Rhwydwaith Gwledig Cymru News Round-up 2021 Rhifyn 09: Rhagfyr 2021

Rhifyn 09: Rhagfyr 2021

 
 

Uned Cymorth Rhwydwaith Gwledig Cymru

xmas

Nadolig Llawen gennym ni oll yn WRNSU a croeso i Gylchlythyr mis Rhagfyr

Wel mae wedi bod ychydig fisoedd ers ein Cylchlythyr 'Newyddion' diwethaf ond rydyn ni’n gobeithio eich bod wedi mwynhau ein Cylchlythyrau 'Dathlu Gwledig'.

Fel y gwelwch yn y Cylchlythyrau dathlu, yma yn yr Uned Cymorth Rhwydwaith, rydyn ni’n brysur yn gwneud llawer o gynlluniau ar gyfer pethau newydd cyffrous.

Dathlu Cynhadledd Wledig 2022

Mae Rhwydwaith Gwledig Cymru yn cynllunio dychwelyd i normal gyda’r gynhadledd ‘gorfforol’ gyntaf ers 2019.

Ar 9 a 10 Mehefin 2022, bydd digwyddiad na welwyd ei debyg o’r blaen yn cael ei gynnal bydd digwyddiad na welwyd ei debyg o’r blaen yn cael ei gynnal yn Neuadd Fwyd Sioe Frenhinol Cymru ar Faes y Sioe yn Llanfair-ym-Muallt.
Bydd yn gynhadledd gyffrous a rhyngweithiol a fydd yn dathlu llwyddiannau’r hyn sydd wedi’i ariannu gan y Rhaglen Datblygu Gwledig.

Felly cadwch y dyddiad yn eich dyddiadur nawr!

Ymgyrch Dathlu Cefn Gwlad

Wrth i ni nesáu at flynyddoedd olaf Rhaglen Datblygu Gwledig derfynol yr UE, mae'n amser delfrydol i edrych yn ôl ar rai o lwyddiannau hyn a rhaglenni eraill dros y blynyddoedd a dathlu'r gwahaniaeth y mae'r cyllid wedi'i wneud i dirwedd wledig wych Cymru a'r cymunedau sy'n ffynnu ynddi.

Rydym wedi penodi contractwr arbenigol sy'n gweithio ar ymgyrch hyrwyddo ysbrydoledig sy'n rhedeg ochr yn ochr a thu hwnt i'r digwyddiad dathlu.

Rydym yn chwilio am astudiaethau achos; straeon; lluniau fideo o unrhyw gynllun i'w cynnwys yn yr ymgyrch. Os oes gennych unrhyw beth i'w rannu, anfonwch e-bost atom yn ruralnetwork@gov.cymru.

Gwefan WRN

Yn y Flwyddyn Newydd byddwn yn lansio ein tudalennau newydd ar y wefan. Mae'r rhain yn cynnwys meysydd newydd sbon ynghyd ag ail-ddylunio rhannau o’r safle presennol. Dwi’n siŵr y byddwch yn ei hoffi a byddwn mewn sefyllfa i ddod o hyd i bopeth y mae angen i chi ei wybod am Ddatblygu Gwledig ar flaenau eich bysedd.

Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020

glastir

Contractau Glastir

Os oes disgwyl i'w contractau ddod i ben ar 31 Rhagfyr 2021, bydd pobl gymwys sydd â chontract Glastir Uwch, Tir Comin Glastir a Glastir Organig yn cael cynnig estyniadau. Mae RPW wedi ychwanegu llythyrau at gyfrifon ar-lein RPW gyda rhagor o fanylion. Bydd angen ichi wirio’ch cyfrifon RPW Ar-lein yn rheolaidd i wneud yn sicr eich bod yn gweithredu mewn modd amserol.

