 |
|
Bydd dysgwyr yng Nghymru yn cael cyfleoedd gwell i chwarae a dysgu gydag offerynnau cerdd, fel rhan o £6.82m mewn gyllid a gyhoeddwyd gan Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, i ddarparu adnoddau cerddoriaeth ychwanegol i ysgolion
|
 |
|
I nodi dathliadau canmlwyddiant yr Urdd, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid felly bod mynediad i Eisteddfod yr Urdd y flwyddyn nesaf am ddim, gyda'r nod o wneud yr eisteddfod yn hygyrch i bawb.
|
 |
|
Bob blwyddyn, mae miloedd o ddysgwyr 14-16 oed ledled Cymru yn astudio am gymwysterau mewn gwyddoniaeth ac yn mynd yn eu blaenau i gael gyrfaoedd fel meddygon, deintyddion, fferyllwyr ac ymchwilwyr gwyddoniaeth.
|
Diweddariad i’r cwestiynau cyffredin
- Beth yw'r newidiadau i ganllawiau ar ddefnyddio gorchuddion wyneb mewn ysgolion?
- A oes angen Gorchuddion Wyneb mewn lleoliadau gofal plant?
- Beth yw'r canllawiau presennol ar ddefnyddio gorchuddion wyneb mewn ysgolion?
Asedau Torri trosglwyddiad
Sut y byddwn yn ystyried hawliau plant a phobl ifanc yn ein gwaith.
Fersiwn i blant a phobl ifanc
Bydd cyllid ar gael yn ystod blwyddyn academaidd 2021/2022 i gefnogi rôl mentor sefydlu. Diben y cyllid yw galluogi ysgolion i ryddhau mentoriaid sefydlu i gefnogi athrawon newydd gymhwyso.
Mae ysgolion bellach yn gallu amserlennu Asesiadau Personol Rhifedd (Rhesymu), yn ogystal ag Asesiadau Personol Rhifedd (Gweithdrefnol) a Darllen. Gweler y Llawlyfr Asesiadau am fanylion ynghylch y gofynion, nodweddion allweddol a defnydd o asesiadau ymgyfarwyddo.
Jane Hutt, AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Rydym yn chwilio am 3 Aelod Bwrdd newydd i ymuno â'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru. Mae'r Bwrdd yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu her, cefnogaeth a chyfeiriad adeiladol. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 22 Rhagfyr 2021.
Am fanylion pellach ac i wneud cais
Dydd Iau 27 Ionawr 2022, 9am-3pm Yn cynnwys siaradwyr gwadd sef yr Athro Michael West CBE, Maggie Farrah, Andy McCann, a lleisiau o'r sector addysg. Bydd y gynhadledd yn archwilio ‘Arweinyddiaeth Dosturiol’ a sut y gallwn ddefnyddio’r athroniaeth hon i feithrin diwylliant ar draws y sector addysg lle mae lles ein harweinwyr yn cael eu blaenoriaethu. Am ddim, ar agor i bawb, rhaid cadw lle.
Rydym eisiau clywed eich barn ar y Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Urddas Mislif. Ymgynghoriad yn cau: 12 Ionawr 2022
Cynllun gweithredu strategol ar gyfer urddas mislif fersiwn pobl ifanc
Mae’r Alwad am dystiolaeth ar agor tan 4 Chwefror 2022. Mae’n gofyn am farn, tystiolaeth ategol ac awgrymiadau ar newidiadau posibl i’r fframwaith deddfwriaethol a’r canllawiau ar gyfer rheoleiddio ysgolion annibynnol. I ymateb, os gwelwch yn dda, defnyddiwch yr holiadur ar lein neu ebostio bwydysgolacysgolionannibynnol@llyw.cymru
Mae gan bob athro cyflenwi yr hawl i gael ei gyfrif Hwb Athrawon Cyflenwi cludadwy ei hun (sy’n cynnwys Office 365, yn ogystal â'ch cyfeiriad e-bost Hwb eich hun). Tîm Hwb Athrawon Cyflenwi sy'n creu cyfrifon Hwb Athrawon Cyflenwi ac mae modd cysylltu â nhw yn CymorthCyflenwi@llyw.cymru
Mae The Politics Project yn recriwtio ysgolion i gymryd rhan yn y rhaglen Deialog Ddigidol: Cymru. Mae'r rhaglen rhad ac am ddim hon yn helpu dysgwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth o wleidyddiaeth cyn Etholiadau Llywodraeth Leol 2022, drwy ymgysylltu ar-lein â gwleidyddion lleol a chenedlaethol. Darperir adnoddau Dysgu Proffesiynol ac adnoddau ystafell ddosbarth hefyd.
Mae Technocamps yn cynnig gweithdai Cyfrifiadureg a STEM rhad ac am ddim i ysgolion yng Nghymru. Mae pynciau'n cynnwys Datblygu'r We, Adobe Animate, Datblygu Gemau, Python, Roboteg a llwyth mwy. Gall pob gweithdy gael ei addasu at anghenion yr ysgol.
Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn croesawu enwebiadau ar gyfer pobl, prosiectau a sefydliadau ledled Cymru sy’n dangos y trawsnewid grymus y gall dysgu gydol oes ei wneud. Dyddiad cau enwebiadau yw dydd Mawrth 1 Mawrth 2022.
|