Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

13 Ionawr 2023


Mountain Biking

© James Bowden


Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth


British Tourism & Travel Show (BTTS): 22-23 Mawrth 2023 - NEC, Birmingham; Croeso Cymru yn cyhoeddi Blwyddyn Llwybrau. Pa lwybr a ddewiswch chi yn 2023?; Rhoi gwybod i Croeso Cymru am ddatblygiadau newydd er mwyn tynnu sylw’r Diwydiant Teithio a thu hwnt at eich busnes; Nodyn atgoffa - Britain and Ireland Marketplace: 27 Ionawr 2023 – Intercontinental Llundain, yr O2: Cyfle olaf i gofrestru heddiw!; Y Rhagolygon ar gyfer y Sector Ymwelwyr Rhyngwladol â Chymru; Gweminar Guardians of Grub; Gweminarau diogelwch twbâu twym a phecyn cymorth i ddarparwyr llety; Syrcas fyd-enwog a gŵyl ffuglen drosedd ryngwladol yn dod i Gymru yn 2023; Dyfodol cymunedau Cymraeg: galwad am dystiolaeth.


British Tourism & Travel Show (BTTS): 22-23 Mawrth 2023 - NEC, Birmingham

Mae British Tourism & Travel Show (BTTS) yn gyfle gwych i hyrwyddo eich busnes twristiaeth yn ystod y digwyddiad busnes i fusnes domestig blaenaf ar gyfer y farchnad teithio a thwristiaeth. Disgwylir i’r digwyddiad hwn, a gaiff ei gynnal yn yr NEC yn Birmingham, ddenu 3,000 o brynwyr masnach o’r diwydiant teithio.

Mae Croeso Cymru wedi neilltuo lle ar gyfer 20 pod fel rhan o bafiliwn Cymru ac wedi llwyddo i gytuno ar y gyfradd a ganlyn gyda'r trefnwyr (yn cadw’r pris i chi yr un faint a 2019 unwaith eto):

  • Cyfanswm y gost am un pod ar gyfer partneriaid: £1,500.00 + TAW
  • Dewis ar gyfer 2 bartner ar y mwyaf i rannu pod a'r gost: £750.00 + TAW 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar Digwyddiadau masnach teithio | Drupal (gov.wales) ac os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu, anfonwch e-bost at Lloyd Jones neu ffoniwch 01733 889684.


Croeso Cymru yn cyhoeddi Blwyddyn Llwybrau. Pa lwybr a ddewiswch chi yn 2023?

Mae Croeso Cymru yn gwahodd ymwelwyr a phobl Cymru i ddilyn llwybrau a chreu eu llwybrau epig eu hunain yng Nghymru yn ystod 2023.

Mae "Blwyddyn Llwybrau" yn adeiladu ar lwyddiant pum mlynedd â thema Croeso Cymru hyd yn hyn – Antur, Chwedlau, y Môr, Darganfod a'r Awyr Agored. Mae'r blynyddoedd â thema yn cefnogi'r nod strategol o ehangu twristiaeth, cynyddu gwariant a denu ymwelwyr ym mhob tymor, drwy gyflwyno Cymru fel cyrchfan cynhwysol sydd ar agor drwy gydol y flwyddyn.

Mae'r thema Llwybrau yn cael ei harwain gan brofiadau ac mae'n ddigon syml i gynnwys amrediad eang o ddiddordebau o fewn y DU ac yn rhyngwladol. Mae hefyd yn ddigon hyblyg fel y gall partneriaid, cyrchfannau a busnesau twristiaeth, boed yn rhai mawr neu fach, gymryd rhan a'i chefnogi.

Yn y byd ar ôl y pandemig, mae ymchwil yn dangos bod pobl yn ceisio profiadau a arweinir sy'n eu hailgysylltu, boed hynny â threftadaeth, diwylliant, natur neu'r gymuned.

