn wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Cymerwch gip ar lwybrau newydd ger eich busnes.
Am ragor o wybodaeth ewch i: Llwybrau i Lesiant yn creu 145 llwybr cerdded newydd - Ramblers
Cofiwch gymryd cip hefyd ar lwybrau epig eraill Cymru: "Llwybrau". Gall busnesau yng Nghymru ddarganfod mwy am flwyddyn thematig ddiweddaraf Cymru yma: 2023: Llwybrau | Busnes Cymru (llyw.cymru)
Cylchlythyr haf Llwybr Arfordir Cymru ar gael nawr
I ddarllen cylchlythyr diweddaraf Llwybr Arfordir Cymru ewch i: Llwybr Arfordir Cymru & Llwybrau Genedlaethol: Cylchlythyr Busnes Haf 2023 (govdelivery.com)
Mae’r rhifyn hwn yn cynnwys awgrymiadau defnyddiol i wneud eich busnes yn fwy deniadol i gerddwyr.
Gallwch danysgrifio i gael newyddlen Llwybr Arfordir Cymru yma: Cyfoeth Naturiol Cymru (o dan prosiect, dewiswch "Llwybr Arfordir Cymru"). Gallwch ddilyn Llwybr Arfordir ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd: Llwybr Arfordir Cymru | Facebook a @Llwybr Arfordir Cymru
Coedwig Genedlaethol Cymru yn ehangu
Ar 23 Mehefin 2023, lansiodd y Prif Weinidog Mark Drakeford Gynllun Statws Coedwig Genedlaethol Cymru yn ystod ymweliad â Choetir Bach Pencoetre yn y Barri, coetir bach newydd, a’r safle coetir cyntaf nad yw’n eiddo i Lywodraeth Cymru i gael statws Coedwig Genedlaethol Cymru. Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.
Bydd y cynllun yn galluogi coetiroedd nad ydynt yn eiddo i Lywodraeth Cymru ddod yn rhan o rwydwaith Coedwig Genedlaethol Cymru. Gallai’r rhain fod yn goetiroedd bach trefol neu goetiroedd cymunedol, tir preifat neu ffermydd, ardaloedd mawr o dir sy’n eiddo i awdurdodau lleol, elusennau neu goetiroedd sy’n cynhyrchu pren.
I gael gwybodaeth ar Gynllun Statws Coedwig Genedlaethol Cymru a sut i ymgeisio, ewch i: Statws Coedwig Genedlaethol Cymru | LLYW.CYMRU
Ni Wnawn Chwedl O Gri Eryri: Arwyr y Mabinogion yn Dychwelyd i Herio Problemau Sbwriel
Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi lansio ymgyrch gyfathrebu unigryw sydd yn cael ei arwain gan ‘Brosiect Yr Wyddfa Ddi-Blastig’.
Gyda’r nod o herio problemau sbwriel a hyrwyddo ymarferion cynaladwy mae’r ymgyrch arloesol yma yn anelu at godi ymwybyddiaeth, hybu tueddiadau ymddygiad bositif a sefydlu Eryri fel lleoliad sy’n arwain y gâd i fod yn eco-gydwybodol. Mae rhagor o fanylion ar gael ar: Ni Wnawn Chwedl O Gri Eryri: Arwyr y Mabinogion yn Dychwelyd i Herio Problemau Sbwriel | Parc Cenedlaethol Eryri (llyw.cymru)
Ydych chi'n fusnes lletygarwch sy'n gweithredu yn ardal Yr Wyddfa?
Os hoffech chi chwarae rhan i ddiogelu ei dyfodol cynaliadwy a chyfrannu at y nod o wneud Yr Wyddfa yn fynydd di-blastig cyntaf y byd, ewch i: Busnesau Di-blastig (llyw.cymru)
Val Hawkins yn cael MBE yn rhestr anrhydeddau pen-blwydd y Brenin
Llongyfarchiadau i Val Hawkins, prif weithredwr Twristiaeth Canolbarth Cymru, ar gael MBE i gydnabod ei gwasanaeth i dwristiaeth ac economi Cymru.
Mae Twristiaeth Canolbarth Cymru yn sefydliad twristiaeth annibynnol sy'n cynrychioli 600 o aelodau sy’n fusnesau twristiaeth a lletygarwch ledled Powys, Ceredigion a de Eryri.
Cyfrifo ôl troed carbon ar gyfer busnesau bach
Mae cyfrifo ôl troed carbon yn gam cyntaf hanfodol i unrhyw fusnes ddod yn rhan o’r ateb i’r argyfwng hinsawdd, a hefyd yn ffordd synhwyrol o reoli risg ar gyfer unrhyw newidiadau deddfwriaeth yn y dyfodol, tarfu ar y gadwyn gyflenwi a chodiadau ym mhris carbon. Mae’r Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB) wedi cyhoeddi canllaw defnyddiol i helpu busnesau drwy’r broses, sydd ar gael ar wefan yr FSB.
Ymrwymo i leihau gwastraff busnes
Gall Cadwch Gymru’n Daclus helpu busnesau i reoli eu cyfarpar gwastraff mewn ffordd ddiogel, gydymffurfiol, sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd trwy’r cynllun ailddefnyddio ac ailgylchu TGCh a Chyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff (WEEE). Am fwy o wybodaeth, ewch i: Ymrwymo i leihau eich gwastraff - Caru Cymru
Newyddion diweddaraf Busnes Cymru
Sicrhewch eich bod yn cael y newyddion a’r blogiau diweddaraf gan Busnes Cymru – ewch i: Newyddion a Blogiau | Busnes Cymru. Mae rhai o’r erthyglau diweddaraf yn cynnwys:
Tanysgrifiwch ar gyfer newyddlen Busnes Cymru ar Llywodraeth Cymru (govdelivery.com) – ar ôl cofrestru, gallwch fewngofnodi a rheoli eich holl danysgrifiadau gyda Llywodraeth Cymru.
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Edrychwch ar gylchlythyrau a bwletinau a gyhoeddwyd yn flaenorol i’r diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).
Ar gyfer cymorth a chyngor penodol i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio, cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000. Dylech ddarllen gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|