Newyddlen Bwyd a Diod Cymru - Mehefin 2022

Mehefin 2022 • Rhifyn 023

 
 

Newyddion

Allforion bwyd a diod o Gymru yn cyrraedd y lefel uchaf erioed

Bwletin Allforio Bwyd a Diod

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths wedi cyhoeddi bod allforion bwyd a diod o Gymru wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed yn 2021 gan gyrraedd £641m.

Cymru hefyd oedd â'r cynnydd canrannol mwyaf yng ngwerth allforion bwyd a diod o bedair gwlad y DU rhwng 2020 a 2021 gan godi £89 miliwn, twf o 16.1%.

Andy Richardson

Nodyn gan Gadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru - Mehefin 2022

Yr ydym yn awr hanner ffordd drwy flwyddyn heriol arall. Y newyddion da yw bod ein diwydiant yn ymdopi â'r heriau di-baid a achosir gan "storm berffaith" Brexit, COVID a'r sefyllfa yn Wcráin. Er gwaethaf hyn, gwn mai goroesi yn unig y mae llawer o fusnesau ac rwy'n clywed adroddiadau'n gyson bod pethau'n anodd, ei bod yn her trosglwyddo costau cynyddol i gwsmeriaid, ac wrth gwrs mae gweithwyr yn parhau i fod yn brin.

Infographics Food and Drink

Gwerthusiad Economaidd: Y sector Bwyd a Diod

Mae’r Gwerthusiad Economaidd yn rhoi gwybodaeth am berfformiad y sector Bwyd a Diod yng Nghymru, gan gynnwys trosiant, gwaith, cyfrifon busnes, allforion a mwy, ar draws y prif is-sectorau bwyd a diod.   

Strategaeth Bwyd Cymunedol

Strategaeth Bwyd Cymunedol

Mae Rhaglen Lywodraethu 2021 i 2026 Llywodraeth Cymru a’r Cytundeb Cydweithredu, yn ymrwymo i ddatblygu Strategaeth Bwyd Cymunedol Cymru i annog cynhyrchu a chyflenwi bwyd o ffynonellau lleol yng Nghymru.

Rydym ni wedi cynnal dau arolwg i gasglu barn ar ddatblygiad y Strategaeth Bwyd Cymunedol, y cyntaf ar gyfer defnyddwyr a'r ail ar gyfer rhanddeiliaid sy'n ymwneud â mentrau bwyd cymunedol.

Maggie Ogunbwno

Llyfr ryseitiau cymuned pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig Cymru yn cael ei enwi fel y gorau yn y byd

Mae casgliad o ryseitiau sy’n dod â bwydlen o brydau o bob rhan o’r byd ynghyd i ddathlu amrywiaeth cymuned pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig Cymru wedi ennill gwobr fyd-eang adnabyddus. Mae ‘The Melting Pot’ gan Maggie Ogunbanwo, wedi ennill gwobr Y Gorau yn y Byd yn y Gwobrau Gourmand World Cookbook yn y categori mudwyr.

Leadership and Management

Helpu busnesau bwyd a diod i arwain y ffordd

Mae Sgiliau Bwyd Cymru yn gweithio gyda nifer o ddarparwyr hyfforddiant i gynnig y cyfle i fusnesau yn y diwydiant prosesu a gweithgynhyrchu bwyd a diod yng Nghymru ddatblygu eu sgiliau Arwain a Rheoli.

Pwrpas y cwrs hyfforddi yw rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfranogwyr er mwyn datblygu eu hunain fel arweinwyr tîm, rheolwyr neu oruchwylwyr.

Llywodraeth Cymru

Beth sydd gan Swyddog Ymgysylltu â Chyflogwyr Llywodraeth Cymru i'w gynnig i'ch busnes?

Gall Swyddog Ymgysylltu â Chyflogwyr Llywodraeth Cymru weithio gydag unrhyw fath a maint o fusnes sydd naill ai wedi recriwtio mudwyr neu sy'n ystyried y fenter newydd hon ond sydd ag amheuon ynghylch y broses.