Bydd ymgyrch Llwybrau yn cael ei hysbysebu ar y teledu yng Nghymru a ledled y DU o 9 Ionawr, wedi'i chefnogi gan ymgyrch ddigidol integredig ar yr holl brif blatfformau, yn ogystal â hysbysebion y tu allan i'r cartref mewn gorsafoedd tanddaearol yn Llundain ac ar y sgrin Motion eiconig yn Waterloo. Mae deunydd ar-lein newydd ac ar wedd newydd ar Croeso Cymru ac mae ffilm newydd sydd ar gael yma: Llwybrau Cymru.

Mae canllawiau “Llwybrau” ar gael nawr, gyda logo, canllawiau logo a delweddau o ansawdd uchel i bartneriaid yn y diwydiant eu lawrlwytho a’i defnyddio ar gyfer marchnata Llwybrau. Cymerwch olwg a'u lawrlwytho ar Assets: Llwybrau | Visit Wales.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar https://content.govdelivery.com/accounts/UKWALES_CY/bulletins/341aff1.


Rhoi gwybod i Croeso Cymru am ddatblygiadau newydd er mwyn tynnu sylw’r Diwydiant Teithio a thu hwnt at eich busnes

Rhowch wybod inni pan fydd gennych unrhyw newyddion a datblygiadau amserol sy'n berthnasol i'r diwydiant teithio hamdden fyd-eang a mwy drwy anfon e-bost i productnews@llyw.cymru.  

Rydym yn defnyddio'r wybodaeth hon i ddiweddaru tudalen newyddion ein gwefannau i’r Diwydiant Deithio a Digwyddiadau Busnes, ac i gasglu’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnyrch ynghyd ar gfer digwyddiadau B2B, ac fel cynnwys ar gyfer ein newyddion Diwydiant Teithio ac e-newyddion a hefyd i’w rannu â chydweithwyr mewn adrannau eraill, ein hasiantaethau a swyddfeydd VisitBritain.

Anfonwch wybodaeth ymhell ymlaen llaw (rydym yn barod yn siarad am 2024 a 2025 gyda gweithredwyr teithio).


Nodyn atgoffa - Britain and Ireland Marketplace: 27 Ionawr 2023 – Intercontinental Llundain, yr O2: Cyfle olaf i gofrestru heddiw!

Mae'r digwyddiad hwn yn dod â'r cynnyrch twristiaeth Prydeinig a Gwyddelig gorau at ei gilydd. Mae'n gyfle i gwrdd â gwneuthurwyr penderfyniadau byd-eang allweddol o brynwyr o ansawdd uchel mewn cyfres o apwyntiadau un-i-un - o weithredwyr teithiau bach pwrpasol i weithredwyr grwpiau, i gyd yn barod i fanteisio ar y cynhyrchion twristiaeth gorau o Brydain ac Iwerddon.  Bydd VisitBritain hefyd yn dod â 100 o brynwyr ychwanegol o farchnadoedd targed yng Ngogledd America ac ar draws Ewrop. 

Mae Croeso Cymru yn falch iawn i bartneru ag ETOA i gynnig disgownt unigryw, gan alluogi partneriaid Croeso Cymru i arbed £200 ar y pris llawn ar gyfer pobl and ydynt yn aelodau drwy ddefnyddio cod gostyngol 23WALBIM wrth gofrestru ar gyfer y digwyddiad. Pris gostyngol: £699 + TAW i’r prif gynrychiolwr. Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru, ewch i: Overview (etoa.org).


Y Rhagolygon ar gyfer y Sector Ymwelwyr Rhyngwladol â Chymru

Yn ddiweddar, cynhaliwyd gweminar ar y cyd â Chymdeithas Gweithredwyr Teithiau Ewrop i drafod y rhagolygon ar gyfer y Sector Ymwelwyr Rhyngwladol â Chymru yn 2023 a thu hwnt.  Gallwch wylio'r recordiad ar weminar ETOA.


