Wythnos Prentisiaethau 7-13 Chwefror 2022: BETH AM GYMRYD RHAN
Mae’r Wythnos Prentisiaethau yn ddathliad dros wythnos gyfan o brentisiaethau, a sut y gallai cyflogwyr a dysgwyr ar draws Cymru elwa arnynt.
Caiff cyflogwyr ar draws pob sector eu hannog i hyrwyddo gwaith gwych eu prentisiaid, a hefyd dynnu sylw at yr holl fanteision y gall prentisiaid eu cynnig i fusnesau.
Bydd prentisiaid, sydd ar bob cam o’u taith ddysgu, yn cael eu dathlu yn ystod yr Wythnos Prentisiaethau.
Dyma gyfle i fusnesau twristiaeth, lletygarwch a digwyddiadau ar draws Cymru gymryd rhan a dathlu prentisiaid sy’n gweithio o fewn y diwydiant.
Mae pecyn cymorth ar gael sy’n cynnwys gwybodaeth am brentisiaethau ar gyfer cyflogwyr ac unigolion, ynghyd â syniadau ac adnoddau y gallwch eu defnyddio a’u rhannu er mwyn cefnogi’r Wythnos Prentisiaethau. Edrychwch ar Wythnos Prentisiaethau 2022 Pecyn Cymorth CYMRU.pdf (llyw.cymru).
Mae’r syniadau’n cynnwys –
- Pwyslais ar brentis rydych yn ei gyflogi, neu brentis blaenorol sydd bellach yn aelod o staff amser llawn
- Os oes gennych fwy nag un prentis, dewiswch un bob dydd, gan dynnu sylw at swyddi o fewn y cwmni, y gwahaniaeth y mae prentisiaid wedi’i wneud i’ch tîm ac i’r busnes yn gyffredinol
- Creu fideo, blog neu neges ar gyfer y Cyfryngau cymdeithasol er mwyn rhannu eich sylwadau neu gallwch ofyn i’ch prentis reoli eich sianel ar y cyfryngau cymdeithasol am ddiwrnod fel y gall adrodd ei stori.
Sut bynnag y byddwch yn cymryd rhan yn yr wythnos, beth am rannu eich gweithgareddau drwy eich sianeli cyfathrebu, gan gynnwys eich cylchlythyrau, negeseuon at randdeiliaid a’r cyfryngau cymdeithasol – gan ddefnyddio’r hashnodau #WPCymru a #creuwyrprofiad a chofiwch ein tagio ar @CroesoCymruBus / @VisitWalesBiz.