Newyddlen Bwyd a Diod Cymru - Chwefror 2023

Chwefror 2023 • Rhifyn 026

 
 

Mae Bwyd a Diod Cymru wedi trefnu ymgyrch Dydd Gŵyl Dewi.

CaruCymruCaruBlas

Bydd yr ymgyrch #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste yn ôl Ddydd Gŵyl Dewi eleni i gefnogi bwyd a diod o Gymru.

Ymgyrch Dydd Gŵyl Dewi 2023

Bydd yr ymgyrch yn dechrau ddydd Llun 20 Chwefror yn y dyddiau cyn Dydd Gŵyl Dewi, ac yn cyrraedd ei anterth ar 1 Mawrth.

Yn yr un modd ag ymgyrchoedd blaenorol, mae pecyn cymorth digidol newydd gyda brandio’r ymgyrch ar gael i’r diwydiant ei ddefnyddio ar eu cyfathrebiadau ar gyfryngau cymdeithasol yn ystod yr ymgyrch.

https://businesswales.gov.wales/foodanddrink/cy/carucymrucarublas-0

Bydd yn ymgyrch 10 diwrnod, uchel ei effaith, yn cynnwys:

  • Asedau digidol a phecyn cymorth i’w ddefnyddio ar gyfryngau cymdeithasol
  • 6 taflen ddigidol a 48 taflen o gwmpas dinasoedd sylweddol yng Nghymru mewn lleoliadau prysur ac yn agos at fannau prynu
  • Awyr agored digidol mewn safleoedd Mynediad i Gymru
  • Hysbysebion digidol ar-lein gyda dolenni i brynu cynnyrch o Gymru ar-lein

I ymuno â’r ymgyrch, lawrlwythwch y pecyn cymorth hwn a rhowch drefn ar eich postiadau cyfryngau cymdeithasol - byddai’n wych lliwio’r rhyngrwyd yn GOCH ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi eto eleni.

Marchnad Bwyd a Diod Llundain

Cynhadledd Mewnwelediad 2023: Ymdrechu a Ffynnu

13-16 Mawrth

Cynhadledd Mewnwelediad 2023

Os ydych chi’n cynhyrchu bwyd a diod o Gymru, ymunwch â ni fis Mawrth yng Nghynhadledd Mewnwelediad Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru a chewch fanteisio ar wybodaeth o’r radd flaenaf a fydd yn helpu i’ch busnes ffynnu a llwyddo dan yr amgylchiadau economaidd anodd hyn. Cewch glywed gan brif siaradwyr a phanelwyr a dysgu am y data a’r tueddiadau diweddar yn y farchnad mewn 5 sesiwn wedi’u seilio ar thema, megis y Sefyllfa Economaidd Ddiweddaraf, Allforio, Datblygu Cynnyrch Newydd, Manwerthu a Thu Hwnt i’r Cartref. Yng nghwmni rhestr gyffrous yn cynnwys partneriaid mewnwelediad, Kantar, IGD, CGA a thefoodpeople, peidiwch â cholli’r cyfle. Cofrestrwch i fynychu’r gynhadledd yma: https://cynhadleddmewnwelediad2023.eventbrite.co.uk

Troi gwastraff bwyd yn bŵer i Gymru

Troi gwastraff bwyd yn bŵer i Gymru

Mae’r rhan fwyaf o wastraff bwyd sy’n cael ei ailgylchu yng Nghymru yn cael ei droi’n ynni adnewyddadwy sy’n rhoi pŵer i gartrefi a chymunedau Cymru. Pwerus iawn, ynte? Ac mae modd mynd gam ymhellach. Darllenwch fwy i gael awgrymiadau, ffeithiau a straeon pwerus.

https://www.walesrecycles.org.uk/cy/bydd-wych-ailgylcha

 
 
 

YNGLŶN Â’R CYLCHLYTHYR HWN


E-gylchlythyr cwarterol ar gyfer y diwdiant bwyd a diod gan Is-Adran Fwyd Llywodraeth Cymru. 

Newyddion, digwyddiadau a materion syín berthnasol iín diwydiant.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/bwydadiodcymru

Dilynwch ni ar Twitter:

@BwydaDiodCymru

 

Dilynwch ni ar Instagram:

Bwyd_a_Diod_Cymru

 

Dilynwch ni ar Facebook:

@bwydadiodcymru