Cynllun Grant Llywodraeth Cymru nawr yn Fyw ar gyfer Ariannu Achredu Bwyd
Fel rhan o'r Rhaglen Lywodraethu, mae Llywodraeth Cymru am gefnogi cynhyrchwyr / cyflenwyr bwyd a diod lleol a'i gwneud yn haws iddynt fanteisio ar gyfleoedd cadwyn cyflenwi bwyd y sector cyhoeddus drwy gael yr achrediad diogelwch bwyd angenrheidiol. Mae Llywodraeth Cymru yn agor cynllun grant byr, a weinyddir gan Menter a Busnes, i ariannu naill ai achrediadau SALSA neu STS ar gyfer busnesau bwyd a diod BBaCh yng Nghymru. Bydd yr achrediadau hyn yn gwella cystadleurwydd sector Bwyd a Diod Cymru, yn enwedig o ran caffael yn y sector cyhoeddus a chadwyni cyflenwi cysylltiedig.
Mae'r cynllun hwn yn rhan o'r gronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol, ymrwymiad gan y Rhaglen Lywodraethu a gynhelir gan adran yr Economi Sylfaenol, gyda'r nod o helpu busnesau bach a chanolig yng Nghymru i oresgyn y rhwystrau y maent yn eu hwynebu wrth wneud busnes gyda'r sector cyhoeddus. Drwy ariannu achrediad i gwmnïau o Gymru, y gobaith yw y gallwn gynyddu faint o fwyd o Gymru sydd ar "blatiau cyhoeddus", lleihau cadwyni cyflenwi i leihau allyriadau carbon a chynyddu nifer y cyflenwyr bwyd sydd wedi'u gwreiddio yng Nghymru.
Mae'r cyllid hwn ar wahân i'r rhaglen HELIX, sy'n cael ei rhedeg gan Arloesi Bwyd Cymru, sy'n cynnig amrywiaeth o gymorth technegol a masnachol i fusnesau bwyd Cymru i baratoi ar gyfer cynnal yr archwiliad -
https://foodinnovation.wales/cefnogaeth-wedii-hariannu/?lang=cy
Cymhwysedd
Rhaid i ymgeiswyr fod yn fusnes bwyd a diod o Gymru sy'n fenter micro, bach neu ganolig [Diffiniad o BBaCh – llai na 250 o weithwyr a throsiant blynyddol o dan €50 miliwn (£42m) ] h.y. busnes sy'n ymwneud yn bennaf â chynhyrchu a dosbarthu nwyddau bwytadwy, ac sy'n gallu dangos bod eu prif bresenoldeb gweithredol yng Nghymru. Nid yw ymgeiswyr sydd yn bennaf yn ymwneud a chynhyrchu neu ddosbarthu diodydd alcoholic yn gymwys ar gyfer cefnogaeth drwy'r cynllun hwn.
I gyflwyno cais am gyllid, ewch i GwerthwchiGymru i gael mynediad i'r ffurflen gais a Rheolau'r Cynllun. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 20 Ionawr 2022.
|