Bydd yr ymgyrch #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste yn ôl Ddydd Gŵyl Dewi eleni i gefnogi bwyd a diod o Gymru.
Ymgyrch Dydd Gŵyl Dewi 2023
Bydd yr ymgyrch yn dechrau ddydd Llun 20 Chwefror yn y dyddiau cyn Dydd Gŵyl Dewi, ac yn cyrraedd ei anterth ar 1 Mawrth.
Yn yr un modd ag ymgyrchoedd blaenorol, mae pecyn cymorth digidol newydd gyda brandio’r ymgyrch ar gael i’r diwydiant ei ddefnyddio ar eu cyfathrebiadau ar gyfryngau cymdeithasol yn ystod yr ymgyrch.
https://businesswales.gov.wales/foodanddrink/cy/carucymrucarublas-0
Bydd yn ymgyrch 10 diwrnod, uchel ei effaith, yn cynnwys:
- Asedau digidol a phecyn cymorth i’w ddefnyddio ar gyfryngau cymdeithasol
- 6 taflen ddigidol a 48 taflen o gwmpas dinasoedd sylweddol yng Nghymru mewn lleoliadau prysur ac yn agos at fannau prynu
- Awyr agored digidol mewn safleoedd Mynediad i Gymru
- Hysbysebion digidol ar-lein gyda dolenni i brynu cynnyrch o Gymru ar-lein
I ymuno â’r ymgyrch, lawrlwythwch y pecyn cymorth hwn a rhowch drefn ar eich postiadau cyfryngau cymdeithasol - byddai’n wych lliwio’r rhyngrwyd yn GOCH ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi eto eleni.
Os ydych chi’n cynhyrchu bwyd a diod o Gymru, ymunwch â ni fis Mawrth yng Nghynhadledd Mewnwelediad Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru a chewch fanteisio ar wybodaeth o’r radd flaenaf a fydd yn helpu i’ch busnes ffynnu a llwyddo dan yr amgylchiadau economaidd anodd hyn. Cewch glywed gan brif siaradwyr a phanelwyr a dysgu am y data a’r tueddiadau diweddar yn y farchnad mewn 5 sesiwn wedi’u seilio ar thema, megis y Sefyllfa Economaidd Ddiweddaraf, Allforio, Datblygu Cynnyrch Newydd, Manwerthu a Thu Hwnt i’r Cartref. Yng nghwmni rhestr gyffrous yn cynnwys partneriaid mewnwelediad, Kantar, IGD, CGA a thefoodpeople, peidiwch â cholli’r cyfle. Cofrestrwch i fynychu’r gynhadledd yma: https://cynhadleddmewnwelediad2023.eventbrite.co.uk
Mae’r rhan fwyaf o wastraff bwyd sy’n cael ei ailgylchu yng Nghymru yn cael ei droi’n ynni adnewyddadwy sy’n rhoi pŵer i gartrefi a chymunedau Cymru. Pwerus iawn, ynte? Ac mae modd mynd gam ymhellach. Darllenwch fwy i gael awgrymiadau, ffeithiau a straeon pwerus.
https://www.walesrecycles.org.uk/cy/bydd-wych-ailgylcha
|