Croeso Cymru yn cyhoeddi Blwyddyn Llwybrau. Pa lwybr a ddewiswch chi yn 2023?
Mae Croeso Cymru yn gwahodd ymwelwyr a phobl Cymru i ddilyn llwybrau a chreu eu llwybrau epig eu hunain yng Nghymru yn ystod 2023.
Mae "Blwyddyn Llwybrau" yn adeiladu ar lwyddiant pum mlynedd â thema Croeso Cymru hyd yn hyn – Antur, Chwedlau, y Môr, Darganfod a'r Awyr Agored. Mae'r blynyddoedd â thema yn cefnogi'r nod strategol o ehangu twristiaeth, cynyddu gwariant a denu ymwelwyr ym mhob tymor, drwy gyflwyno Cymru fel cyrchfan cynhwysol sydd ar agor drwy gydol y flwyddyn.
Mae'r thema Llwybrau yn cael ei harwain gan brofiadau ac mae'n ddigon syml i gynnwys amrediad eang o ddiddordebau o fewn y DU ac yn rhyngwladol. Mae hefyd yn ddigon hyblyg fel y gall partneriaid, cyrchfannau a busnesau twristiaeth, boed yn rhai mawr neu fach, gymryd rhan a'i chefnogi.
Yn y byd ar ôl y pandemig, mae ymchwil yn dangos bod pobl yn ceisio profiadau a arweinir sy'n eu hailgysylltu, boed hynny â threftadaeth, diwylliant, natur neu'r gymuned.
Maen nhw am gael eu hysbrydoli, ac yn chwilio am awgrymiadau rhyng-gysylltiedig wedi'u teilwra – teithiau wedi'u hargymell drostyn nhw yn hytrach na dewisiadau di-ben-draw. Gyda themâu mor amrywiol â Monet (Amgueddfa Cymru) a mynyddoedd, a thraethau a threfi, mae llwybrau ar gyfer pob math o fusnes a rhywbeth at ddant pob ymwelwr.
Yn ogystal â llwybrau eiconig Cymru fel Llwybr Arfordir Cymru, mae'r thema yn annog ymwelwyr i greu eu teithiau eu hunain – gallai’r rhain gynnwys Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO yng Nghymru, gan gynnwys safle mwyaf newydd Cymru, sef Tirwedd Lechi'r Gogledd-ddwyrain; canolfannau beicio mynydd; ardaloedd awyr dywyll; teithiau bwyd; cestyll a llawer mwy.
Wrth lansio Blwyddyn Llwybrau 2023, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
"Nod y flwyddyn hon yw darganfod trysorau wedi'u colli, ymgymryd â theithiau'r synhwyrau a chreu atgofion ar hyd llwybrau sy'n gysylltiedig ag atyniadau, digwyddiadau, tirweddau a'r arfordir.
"Rydyn ni'n dechrau 2023 gydag ymgyrch newydd i wneud yn siŵr bod Cymru yn weladwy, ac i gefnogi'r sector mewn adeg sy'n parhau i fod yn heriol ar gyfer y diwydiant.
"Mae 2023 yn gyfle inni ddathlu llwybrau Cymru, o'r hen rai i'r rhai newydd sbon, ac i agor ein gwlad i bawb ei mwynhau. Rydyn ni'n edrych ymlaen at annog pobl i ymweld â rhannau gwahanol o'r wlad drwy gydol y flwyddyn nesaf".
Bydd ymgyrch Llwybrau yn cael ei hysbysebu ar y teledu yng Nghymru a ledled y DU o 9 Ionawr, wedi'i chefnogi gan ymgyrch ddigidol integredig ar yr holl brif blatfformau, yn ogystal â hysbysebion y tu allan i'r cartref mewn gorsafoedd tanddaearol yn Llundain ac ar y sgrin Motion eiconig yn Waterloo. Mae deunydd ar-lein newydd ac ar wedd newydd ar Croeso Cymru ac mae ffilm newydd sydd ar gael yma: Llwybrau Cymru.
Mae canllawiau “Llwybrau” ar gael nawr, gyda logo, canllawiau logo a delweddau o ansawdd uchel i bartneriaid yn y diwydiant eu lawrlwytho a’i defnyddio ar gyfer marchnata Llwybrau. Cymerwch olwg a'u lawrlwytho ar Assets: Llwybrau | Visit Wales.