Ffermio a Chefn Gwlad

bps

Cynnydd yng ngwerthoedd hawliau BPS

Mae hawliau BPS 2021 wedi cynyddu mewn gwerth ar ôl ystyried gwerth hawliau heb eu hawlio a chyllideb y Gronfa Genedlaethol heb ei neilltuo yn 2021. Bydd cwsmeriaid sydd wedi derbyn taliad ymlaen llaw yn gweld y cynnydd hwn yn cael ei adlewyrchu yn Natganiad Hawliau eu llythyr talu ymlaen llaw 2021. Bydd y rhai nad ydynt wedi derbyn taliad ymlaen llaw yn cael y cynnydd hwn pan wneir eu taliad llawn.

Taliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) 2021

Yn amodol ar gwblhau'r broses o ddilysu'ch hawliad yn llawn, bydd taliadau balans BPS 2021 neu taliadau llawn ar gyfer y rhai nad ydynt wedi derbyn taliad ymlaen llaw, wedi dechrau o’r Ddydd Mercher, 15 Rhagfyr 2021.

Cynllun y Taliad Sylfaenol: canllawiau ar Drosglwyddo Hawliau – RPW Ar-lein

Mae y cyfleuster hysbysu am drosglwyddo ar gyfer 2022 ar gael nawr ar RPW Ar-lein. Mae’n rhaid i RPW gael gwybod erbyn 15 o Fai2022 os yw’r sawl sy’n eu derbyn am hawlio taliad arnyn nhw ym mlwyddyn cynllun BPS 2022.

small farm

Deall cymhellion ffermwyr: ffermydd bach a bach iawn

Mae'r adroddiad sy'n cynnwys canfyddiadau'r darn hwn o ymchwil gymdeithasol bellach ar gael. 

event

Hyfforddiant digwyddiadau gwledig - Sut i gynllunio a rheoli sioe neu ddigwyddiad diogel a llwyddiannus

Mae cwrs hyfforddi 'digwyddiad gwledig' ar-lein newydd yn cael ei lansio i gynorthwyo trefnwyr digwyddiadau amaethyddol, chwaraeon, diwylliannol a chymdeithasol ledled y DU i baratoi ar gyfer y 'normal' newydd.
Bydd y cwrs yn helpu'r rhan bwysig hon o fywyd gwledig ar ôl i lawer o ddigwyddiadau gael eu canslo oherwydd y pandemig coronafeirws, sydd wedi cael effaith

Cyswllt Ffermio

fc

Mae’r cyfnod ymgeisio am gyllid sgiliau Cyswllt Ffermio yn agor rhwng 3 – 28 Ionawr 2022

Ymgeisiwch i ddatblygu eich sgiliau, datblygu eich busnes a cynllunio ar gyfer y dyfodol:

  • mae cymhorthdal o hyd at 80% ar gael ar gyfer cyrsiau hyfforddiant i unigolion sydd wedi cofrestru
  • mae mwy na 70 o gyrsiau ar gael, dan gategorïau ‘Busnes’, ‘Tir’ a ‘Da Byw’
  • rhwydwaith o ddarparwyr hyfforddiant cymeradwy wedi’u lleoli ledled Cymru

Am rhestr lawn o gyrsiau neu am gymorth ar sut i ymgeisio, cysylltwch â’ch swyddog datblygu lleol, Canolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813.

Rhaglen TGCh Cyswllt Ffermio

Mae Rhaglen TGCh Cyswllt Ffermio yn dod i ben ddiwedd mis Rhagfyr 2021, felly rydym yn annog pawb i ddefnyddio'r hyfforddiant cyfrifiadurol a ariennir yn llawn nawr cyn ei derfyn:

  • anogir y rhai sydd â diddordeb mewn gwella eu sgiliau cyfrifiadurol i archebu lle cyn gynted â phosibl, er mwyn osgoi cael eu siomi, gan fod lleoedd yn gyfyngedig
  • mae'r cyrsiau sydd ar gael yn ystod mis Rhagfyr yn cynnwys cyrsiau sylfaenol a chanolradd Microsoft Excel a'r cwrs gloywi Cyfryngau Cymdeithasol

Cyswllt Fffermio yn eich helpu chi i gyflawni net-sero

Gyda'r uwchgynhadledd COP26 drosodd, rhaid i’r Byd ddechrau weithredu i cyflawni'r targed o sero-net erbyn 2050. Eisoes yn gwneud cyfraniad cadarnhaol, gall ein diwydiant fynd ymhellach ac mae Cyswllt Ffermio yma i helpu pob busnes ffermio a choedwigaeth yng Nghymru ar eu taith.

Coetiroedd a Choedwigaeth

forest

Coedwig Genedlaethol Cymru

Rwy'n ysgrifennu atoch i ddweud wrthych am gyfle i bob cartref yng Nghymru. Gan gydweithio â Coed Cadw, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio menter i gynnig cyfle i bob cartref yng Nghymru blannu coeden frodorol yn eu gardd, neu gael coeden wedi'i phlannu ar eu rhan.

Yr Amgylchedd

lemmish

Dewch i gwrdd â'r ffermwr o Fflandrys sy'n arbrofi ar ran y Fargen Werdd

TEMSE, Gwlad Belg — Os ydych am wybod a yw Bargen Werdd flaenllaw'r UE yn gwneud synnwyr yn y byd go iawn y tu allan i swyddfeydd ym Mrwsel, dylech gadw llygad ar Kris Heirbaut a'i fferm yng ngogledd Gwlad Belg.

(Saesneg yn Unig)

Datblygu Lleol dan Arweiniad y Gymuned

carmarthen

Sir Gaerfyrddin

Y mis hwn, ein hardal Datblygu Lleol dan sylw yw Sir Gaerfyrddin.

Mae'r rhaglen LEADER yn Sir Gaerfyrddin wedi'i chynllunio i sicrhau bod pobl leol, busnesau a chymunedau yn cymryd rhan wrth ddarparu atebion cynaliadwy, ond arloesol i fynd i'r afael â rhai o'r heriau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sy'n wynebu ardaloedd gwledig.

Mae rhaglen LEADER Sir Gaerfyrddin yn cael ei rheoli gan Grŵp Gweithredu Lleol (GGLl) Grŵp Cefn Gwlad, sydd wedi datblygu strategaeth a fydd yn darparu'r fframwaith ar gyfer gweithgarwch LEADER o fewn y Sir.

Ar hyn o bryd mae 37 o brosiectau yn Sir Gaerfyrddin, sy'n rhychwantu themâu LEADER.

Detholiad o Astudiaethau Achos a Dichonoldeb sy'n rhychwantu themâu megis -
Digidol - Llanybydder yn dod yn dref GLYFAR
Lles - Rhwydwaith Calon Cymru
Cymuned - Datblygu asedau cymunedol

Dolenni a Gwybodaeth Ddefnyddiol

Uned Gymorth Rhwydwaith Gwledig Cymru Dolenni Defnyddiol

Cynllun grant Allwedd Band Eang Cymru | LLYW.CYMRU

Cylchlythyrau Eraill

 
 
 

Amdanom ni

Mae Newyddion Rhwydwaith Gwledig Cymru yn cynnig crynodeb o newyddion, gwybodaeth a chyfleoedd rhwydweithio sy’n gysylltiedig â Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020. Mae’n ffordd hwylus i rannu gwybodaeth ac enghreifftiau o arferion da yng Nghymru, y DU ac Ewrop. Os hoffech chi gyfrannu unrhyw beth sy’n berthnasol i ddatblygu gwledig yng Nghymru, cysylltwch â Rhwydwaithgwledig@llyw.cymru

Rhagor o wybodaeth ar y we:

businesswales.gov.wales/walesruralnetwork/cy

Dilyn ar-lein: