Ni allai thema farchnata Croeso Cymru ar gyfer 2023 fod yn fwy addas ar gyfer y busnesau hynny sy’n gwasanaethu ymwelwyr â Llwybr Arfordir Cymru a thri Llwybr Cenedlaethol Cymru.
Mae Darganfod Cymru yn cael ei gynnal gan Croeso Cymru mewn partneriaeth ag aelodau Ukinbound, De Cymru, Croeso Caerdydd a ‘The Royal Mint’ fel rhan o raglen ddigwyddiadau Discover UKinbound.
Y digwyddiad eleni fydd y trydydd yng nghyfres Cymru. Bydd yn gyfle i gyflenwyr twristiaeth yng Nghymru gwrdd â hyd at 30 o aelodau gweithredol UKinbound sy'n dod i'r DU. Bydd y sesiwn gweithdy yn darparu hyd at 12 apwyntiad wyneb yn wyneb i brynwyr (9 munud yr un). Bydd y digwyddiad rhwydweithio gyda'r nos y noson cynt yn gyfle i wneud rhagor o fusnes (B2B).
Mae'r digwyddiad hwn yn addas ar gyfer cyflenwyr o Gymru ar draws y diwydiant twristiaeth gyda chynnyrch y gellir ei archebu/ ei gomisiynu, sy'n barod i weithio gyda'r Farchnad Deithio ryngwladol.
Rhoddir blaenoriaeth i gyflenwyr llety (o ddiddordeb arbennig i'r prynwyr) a busnesau eraill sydd wedi mynychu digwyddiadau y Diwydiant Teithio/Digwyddiadau Busnes yn y gorffennol sy'n targedu marchnadoedd rhyngwladol gyda Croeso Cymru.
Ddiddordeb? Os felly, cwblhewch ein Ffurflen Mynegi Diddordeb. Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw 30 Mehefin 2023.
Mae llyfrgell asedau Croeso Cymru yn rhoi mynediad i chi i gannoedd o ddelweddau o Gymru. Dylech ddefnyddio ffotograffau o ansawdd da i ddarlunio’ch cynhyrchion a'ch gwasanaethau
Mae ein sianelu cyfryngau cymdeithasol yn cael eu defnyddio i ysbrydoli pobl i ddod i gerdded ein llwybrau cerdded pellach a’u hannog i ddefnyddio busnesau ar eu hyd. Darllen mwy
Cadwch mewn cysylltiad â’r hyn sy’n digwydd ar hyd Llwybr Arfordir Cymru a’r tri Llwybr Cenedlaethol yng Nghymru trwy gofrestru i dderbyn copïau o’r cylchlythyr busnes yn y dyfodol.