Gweminar Guardians of Grub

Guardians of Grub: Becoming a Champion yw siop un stop WRAP ar gyfer gweithwyr lletygarwch a gwasanaeth bwyd proffesiynol sy'n ceisio'r wybodaeth sydd ei angen i arbed arian drwy leihau gwastraff bwyd yn eu busnes.

Gan gyfuno dysgu a datblygu sgiliau gydag archwiliadau gwybodaeth, tystysgrifau ac adrodd data ar sail tystiolaeth, bydd y rhaglen ddysgu ar-lein unigryw hon yn rhoi gwybodaeth i chi a'ch tîm am wastraff bwyd.     Os ydych chi eisiau lleihau eich effaith ar newid hinsawdd, ymunwch â'r gweminar ar 25 Ionawr 2023 i ddysgu am eu cwrs diweddaredig newydd sbon.

I ddarganfod mwy a chofrestru ar gyfer y gweminar rhad ac am ddim https://businesswales.gov.wales/cy/newyddion-blogiau/newyddion/gweminar-guardians-grub.


Gweminarau diogelwch twbâu twym a phecyn cymorth i ddarparwyr llety

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae'r galw gan ddefnyddwyr wedi arwain at gynnydd sylweddol yn nifer y llety gwyliau sydd bellach yn cynnig twbâu twym.

Gall rhedeg a defnyddio twba twym mewn llety i westeion arwain at rai heriau ac mae angen i berchnogion wneud eu hymchwil a bod yn gwbl ymwybodol o'u cyfrifoldebau.

Datblygwyd yr adnoddau hyn gan Bartneriaeth Gwell Busnes i Bawb Calon y De-orllewin gyda help gan Gymdeithas Broffesiynol Hunan-arlwywyr y UK ac wedi'u hariannu gan y Swyddfa Diogelwch a Safonau Cynhyrchion.

Maent wedi creu pum gweminar bach a phecyn cymorth i helpu darparwyr llety i ddeall y camau sydd eu hangen eu cymryd i sicrhau bod amgylchedd twba twym yn ddiogel i westeion ac i berchnogion, staff a chontractwyr sy'n cynnal twbâu twym.

Mae mwy o fanylion ar gael ar: Hot Tub Safety Webinars and Toolkit for accommodation providers - Trading Standards Service (devonsomersettradingstandards.gov.uk).


Syrcas fyd-enwog a gŵyl ffuglen drosedd ryngwladol yn dod i Gymru yn 2023

Mae syrcas gyfoes fyd-enwog yn dod i Abertawe a bydd gŵyl ffuglen drosedd ryngwladol yn cael ei chynnal yn Aberystwyth yn 2023, diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r Pentref Syrcas yn dod i Abertawe am y tro cyntaf, dan arweiniad y syrcas sydd wedi ennill bri rhyngwladol, NoFit State Circus, mewn partneriaeth â chwmnïau ac artistiaid syrcas blaenllaw, a bydd gŵyl ffuglen drosedd ryngwladol yn Aberystwyth yn derbyn cyllid gan Digwyddiadau Cymru ar gyfer datblygu’r digwyddiadau.

Am ragor o fanylion, ewch i Syrcas fyd-enwog a gŵyl ffuglen drosedd ryngwladol yn dod i Gymru yn 2023 | LLYW.CYMRU.


Dyfodol cymunedau Cymraeg: galwad am dystiolaeth

Mae’r Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn gofyn am dystiolaeth am sut gellir cryfhau cymunedau Cymraeg.

Mae’r Alwad am Dystiolaeth yn ceisio:

  • cynnull ynghyd gwybodaeth a thystiolaeth am gymunedau Cymraeg
  • hel syniadau a barn am sut gellid eu cryfhau
  • cynorthwyo’r Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn ei waith o lunio argymhellion i Lywodraeth Cymru

Mae rhagor o fanylion ar gael ar:

Dyfodol cymunedau Cymraeg: galwad am dystiolaeth | LLYW.CYMRU.


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).

Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19). 


Ar gyfer cymorth a chyngor penodol i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio, cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000.  Dylech ddarllen gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram