|
|
|
Ers mis Medi, mae RPW yn cysylltu â chwsmeriaid ar-lein RPW nad ydynt wedi newid i'r rheolau newydd, er mwyn mapio eu tir trwy ddefnyddio Reoli Fy CPH.
|
|
|
Mae'r mesurau lletya newydd, a ddaw i rym ddydd Llun 29 Tachwedd, yn golygu y bydd yn ofyniad cyfreithiol i bob ceidwad adar ledled y DU gadw eu adar dan do a dilyn mesurau bioddiogelwch llym er mwyn cyfyngu ar ledaeniad a dileu'r clefyd.
|
|
|
Ar 3 Tachwedd 2021, datganodd y Gweinidog Materion Gwledig Barth Atal Ffliw Adar Cymru gyfan.
O’r 8 Tachwedd, ni all crynoadau o
- galifform (gan gynnwys ffesantod, petris, sofliarod, ieir, twrciod, ieir gini), ac
- anserifform (gan gynnwys hwyaid, gwyddau, elyrch)
ddigwydd mwyach. Mae hyn yn dilyn cynnydd yn y risg o ffliw adar.
|
|
|
Mae hawliau BPS 2021 wedi cynyddu mewn gwerth ar ôl ystyried gwerth hawliau heb eu hawlio a chyllideb y Gronfa Genedlaethol heb ei neilltuo yn 2021. Bydd cwsmeriaid sydd wedi derbyn taliad ymlaen llaw yn gweld y cynnydd hwn yn cael ei adlewyrchu yn Natganiad Hawliau eu llythyr talu ymlaen llaw 2021. Bydd y rhai nad ydynt wedi derbyn taliad ymlaen llaw yn cael y cynnydd hwn pan wneir eu taliad llawn.
|
|
|
Mae y cyfleuster hysbysu am drosglwyddo ar gyfer 2022 ar gael nawr ar RPW Ar-lein. Mae’n rhaid i RPW gael gwybod erbyn 15 o Fai2022 os yw’r sawl sy’n eu derbyn am hawlio taliad arnyn nhw ym mlwyddyn cynllun BPS 2022.
|
|
|
Contractau Glastir
Os oes disgwyl i'w contractau ddod i ben ar 31 Rhagfyr 2021, bydd pobl gymwys sydd â chontract Glastir Uwch, Tir Comin Glastir a Glastir Organig yn cael cynnig estyniadau. Mae RPW wedi ychwanegu llythyrau at gyfrifon ar-lein RPW gyda rhagor o fanylion. Bydd angen ichi wirio’ch cyfrifon RPW Ar-lein yn rheolaidd i wneud yn sicr eich bod yn gweithredu mewn modd amserol.
|
|
|
Lansiodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd ymgynghoriad ar Raglen o’r Newydd ar gyfer Dileu TB yn ystod Datganiad Llafar ar 16 Tachwedd. Rydym yn gwahodd sylwadau ar ddiwygiadau i’n rhaglen dileu TB ac yn ymgynghori ar fesurau i’w cynnwys mewn rhaglen ddiwygiedig. Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 8 Chwefror 2022.
|
|
|
Mae Llywodraeth Cymru’n gofyn am farn ar gynlluniau i newid sut y caiff da byw eu hadnabod, eu cofrestru a sut y dylid adrodd ar eu symudiadau. Mae’r ymgynghoriad, sy’n rhedeg tan 2 Ionawr, yn ymwneud â phrosesau ar gyfer defaid, geifr, gwartheg a moch ynghyd â’r bwriad i weithredu Dyfeisiau Adnabod Electronig Buchol.
|
|
|
Cynhyrchwyd cofrestr daliad dwyieithog newydd ar gyfer gwartheg. Os hoffech gael copi o'r gofrestr newydd, gallwch ei lawrlwytho o’n gwefan. Os yw'n well gennych gopi wedi'i argraffu ymlaen llaw, cysylltwch ag EIDCymru gyda'ch enw a'ch cyfeiriad a byddant yn postio un atoch chi:
|
|
|
Ffair Aeaf 2021 (29 - 30 Tachwedd)
Byddwn yn bresennol yn Ffair Aeaf flynyddol Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru (CAFC) ar Faes y Sioe yn Llanelwedd. Dyma fydd ein presenoldeb corfforol cyntaf mewn digwyddiad CAFC mewn bron i 2 flynedd. Ewch i'n stondin i gael y wybodaeth ddiweddaraf am Faterion Gwledig - edrychwn ymlaen at eich gweld yno!
|
|
|
Mae'r Diweddariad Gaeaf bellach wedi'i gyhoeddi ar-lein. Mae'n cynnwys gwybodaeth, dyddiadau pwysig a newidiadau i reolau o amrywiaeth o feysydd allweddol sy'n ymwneud â materion gwledig.
|
|
|
Mae'r adroddiad sy'n cynnwys canfyddiadau'r darn hwn o ymchwil gymdeithasol bellach ar gael. Diolch yn fawr I bawba gyfrannodd at yr arolwg ffôn, a gynhaliwyd fel rhan o'r gwaith hwn. Cysylltwch â environmentalevidence@llyw.cymru os oes gennych unrhyw ymholiadau.
|
|
|
Ymgeisiwch i ddatblygu eich sgiliau, datblygu eich busnes a cynllunio ar gyfer y dyfodol:
- mae cymhorthdal o hyd at 80% ar gael ar gyfer cyrsiau hyfforddiant i unigolion sydd wedi cofrestru
- mae mwy na 70 o gyrsiau ar gael, dan gategorïau ‘Busnes’, ‘Tir’ a ‘Da Byw’
- rhwydwaith o ddarparwyr hyfforddiant cymeradwy wedi’u lleoli ledled Cymru
Am rhestr lawn o gyrsiau neu am gymorth ar sut i ymgeisio, cysylltwch â’ch swyddog datblygu lleol, Canolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813.
|
|
|
Mae Rhaglen TGCh Cyswllt Ffermio yn dod i ben ddiwedd mis Rhagfyr 2021, felly rydym yn annog pawb i ddefnyddio'r hyfforddiant cyfrifiadurol a ariennir yn llawn nawr cyn ei derfyn:
- anogir y rhai sydd â diddordeb mewn gwella eu sgiliau cyfrifiadurol i archebu lle cyn gynted â phosibl, er mwyn osgoi cael eu siomi, gan fod lleoedd yn gyfyngedig
- mae'r cyrsiau sydd ar gael yn ystod mis Rhagfyr yn cynnwys cyrsiau sylfaenol a chanolradd Microsoft Excel a'r cwrs gloywi Cyfryngau Cymdeithasol
|
|
|
Gyda'r uwchgynhadledd COP26 drosodd, rhaid i’r Byd ddechrau weithredu i cyflawni'r targed o sero-net erbyn 2050. Eisoes yn gwneud cyfraniad cadarnhaol, gall ein diwydiant fynd ymhellach ac mae Cyswllt Ffermio yma i helpu pob busnes ffermio a choedwigaeth yng Nghymru ar eu taith.
|
|
|
Mae fferm laeth yn Sir Gâr yn gwella ansawdd silwair trwy gyflwyno mân newidiadau i reolaeth y clamp. Mae cynyddu dwysedd y clamp silwair wedi bod yn ffocws ar fferm Nantglas, safle arddangos Cyswllt Ffermio yn Nhalog, lle mae’r cynhyrchwr llaeth Iwan Francis yn cadw dwy fuches sy’n lloia mewn bloc.
|
|
|
Mae cynhyrchwyr bîff o’r fuches odro’n cyflawni cynnydd byw dyddiol o 1kg/dydd oddi ar y borfa ar system bori cylchdro. Mae Neil Davies wedi trawsnewid ei system dda byw ers dod yn un o ffermwr arddangos Cyswllt Ffermio, gan newid o gynhyrchu gwartheg bîff sugno i fagu a phesgi gwartheg bîff o’r fuches odro a brynir i mewn.
|
|
|
Mae'r UGRGC yn cynorthwyo cyfnewid syniadau rhwng sefydliadau gwledig. Mae ar gael i unrhyw un:
- gyda diddordeb mewn datblygu gwledig
- ymwneud â Chymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 a'r cynlluniau y mae'n eu hariannu.
|
|
|
Cymorth un-i-un cyfrinachol. Os ydych angen trafod unrhyw beth cysylltwch gyda un o’r swyddogion.
|
Llinellau Cymorth
FarmWell Cymru
Mae Farm Well Cymru yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf a manylion am wasanaethau cymorth i ffermwyr Cymru, a all eu helpu nhw a'u busnesau fferm i aros yn gryf ac yn gydnerth drwy gyfnodau o newid ac anwadalrwydd.
Wefan: https://farmwell.cymru/
Cronfa Addington
Ffoniwch: 1926 620135
Wefan: https://www.addingtonfund.org.uk/
Sefydliad DPJ
Ffoniwch:0800 587 4262 neu tecst: 07860 048799
Ebost: contact@thedpjfoundation.com
Wefan: https://www.thedpjfoundation.co.uk/
Y Rhwydwaith Cymunedau Fferm
Ffoniwch: 03000 111 999
Wefan: https://fcn.org.uk/?lang=cy
Sefydliad Fuddianol Amaethyddol Frenhinol (RABI)
Ffoniwch: 0800 188 4444
E-bost: help@rabi.org.uk
Wefan: https://rabi.org.uk/
Tir Dewi
Ffoniwch: 0800 121 47 22
Wefan: https://tirdewi.co.uk/cy/hafan/
|
|