Llwybrau i ymweld â nhw yn 2023:
Loving Welsh Food, Caerdydd
Siân Roberts yw perchennog Loving Welsh Food, busnes sy'n hyrwyddo bwyd a diod Cymru drwy deithiau bwyd, gweithdai coginio a chyflwyniadau bwyd. Mae ei theithiau bwyd o amgylch Caerdydd a lleoliadau eraill yng Nghymru yn dangos sefydliadau bwyd annibynnol i dwristiaid a phobl leol, gan greu ymdeimlad cryf o le.
Dywedodd Siân:
"Mae amrediad ein teithiau wedi cynyddu gydag amser, ac rydyn ni'n falch o'r ffordd rydyn ni bob amser wedi gweithio gyda busnesau lleol, annibynnol yn unig. Rydyn ni bellach yn cynnig amrywiaeth o deithiau cerdded, yn ogystal â theithiau car, bws mini a choets."
Cyfoeth Naturiol Cymru
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn rheoli dros 550km o lwybrau cerdded, dros 600km o lwybrau beicio a beicio mynydd, bron 100km o lwybrau rhedeg a thua 30km o lwybrau marchogaeth – i gyd ag arwyddion i ddangos y ffordd. Gyda chymaint o amrywiaeth ar gael, mae ymwelwyr â'i safleoedd yn sicr o fwynhau'r gorau sydd ar gael yng Nghymru ar garreg eu drws.
Dywedodd Clare Pillman, Prif Weithredwr CNC:
"Mae 'na lwybr ar gyfer pob un ohonon ni. Hir neu fyr, yn y mynyddoedd, mewn coedwig neu ar yr arfordir; marchogaeth, rhedeg neu feicio – mae'r cyfan i'w gael ar lwybrau CNC!
"Ac ar gyfer 2023, mae gwahoddiad agored ar gyfer beicwyr, cerddwyr a cheffylau; ac ar gyfer crwydrwyr, anturwyr a chymudwyr i weld popeth sydd ar gael yn ein gwlad.
"Mae'r llwybrau hyn yn lleoedd ar gyfer myfyrio, ymlacio a gweithgareddau hamdden, ac maen nhw'n ein cysylltu ni â'n gilydd yn ogystal â storïau a hanes Cymru. Ond maen nhw hefyd yn darparu llu o fanteision – ar ein cyfer ni, ein plant, a'n cyrff a'n heneidiau.
"Rwy'n edrych ymlaen at ddathlu llwybrau arbennig Cymru – ac i ddarganfod lleoedd newydd i ymweld â nhw drwy gydol y flwyddyn."
Awyr Dywyll – Mynyddoedd Cambria
Mae Llwybrau Seryddol Mynyddoedd Cambria yn llwybrau hunan-dywys sy'n cysylltu rhai o'r lleoliadau awyr dywyll gorau ym Mynyddoedd Cambria (ac o bosibl yn y byd). Mae'n llwybr hygyrch sy'n mynd yn igam-ogam am tua 50 milltir i'r de i'r gogledd, gyda chyfleoedd gwych i weld y Llwybr Llaethog, cawodydd sêr gwib a'r Orsaf Ofod Genedlaethol yn y nos, yn ogystal â golygfeydd seryddol hardd eraill. Mae pobl yn tueddu i wneud y llwybr fesul cam, yn aros mewn lleoliad am noson neu ddwy cyn symud ymlaen i'r nesaf. Mae'n enghraifft wych o lwybr a fyddai'n addas ar gyfer llawer o fusnesau: darparwyr llety, busnesau lletygarwch, darparwyr offer awyr agored/sêr-dremio, arweinwyr teithiau, cwmnïau trafnidiaeth ... a llawer mwy!
Mwy o wybodaeth yma: Mynyddoedd Cambrian #mynyddoeddcambria
Dywedodd Dafydd Wyn Morgan o Fenter Mynyddoedd Cambria:
"Mae Llwybr Seryddol Mynyddoedd Cambria wedi annog llawer o gymunedau, gan gynnwys busnesau twristiaeth a lletygarwch, i groesawu twristiaeth seryddol a diogelu awyr y nos.
"Rydyn ni wedi gweld darparwyr llety yn cynnal digwyddiadau rheolaidd ar gyfer sêr-dremwyr; cynhyrchwyr bwyd a diod yn creu cynhyrchion ar thema bwyd a diod (fel Dark Skies Rum distyllfa Dà Mhìle); a busnesau eraill sy'n harneisio'r cyfleoedd mae awyr dywydd yn eu darparu, gan gynnwys ffotograffiaeth dirwedd yn y nos."
Gellir dod o hyd i ragor o fanylion hefyd ar –
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).
Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19).
Ar gyfer cymorth a chyngor penodol i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio, cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000. Dylech ddarllen gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|