Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

3 Chwefror 2023


cycling

Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth


Twristiaeth Gynaliadwy Cymru; diweddaru hidlydd rhestr cynnyrch; Datganiad Ysgrifenedig: Ail Gartrefi a Fforddiadwyedd a’r Cynllun Peilot Cysylltiedig: y diweddaraf ar ôl chwe mis; NODYN ATGOFFA - British Tourism & Travel Show (BTTS): 22-23 Mawrth 2023 – NEC, Birmingham; Llwybrau Cymru – Ymunwch â  ni; COFIWCH - Cynllun trwyddedu newydd arfaethedig i sicrhau tegwch a gwella safon llety ymwelwyr yng Nghymru; Arolwg traciwr teimladau'r DU; Marchnata digidol ar gyfer twristiaeth a lletygarwch – dyddiadau gweminar newydd am ddim; Cynllun Gostyngiad mewn Biliau Ynni newydd i fusnesau; Wythnos Prentisiaethau 2023; Wythnos Cymru yn Llundain 2023; Llywodraeth Cymru am weld 'rhagor o fynediad i gefn gwlad i bawb' wrth i aelodau newydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog dyngu llw; Dydd Miwsig Cymru 2023


Twristiaeth Gynaliadwy Cymru; diweddaru hidlydd rhestr cynnyrch

Ydych chi’n ansicr ble i ddechrau o ran materion cynaliadwyedd? Efallai eich bod wedi dechrau gwneud newidiadau o fewn eich busnes ond eich bod eisiau eu datblygu i’r lefel nesaf? Defnyddiwch ein pecynnau adnoddau defnyddiol sy’n cynnwys cynghorion gwych a chyngor am gyllid ar gyfer ein pum maes craidd sef Dŵr, Gwastraff, Ynni, Trafnidiaeth a’r Gadwyn Gyflenwi.

Rydyn ni hefyd yn addasu ein gwefannau i alluogi’r rheini sy’n chwilio am wyliau, teithiau dydd neu leoliadau cynaliadwy i ddod o hyd i wybodaeth yn haws. Rydyn ni wedi ychwanegu hidlyddion am dwristiaeth gynaliadwy i’r opsiwn chwilio am gynhyrchion ar croeso.cymru, traveltrade.visitwales.com, a meetinwales.com.

Os ydych chi’n cynnig Llogi E-feiciau, E-wefru neu Drosglwyddiadau Trafnidiaeth Gyhoeddus, gallwch dagio eich cofnod drwy’r adnodd gweinyddol ar gyfer cofnodion cynhyrchion. I wneud hyn, ewch i’r pennawd ‘cyfleusterau’ ac yna ticiwch y gwasanaethau rydych chi’n eu cynnig.

Rydyn ni hefyd wedi cysylltu ein cofnodion cynhyrchion gyda Green Tourism a Goriad Gwyrdd. Os ydych chi felly wedi cofrestru gyda’r naill raglen neu’r ddwy, bydd y logo yn ymddangos ar eich cofnod a bydd yn cael ei dagio’n awtomatig yn yr opsiynau hidlo.

Os hoffech ragor o wybodaeth neu rywfaint o gymorth i dagio’r rhain yn eich cofnod, anfonwch e-bost at cronfaddata.cynnyrch@llyw.cymru.


Datganiad Ysgrifenedig: Ail Gartrefi a Fforddiadwyedd a’r Cynllun Peilot Cysylltiedig: y diweddaraf ar ôl chwe mis

Cyhoeddwyd datganiad ysgrifenedig gan Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd, ar 26 Ionawr yn rhoi diweddariad chwe mis ar ail gartrefi a fforddiadwyedd a'r peilot cysylltiedig.

Mae hwn i’w weld ar: Datganiad Ysgrifenedig: Ail Gartrefi a Fforddiadwyedd a’r Cynllun Peilot Cysylltiedig: y diweddaraf ar ôl chwe mis (26 Ionawr 2023) | LLYW.CYMRU.


NODYN ATGOFFA - British Tourism & Travel Show (BTTS): 22-23 Mawrth 2023 – NEC, Birmingham

Mae British Tourism & Travel Show (BTTS) yn gyfle gwych i hyrwyddo eich busnes twristiaeth yn ystod y digwyddiad busnes i fusnes domestig blaenaf ar gyfer y farchnad teithio a thwristiaeth. Disgwylir i’r digwyddiad hwn, a gaiff ei gynnal yn yr NEC yn Birmingham, ddenu 3,000 o brynwyr masnach o’r diwydiant teithio.

Mae Croeso Cymru wedi neilltuo lle ar gyfer 20 pod fel rhan o bafiliwn Cymru ac wedi llwyddo i gytuno ar y gyfradd a ganlyn gyda'r trefnwyr (yn cadw’r pris i chi yr un faint a 2019 unwaith eto):

  • Cyfanswm y gost am un pod ar gyfer partneriaid: £1,500.00 + TAW
  • Dewis ar gyfer 2 bartner ar y mwyaf i rannu pod a'r gost: £750.00 + TAW 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar Digwyddiadau masnach teithio | Drupal (gov.wales) ac os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu, anfonwch e-bost at Lloyd Jones neu ffoniwch 01733 889684.


Llwybrau Cymru – Ymunwch â  ni

Mae Croeso Cymru yn gwahodd ymwelwyr a phobl Cymru i ddilyn llwybrau a chreu eu llwybrau epig eu hunain yng Nghymru yn ystod 2023.

Bydd ymgyrch Llwybrau yn cael ei hysbysebu ar y teledu yng Nghymru a ledled y DU o 9 Ionawr, wedi'i chefnogi gan ymgyrch ddigidol integredig ar yr holl brif blatfformau, yn ogystal â hysbysebion Y Tu Allan i'r Cartref mewn gorsafoedd tanddaearol yn Llundain ac ar y sgrin Motion eiconig yn Waterloo. Mae deunydd ar-lein newydd ac ar ei newydd wedd ar Croeso Cymru ac mae ffilm newydd sydd ar gael yma: Llwybrau Cymru.

Ymunwch â ni.  Mae canllawiau “Llwybrau” ar gael nawr, gyda logo, canllawiau logo a delweddau o ansawdd uchel i bartneriaid yn y diwydiant eu lawrlwytho a’i defnyddio ar gyfer marchnata Llwybrau. Cymerwch olwg a'u lawrlwytho ar Assets: Llwybrau | Visit Wales.

Cewch wybodd mwy yn ein cylchlythyr.


COFIWCH - Cynllun trwyddedu newydd arfaethedig i sicrhau tegwch a gwella safon llety ymwelwyr yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar sefydlu cynllun trwyddedu statudol ar gyfer holl ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru.

Y prif nod yw sicrhau chwarae teg i bob busnes llety ymwelwyr sy'n gweithredu yn y sector. Mae'r pryder ynghylch diffyg tegwch wedi bod yn faes trafod ers amser gyda phryderon nad yw rhai rhannau o'r sector yn cyrraedd nac yn cydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

Cewch wybod mwy a rhannu eich barn gyda ni drwy’r ymgynghoriad ar: Cynllun trwyddedu statudol i ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru.

Daw yr ymgynghoriad i ben ar 17 Mawrth 2023.


Arolwg traciwr teimladau'r DU

Mae canlyniadau'r don ddiweddaraf o arolwg traciwr teimladau'r DU a gynhaliwyd ar 3 - 9 Ionawr 2023 wedi eu cyhoeddi ar wefan VB.

Mae'r canfyddiadau'n dangos bod bwriadau i fynd ar deithiau yn y DU wedi aros yn sefydlog dros y misoedd diwethaf ond eu bod yn uwch na bwriadau teithio ym mis Ionawr y llynedd. Mae bwriadau teithiau yn parhau'n gymharol isel ar gyfer mis Ionawr i fis Mawrth yn nodi marchnad dawel ar gyfer teithiau yn ystod y misoedd nesaf, ond mae bwriadau’n cynyddu o fis Ebrill ymlaen gyda'r lefelau galw presennol ar gyfer teithiau'r DU yn y Gwanwyn a'r Haf yn uwch na’r lefelau a welwyd y llynedd. 


Marchnata digidol ar gyfer twristiaeth a lletygarwch – dyddiadau gweminar newydd am ddim

Mae Cyflymu Cymru i Fusnesau a Croeso Cymru wedi partneru i gynnig gweminar dwy ran AM DDIM, sydd wedi'i deilwra ar gyfer y sector twristiaeth a lletygarwch.

Dysgwch sut i wneud i'ch busnes sefyll allan ar-lein, ymgysylltu â chwsmeriaid newydd, gwneud mwy o adolygiadau, yn ogystal â defnyddio offer digidol fel platfformau archebu ar-lein i redeg eich busnes yn llwyddiannus.

  • Rhan 1: Marchnata digidol ar gyfer twristiaeth a lletygarwch
  • Rhan 2: Rhedeg eich busnes twristiaeth a lletygarwch ar-lein

Cewch wybod mwy a chofrestru ar Marchnata Digidol ac Offer Ar-lein ar gyfer Twristiaeth a Lletygarwch.


Cynllun Gostyngiad mewn Biliau Ynni newydd i fusnesau

Mae Llywodraeth y DU yn cyhoeddi'r Cynllun Gostyngiad mewn Biliau Ynni newydd i fusnesau, elusennau, a'r sector cyhoeddus o fis Ebrill.

Mae manylion llawn am hyn ar gael ar Cynllun Gostyngiad mewn Biliau Ynni newydd i fusnesau | Busnes Cymru (gov.wales).


Wythnos Prentisiaethau 2023

Cynhelir yr Wythnos Prentisiaethau rhwng 6 a 12 Chwefror 2023.

Nod yr wythnos hon yw dathlu a hyrwyddo prentisiaethau yng Nghymru fel llwybr gwerthfawr i waith neu yrfa newydd. a'r buddion a ddaw yn eu sgil i unigolion a chyflogwyr.

Cewch ragor o wybodaeth ar Wythnos Prentisiaethau 2023 | Busnes Cymru (gov.wales).


Wythnos Cymru yn Llundain 2023

Bydd Wythnos Cymru yn Llundain yn cael ei chynnal yn ystod wythnos Dydd Gŵyl Dewi yn Llundain. Digwyddiad blynyddol yw hwn, lle cynhelir gweithgareddau a digwyddiadau i ddathlu a hybu popeth sy’n wych am Gymru.

Mae calendr o ddigwyddiadau wedi’i drefnu rhwng 19 Chwefror a 5 Mawrth 2023, gyda chyfleoedd gwych ar gyfer arddangoswyr a noddwyr.

Mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan Wythnos Cymru yn Llundain.


Llywodraeth Cymru am weld 'rhagor o fynediad i gefn gwlad i bawb' wrth i aelodau newydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog dyngu llw

Mae Llywodraeth Cymru wedi penodi pedwar aelod arbenigol newydd yn aelodau o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, gan gynnwys pobl o gefndiroedd du, anabl a LHDTCi+. Y nod wrth wneud hynny yw sicrhau bod pob llais yn cael ei gynrychioli yng nghynlluniau’r Awdurdod a bod camau i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur yn cael eu cymryd 'ar y cyd'.

Gyda chopa mynydd uchaf De Cymru, Pen-y-Fan, yn gefnlen iddi, cyfarfu’r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, â'r aelodau newydd er mwyn amlinellu’i disgwyliadau a chlywed am weledigaeth yr Awdurdod. Mae wedi nodi pum cenhadaeth sy’n ganolog i waith y Parc: hinsawdd, natur, dŵr, pobl a lleoedd.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Dydd Miwsig Cymru 2023

Bydd Dydd Miwsig Cymru yn digwydd ar 10 Chwefror 2023 ac mae’n dathlu bob math o gerddoriaeth yn yr iaith Gymraeg.  P’un a ydych chi’n hoffi miwsig indi, roc, pync, ffync, gwerin, electronica, hip hop neu unrhyw beth arall, mae miwsig anhygoel yn cael ei greu yn y Gymraeg i chi ei ddarganfod. Mae’r diwrnod yn dathlu pob math o fiwsig Cymraeg.

Cewch ragor o wybodaeth ar Dydd Miwsig Cymru 2023 | Busnes Cymru (gov.wales).



Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).

Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19). 


Ar gyfer cymorth a chyngor penodol i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio, cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000.  Dylech ddarllen gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram