Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ar y Coronafeirws ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.
CYNNWYS BWLETIN: Wythnos Prentisiaethau 7-13 Chwefror 2022: Beth Am Gymryd Rhan; Cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Twristiaeth a Lletygarwch Cymru : 7 Chwefror yw’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau; Cronfa Pethau Pwysig 2022-2023 (cylch Awdurdodau Lleol a Pharciau Cenedlaethol); Cyfraith smygu yn newid o 1 Mawrth ymlaen; Hawlfraint: Tethau y dylech wybod; Cadwch Gymru’n Daclus – Ardaloedd Di-sbwriel; Cylch 3 Cronfa Adferiad Diwylliannol Cymru; Cynllun Ad-daliad Tâl Salwch Statudol; Gofalwch fod gennych chi’r cyfleusterau iawn yn y gweithle; NEGESEUON ATGOFFA COVID-19 - Lefel rhybudd 0, Pàs COVID y GIG: pecyn hyrwyddo, Diogelu Cymru –yn y gwaith; Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19.
Wythnos Prentisiaethau 7-13 Chwefror 2022: Beth Am Gymryd Rhan
Mae’r Wythnos Prentisiaethau yn ddathliad dros wythnos gyfan o brentisiaethau, a sut y gallai cyflogwyr a dysgwyr ar draws Cymru elwa arnynt.
Dyma gyfle i fusnesau twristiaeth, lletygarwch a digwyddiadau ar draws Cymru gymryd rhan a dathlu prentisiaid sy’n gweithio o fewn y diwydiant.
Mae pecyn cymorth ar gael sy’n cynnwys gwybodaeth am brentisiaethau ar gyfer cyflogwyr ac unigolion, ynghyd â syniadau ac adnoddau y gallwch eu defnyddio a’u rhannu er mwyn cefnogi’r Wythnos Prentisiaethau.
Sut bynnag y byddwch yn cymryd rhan yn yr wythnos, beth am rannu eich gweithgareddau drwy eich sianeli cyfathrebu, gan gynnwys eich cylchlythyrau, negeseuon at randdeiliaid a’r cyfryngau cymdeithasol – gan ddefnyddio’r hashnodau #WPCymru a #creuwyrprofiad a chofiwch ein tagio ar @CroesoCymruBus / @VisitWalesBiz.
Mae rhagor o fanylion ar gael ar:
Cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Twristiaeth a Lletygarwch Cymru : 7 Chwefror yw’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Mae swydd wag ar gyfer Cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Twristiaeth a Lletygarwch Cymru, a sefydlwyd i nodi materion sy'n ymwneud â hyfforddi, datblygu a chadw staff yn y sectorau Twristiaeth a Lletygarwch yng Nghymru ac i hyrwyddo atebion i'r asiantaethau perthnasol.
Ar hyn o bryd mae'r Bartneriaeth o dan arweiniad y diwydiant yn cyfarfod bob chwarter ac mae'n cynnwys Croeso Cymru, sydd hefyd yn darparu swyddogaeth yr Ysgrifenyddiaeth.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar: CADEIRYDD_PARTNERIAETH_SGILI.pdf (ymaws.com). Dyddiad cau 5pm, dydd Llun 7 Chwefror 2022.
Cronfa Pethau Pwysig 2022-2023 (cylch Awdurdodau Lleol a Pharciau Cenedlaethol)
Mae Pethau Pwysig yn gronfa gyfalaf i gyflawni gwelliannau sylfaenol i seilwaith twristiaeth ar raddfa fach ledled Cymru er mwyn sicrhau bod pob ymwelydd yn cael profiad cadarnhaol a chofiadwy drwy gydol bob agwedd ar eu harhosiad.
Bydd Cronfa Pethau Pwysig 2022-23 yn blaenoriaethu buddsoddiad strategol mewn cyrchfannau twristiaeth allweddol ac o ganlyniad dim ond i Awdurdodau Lleol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol y bydd yn agored.
Mae ffurflenni Mynegi Diddordeb bellach ar gael: Dyddiad cau 4 Mawrth 2022.
Am fwy o wybodaeth gweler: Cyllid | Drupal (gov.wales).
Cyfraith smygu yn newid o 1 Mawrth ymlaen
Mae cyfreithiau smygu newydd yn cael eu cyflwyno yng Nghymru sy’n effeithio ar y diwydiant twristiaeth.
O 1 Mawrth 2022, rhaid i westai, tai llety, tafarndai, hostelau a chlybiau aelodau fod yn ddi-fwg ac ni fyddant bellach yn cael cynnig ystafelloedd smygu dynodedig.
Ni chaniateir smygu mewn unrhyw lety gwyliau a llety dros dro hunangynhwysol, fel bythynnod, carafannau, cabanau gwyliau ac unrhyw lety gosod tymor byr arall. I baratoi ar gyfer cyflwyno’r gofynion newydd ar 1 Mawrth 2022, felly, dylai pob perchennog fod wedi mynd ati i newid unrhyw letyau/ystafelloedd smygu dynodedig yn rhai di-fwg. Ar ôl y dyddiad hwn bydd yn erbyn y gyfraith i smygu yn yr ardaloedd hyn, a gellir rhoi dirwyon.
Mae rhagor o wybodaeth am sut y mae’r newidiadau hyn yn effeithio ar y diwydiant twristiaeth Deddfwriaeth ddi-fwg: canllawiau ar y newidiadau o fis Mawrth 2021 [HTML] | LLYW.CYMRU.
Hawlfraint: Tethau y dylech wybod
Mae hawlfraint yn faes cyfreithiol cymhleth. Mynnwch gip ar rai awgrymiadau i’ch helpu i gadw’n ddiogel wrth hyrwyddo’ch busnes: Hawlfraint PDF.
Cadwch Gymru’n Daclus – Ardaloedd Di-sbwriel
Fel rhan o Caru Cymru, mae Ardaloedd Di-Sbwriel wedi'u lansio - cynllun newydd a gynlluniwyd i annog busnesau i gadw eu cymunedau'n ddi-sbwriel.
Gofynnir i fusnesau ledled Cymru fabwysiadu ardaloedd penodol i’w glanhau'n rheolaidd a'r gobaith yw y bydd busnesau o bob math a maint yn cymryd rhan.
Dysgwch fwy am Ardaloedd Di-sbwriel - Keep Wales Tidy - Caru Cymru.
Cylch 3 Cronfa Adferiad Diwylliannol Cymru
Mae trydydd cylch Cronfa Adferiad Diwylliannol Cymru ar agor i geisiadau gan fusnesau o’r sectorau digwyddiadau, creadigol a threftadaeth.
Bydd angen dychwelyd ceisiadau erbyn dydd Gwener 11 Chwefror 2022.
Mae rhagor o fanylion ar gael ar: Cronfa Adferiad Diwylliannol Cymru yn agor i ymgeiswyr newydd | Busnes Cymru (gov.wales).
Cynllun Ad-daliad Tâl Salwch Statudol
Os ydych yn gyflogwr sydd â llai na 250 o weithwyr, a'ch bod wedi talu Tâl Salwch Statudol i'ch gweithwyr am absenoldebau sy'n gysylltiedig â salwch neu hunanynysu sy'n gysylltiedig â'r coronafeirws, gallech fod yn gymwys i gael cymorth.
Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.
Gofalwch fod gennych chi’r cyfleusterau iawn yn y gweithle
Mae’n rhaid i chi ddarparu’r cyfleusterau iawn i bawb yn eich gweithle, gan gynnwys pobl ag anableddau.
Mae’n rhaid i chi fod â’r canlynol:
- cyfleusterau lles – y nifer cywir o doiledau a basnau ymolchi, dŵr yfed a rhywle i orffwys a bwyta pryd
- amgylchedd gwaith iach – gweithle glân gyda thymheredd gwaith rhesymol, awyru da, goleuadau addas a digon o le a seddi
- gweithle diogel – cyfarpar yn cael ei gadw mewn cyflwr da, dim rhwystrau ar loriau a llwybrau traffig, a bod modd agor a glanhau’r ffenestri yn hawdd
Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.
NEGESEUON ATGOFFA COVID-19:
Lefel rhybudd 0
Y mesurau perthnasol ar gyfer lefel rhybudd 0:
Pàs COVID y GIG: pecyn hyrwyddo
Mae gwybodaeth am sut mae’n rhaid i fusnesau a threfnwyr digwyddiadau wirio statws COVID-19 eu cwsmeriaid i’w gweld yn Llyw.Cymru.
Gallwch lawrlwytho Pàs COVID y GIG: pecyn hyrwyddo o Llyw.Cymru. Anogir busnesau i arddangos a rhannu'r posteri, lluniau a fideos hyn i hyrwyddo ac esbonio Pàs COVID y GIG
Diogelu Cymru – yn y gwaith
Os ydych chi'n ystyried beth sydd angen i chi ei wneud i gadw'ch gweithlu'n ddiogel yn y gwaith, ewch i wefan Busnes Cymru am ganllawiau manwl, enghreifftiau ac adnoddau.
Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19
Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw. Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf.
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (gov.wales)
Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19).
Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|