Department of International Trade

RHYBUDD - byddwch yn fwy gwyliadwrus.  Cyfleoedd sgam gan gwmnïau o Ffrainc

Mae'r Adran Masnach Ryngwladol yn Ffrainc wedi cael gwybod am nifer cynyddol o gwmnïau yn y DU (ond nid yn unig) sy'n cael eu targedu gan sgamiau cyflenwi soffistigedig.

Cysylltir â chwmnïau gan bobl sy'n honni eu bod yn gweithio i sefydliad dosbarthu Ffrangeg (yn bennaf y rhai sy'n gweithio i hyperfarchnadoedd nad ydynt yn integredig fel Leclerc), sydd am werthu eu nwyddau yn Ffrainc a cheisio gosod gorchymyn na fydd byth yn cael ei dalu.

Digwyddiadau

Rhaglen Digwyddiadau Masnach Bwyd a Diod 2022 -2023

Calendr Digwyddiadau Bwyd a Diod

Am rhagor o wybodaeth gweler Digwyddiadau Masnach / Rhaglen Ymweliadau y DU a Rhyngwladol 2022 - 2023 

Digwyddiad Datblygu Gwlad

Digwyddiad cyntaf Rhwydwaith Gwledig Cymru i’w gynnal ‘yn y cnawd’ ers 2019 yn llwyddiant ysgubol!!

Mae Rhwydwaith Gwledig Cymru yn falch o lwyddiant y digwyddiad a gynhaliwyd ar Faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd yr wythnos diwethaf.
Cafodd dros 360 o gynrychiolwyr groeso dros y digwyddid deuddydd, a bu mwy na 30 o brosiectau yn arddangos eu gwaith.

Sgiliau Diwydiant Bwyd Cymru

Parth Gyrfaoedd Bwyd a Diod yn Sioe Frenhinol Cymru (18-21 Gorffennaf 2022)

Mae tair blynedd wedi mynd heibio ers i ni agor ein drysau i ddarpar newydd-ddyfodiaid i’r diwydiant bwyd a diod yn Sioe Frenhinol Cymru ond erbyn hyn rydym yn ôl yn well nag erioed ac am ymuno â llawer o bartneriaid gan gynnwys cyflenwr mwyaf Cymru o gynnyrch Cymreig, sef Puffin Produce Sir Benfro.

Digwyddiad Cyllid

PA FATH O GYLLID?

SYDD YN IAWN I'CH BUSNES BWYD NEU DDIOD GYMREIG

Ymunwch â’r digwyddiad Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy hwn i ddysgu ac ymgyfarwyddo â byd cymhleth cynhyrchion cyllid. Bydd hyn yn eich galluogi chi fel perchnogion/rheolwyr busnes i ddewis y fath o gyllid mwyaf priodol a chost effeithiol ar gyfer anghenion eich busnes.

World Cheese Awards 2022

WORLD CHEESE AWARDS 2022 - CADW'R DYDDIAD (Saesneg yn unig)

Gydag emosiynau cymysg, ond gyda balchder a chyffro enfawr, yr ydym yn mynd â rhifyn 2022 o Wobrau Caws y Byd i Gymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Edrychwn ymlaen at eich gweld yn ymuno â ni ym mis Tachwedd gyda'ch ceisiadau eleni yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru

SIAL Paris

Taith Fasnach ac Arddangosfa i SIAL, Paris 2022

Mae recriwtio yn dal i fod yn agored i'w arddangos gyda Llywodraeth Cymru o dan y fanner Bwyd a Diod Cymru yn sioe SIAL, Paris 15 - 19 Hydref 2022. 
 
 
 

YNGLŶN Â’R CYLCHLYTHYR HWN


E-gylchlythyr cwarterol ar gyfer y diwdiant bwyd a diod gan Is-Adran Fwyd Llywodraeth Cymru. 

Newyddion, digwyddiadau a materion syín berthnasol iín diwydiant.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/bwydadiodcymru

Dilynwch ni ar Twitter:

@BwydaDiodCymru

 

Dilynwch ni ar Instagram:

Bwyd_a_Diod_Cymru

 

Dilynwch ni ar Facebook:

@bwydadiodcymru