eCylchlythyr Dysg: 10 Rhagfyr 2021 • Rhifyn 647

10 Rhagfyr 2021 • Rhifyn 647

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Education - Music

£6.82m i gefnogi cerddoriaeth a’r celfyddydau

Bydd dysgwyr yng Nghymru yn cael cyfleoedd gwell i chwarae a dysgu gydag offerynnau cerdd, fel rhan o £6.82m mewn gyllid a gyhoeddwyd gan Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, i ddarparu adnoddau cerddoriaeth ychwanegol i ysgolion

Education - Urdd

£500,000 i roi mynediad am ddim i Eisteddfod yr Urdd ym mlwyddyn ei chanmlwyddiant

I nodi dathliadau canmlwyddiant yr Urdd, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid felly bod mynediad i Eisteddfod yr Urdd y flwyddyn nesaf am ddim, gyda'r nod o wneud yr eisteddfod yn hygyrch i bawb. 

estyn blue

Estyn – adroddiad thematig: Dydyn ni ddim yn dweud wrth ein hathrawon - Profiadau o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith disgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru

Datganiad Ysgrifenedig: Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion mewn lleoliadau addysg 

blog 90 x 90

Creu mwy o gyfleoedd i ddysgwyr astudio gwyddoniaeth yng Nghymru

Bob blwyddyn, mae miloedd o ddysgwyr 14-16 oed ledled Cymru yn astudio am gymwysterau mewn gwyddoniaeth ac yn mynd yn eu blaenau i gael gyrfaoedd fel meddygon, deintyddion, fferyllwyr ac ymchwilwyr gwyddoniaeth.

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Ysgolion: canllawiau coronafeirws

Diweddariad i’r cwestiynau cyffredin

  • Beth yw'r newidiadau i ganllawiau ar ddefnyddio gorchuddion wyneb mewn ysgolion? 
  • A oes angen Gorchuddion Wyneb mewn lleoliadau gofal plant?
  • Beth yw'r canllawiau presennol ar ddefnyddio gorchuddion wyneb mewn ysgolion?

'Torri trosglwyddiad' Ymgyrch ddiweddaraf Cadw Gymru'n Ddiogel di lansio 

Asedau Torri trosglwyddiad

Cynllun Hawliau Plant Drafft 2021

Sut y byddwn yn ystyried hawliau plant a phobl ifanc yn ein gwaith.

Fersiwn i blant a phobl ifanc

Mentoriaid sefydlu i gefnogi athrawon newydd gymhwyso

Bydd cyllid ar gael yn ystod blwyddyn academaidd 2021/2022 i gefnogi rôl mentor sefydlu. Diben y cyllid yw galluogi ysgolion i ryddhau mentoriaid sefydlu i gefnogi athrawon newydd gymhwyso.

Mae’r Asesiadau Personol Rhifedd (Rhesymu) wedi’u lansio!

Mae ysgolion bellach yn gallu amserlennu Asesiadau Personol Rhifedd (Rhesymu), yn ogystal ag Asesiadau Personol Rhifedd (Gweithdrefnol) a Darllen. Gweler y Llawlyfr Asesiadau am fanylion ynghylch y gofynion, nodweddion allweddol a defnydd o asesiadau ymgyfarwyddo.

Datganiad Ysgrifenedig: Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2020-21

Jane Hutt, AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

newyddion addysg arall

Penodiadau Cyhoeddus - Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Rydym yn chwilio am 3 Aelod Bwrdd newydd i ymuno â'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru. Mae'r Bwrdd yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu her, cefnogaeth a chyfeiriad adeiladol. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 22 Rhagfyr 2021.

Am fanylion pellach ac i wneud cais

Cynhadledd Lles Ar-lein yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol

Dydd Iau 27 Ionawr 2022, 9am-3pm Yn cynnwys siaradwyr gwadd sef yr Athro Michael West CBE, Maggie Farrah, Andy McCann, a lleisiau o'r sector addysg. Bydd y gynhadledd yn archwilio ‘Arweinyddiaeth Dosturiol’ a sut y gallwn ddefnyddio’r athroniaeth hon i feithrin diwylliant ar draws y sector addysg lle mae lles ein harweinwyr yn cael eu blaenoriaethu. Am ddim, ar agor i bawb, rhaid cadw lle.

YMGYNGHORIADAU

Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Urddas Mislif

Rydym eisiau clywed eich barn ar y Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Urddas Mislif. Ymgynghoriad yn cau: 12 Ionawr 2022

Cynllun gweithredu strategol ar gyfer urddas mislif fersiwn pobl ifanc

Mae’r Alwad am dystiolaeth  ar agor tan 4 Chwefror 2022.  Mae’n gofyn am farn, tystiolaeth ategol ac awgrymiadau ar newidiadau posibl i’r fframwaith deddfwriaethol a’r canllawiau ar gyfer rheoleiddio ysgolion annibynnol. I ymateb, os gwelwch yn dda,  defnyddiwch yr holiadur ar lein neu ebostio bwydysgolacysgolionannibynnol@llyw.cymru

HWB AC ADNODDAU ERAILL

Hwb i Athrawon Cyflenwi

Mae gan bob athro cyflenwi yr hawl i gael ei gyfrif Hwb Athrawon Cyflenwi cludadwy ei hun (sy’n cynnwys Office 365, yn ogystal â'ch cyfeiriad e-bost Hwb eich hun). Tîm Hwb Athrawon Cyflenwi sy'n creu cyfrifon Hwb Athrawon Cyflenwi ac mae modd cysylltu â nhw yn CymorthCyflenwi@llyw.cymru 

Ceisiadau wedi agor ar gyfer llwybr TAR arloesol y Brifysgol Agored

Paratoi at Academi E-chwaraeon Cymru Minecraft

Beth sy'n newydd yn Hwb: 09 Rhagfyr

NEWYDDION ARALL

Deialog Ddigidol: Cymru – Recriwtio Ysgolion Nawr

Mae The Politics Project yn recriwtio ysgolion i gymryd rhan yn y rhaglen Deialog Ddigidol: Cymru. Mae'r rhaglen rhad ac am ddim hon yn helpu dysgwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth o wleidyddiaeth cyn Etholiadau Llywodraeth Leol 2022, drwy ymgysylltu ar-lein â gwleidyddion lleol a chenedlaethol. Darperir adnoddau Dysgu Proffesiynol ac adnoddau ystafell ddosbarth hefyd.

Gweithdai STEM Rhad ac am Ddim i Ysgolion Uwchradd yng Nghymru

Mae Technocamps yn cynnig gweithdai Cyfrifiadureg a STEM rhad ac am ddim i ysgolion yng Nghymru. Mae pynciau'n cynnwys Datblygu'r We, Adobe Animate, Datblygu Gemau, Python, Roboteg a llwyth mwy. Gall pob gweithdy gael ei addasu at anghenion yr ysgol.

Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion 2022 – Enwebiadau ar agor!

Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn croesawu enwebiadau ar gyfer pobl, prosiectau a sefydliadau ledled Cymru sy’n dangos y trawsnewid grymus y gall dysgu gydol oes ei wneud. Dyddiad cau enwebiadau yw dydd Mawrth 1 Mawrth 2022.

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl

Blog Cwricwlwm i Gymru

Diwygio’r cwricwlwm

Dilynwch ni ar Facebook:

Addysg Cymru

 

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym

@HwbNews

 

Dilynwch ni ar YouTube:

Addysg Cymru